Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi heddiw ei bod yn estyn pumed cyfnod ymgeisio'r Grant Busnes i Ffermydd a bydd yn awr yn cau ar 26 Hydref.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod y grant hwn yw helpu ffermwyr i wella perfformiad economaidd ac amgylcheddol eu daliadau amaethyddol.  Mae'n eu helpu i gryfhau'u busnesau a'u gwneud yn fwy effeithlon ac ecogyfeillgar trwy gyfrannu at eu buddsoddiadau cyfalaf mewn offer a pheiriannau. 

Taliadau Gwledig Cymru sy'n gweinyddu'r Grant ac mae'n elfen bwysig o Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-20. 

Bydd angen i ffermwr fod wedi mynd ar sesiwn Ffermio i’r Dyfodol er mwyn cael gwneud cais. Cewch fwy o wybodaeth am y grant a sut i wneud cais ar dudalen y Grant Busnes i Ffermydd ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:  

"Gan na all neb ddweud faint o arian a ddaw gan Lywodraeth y DU yn y dyfodol, efallai mai dyma fydd y cyfnod ymgeisio olaf am y Grant Busnes i Ffermydd. Rwyf felly wedi penderfynu estyn y dyddiad cau tan 26 Hydref er mwyn i ffermwyr gael mwy o amser i ymgeisio am yr arian pwysig hwn. 

"Mae'r Grant yn rhoi'r modd i ffermwyr wneud buddsoddiadau pwysig yn eu busnesau er mwyn eu cryfhau a'u gwneud yn fwy effeithiol a chynyddu'u cynhyrchiant. Gwnaeth y cyfnod hir twym yn yr haf roi pwysau a chreu costau mawr i ffermwyr, felly mae'r grant hwn yn arbennig o amserol. 

"Rwy'n pwyso ar bob ffermwr cymwys sydd wedi bod ar sesiwn Ffermio i'r Dyfodol ystyried gwneud cais yn y cyfnod estynedig sydd wedi'i drefnu."