Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 13 Mai 2019.

Cyfnod ymgynghori:
18 Chwefror 2019 i 13 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb o’r canlyniad

Mae'r crynodeb o ymatebion bellach ar gael ar Gov.uk

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn ceisio eich safbwyntiau ar gynigion i ddiwygio'r system gyfredol ar gyfer cynhyrchwyr deunyddiau pacio drwy gyflwyno cyfrifoldebau estynedig i gynhyrchwyr deunyddiau pacio (EPR).

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae EPR yn bolisi amgylcheddol sy'n gwneud cynhyrchwyr yn gyfrifol am eu cynhyrchion. Mae EPR yn estyn y cyfrifoldeb hwnnw i'r cyfnod ar ôl i gynnyrch gael ei ddefnyddio. Byddai hyn yn cynnwys sut y gwaredir ar y cynnyrch.

Rydym yn ymgynghori ar y cyd â Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon.

Mae ymgynghoriad cyfochrol yn cael ei gynnal ar gynllun dychwelyd ernes (DRS) ar gyfer cynhwysyddion yng Nghymru a Lloegr.

Hoffem eich annog i edrych ar yr ymgynghoriad ar yr DRS ac ymateb iddo wrth ichi ystyried eich ymateb i'r ymgynghoriad EPR hwn.

Mae'r ymgynghoriadau'n cael eu cynnal yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA).

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar GOV.UK