Mae’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi heddiw y bydd £5m yn ychwanegol ar gael ar gyfer cynllun rhyddhad ardrethi’r stryd fawr yn 2018-19.
Bydd y cynllun, sy’n unigryw i Gymru, yn rhoi cymorth ychwanegol i tua 13,000 o fusnesau bach a chanolig eu maint ym mhob rhan o’r wlad, gan gynnwys siopau, tai bwyta, caffis, tafarnau a bariau gwin.
Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r cynllun, a sefydlwyd yn wreiddiol ar gyfer 2017-8 yn unig. Bydd busnesau sy’n gymwys yn cael gostyngiad o hyd at £750 ar eu biliau ardrethi annomestig.
Dywedodd yr Athro Drakeford:
“Mae’r cymorth ychwanegol hwn, sy’n estyn cynllun rhyddhad ardrethi’r stryd fawr hyd at 2018-19, ynghyd â’n penderfyniad i wneud y cynllun gwerth £100m ar gyfer rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn un parhaol o fis Ebrill ymlaen, yn sicrhau bod trethdalwyr ar draws Cymru yn cael cymorth i dalu eu biliau.
“Bydd cyfeirio’r cymorth at fusnesau’r stryd fawr yn eu helpu wrth iddynt wynebu effaith y sefyllfa economaidd sydd ohoni, a’r gystadleuaeth oddi wrth fusnesau ar gyrion trefi a darparwyr ar-lein.”