Daeth yr ymgynghoriad i ben 13 Gorffennaf 2018.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 621 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn gofyn eich barn am orchymyn deddfwriaethol a ddiweddarwyd ac am ganllawiau ar reoli mannau addoli rhestredig penodol yng Nghymru. Rydym yn awyddus hefyd ichi fynegi barn am ganllawiau newydd ar reoli henebion cofrestredig.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
O dan y Gorchymyn Esemptiad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1994, mae grwpiau crefyddol penodol wedi'u heithrio o'r angen i sicrhau cydsyniad adeilad rhestredig neu ardal gadwraeth ar gyfer gwaith i'w safleoedd addoli hanesyddol. Er mwyn bod yn gymwys i'w heithrio, mae'n rhaid iddynt ddangos bod ganddynt systemau rheoli sy'n ymdebygu i'r rhai hynny sydd gan awdurdodau cynllunio lleol.
Rydym yn ymgynghori ar orchymyn a chanllawiau newydd sy'n adlewyrchu'r amodau a'r arferion eglwysig cyfredol yng Nghymru. Dyma'r prif newidiadau:
- dileu'r esemptiad ar gyfer cydsyniad ardal gadwraeth
- tynnu'r Eglwys Unedig Ddiwygiedig o'r rhestr o enwadau esempt
- egluro pa adeiladau y mae'r esemptiad yn berthnasol iddynt.
Rydym yn awyddus hefyd ichi fynegi barn am ganllawiau newydd ar reoli henebion cofrestredig.