Neidio i'r prif gynnwy

Diben

1. Mae'r papur hwn yn ystyried y berthynas rhwng Erasmus+ ac ESF yng nghyddestun Brexit. Fe'i drafftiwyd fel papur gwybodaeth i'w nodi, mewn ymateb i gais gan aelod EAG - Dr Hywel Ceri Jones. Mae'r papur yn gwneud y canlynol:

  • darparu trosolwg o Erasmus+ ac ESF
  • nodi meysydd lle ceir gorgyffwrdd
  • nodi effeithiau posibl Brexit
  • amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru o ran polisi ar ariannu yn y dyfodol a symudedd myfyrwyr.

Erasmus+

2. Erasmus+ yw rhaglen yr UE ar gyfer addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon. Mae'n rhedeg am saith mlynedd, o 2014 i 2020, a chaiff sefydliadau eu gwahodd i ymgeisio am gyllid bob blwyddyn i ymgymryd â gweithgareddau creadigol a gwerth chweil. Mae'n agored i sefydliadau addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon ar draws pob sector dysgu gydol oes yn y meysydd canlynol:

  • addysg uwch
  • ysgolion
  • addysg oedolion
  • addysg a hyfforddiant galwedigaethol
  • ieuenctid a diwylliant a chwaraeon.

3. Mae cyllid ar gyfer prosiectau yng Nghymru drwy Erasmus+ yn cyfateb i £40.7 miliwn EWRO ers 2014. Mae cyfanswm y cyllid a ddyfarnwyd i brosiectau yng Nghymru yn cyfateb i ryw 6% o gyfanswm cyllid Erasmus+ y DU a ddyfarnwyd ers 2014.

Sector Gwerth (€) Prosiectau
Addysg Uwch 17,292,399 58
Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol 8,253,747 39
Ysgolion 11,566,307 83
Dysgu i oedolion 852,142 8
Ieuenctid 2,769,005 60
Cyfanswm 40,733,600 248

4. Mae rhaglen y DU yn cael ei goruchwylio gan Adran Addysg y DU. Caiff ei rheoli gan Fwrdd y Rhaglen a chynrychiolir Llywodraeth Cymru ar y bwrdd hwnnw. Yr Asiantaeth Genedlaethol (y British Council mewn partneriaeth ag Ecorys) sy'n cynnal y gwaith o ddarparu Erasmus+ yn y DU, ac fe'i hategir gan Bwyntiau Cyswllt Cenedlaethol ym mhob un o bedair gwlad y DU. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru’n cyfrannu tua £200,000 y flwyddyn tuag at gostau Erasmus+ i Lywodraeth y DU (yn seiliedig ar y fformiwla Barnett sy’n seiliedig ar y boblogaeth). Mae hyn yn cynnwys costau rheoli, darparu a hyrwyddo'r rhaglen a sicrhau bod sefydliadau o Gymru yn gallu manteisio ar y gronfa.

5. Ar gyfer y cyfnod 2021-2027, mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn bwriadu dyblu cyllideb y rhaglen, a chynnig mwy o opsiynau tymor byr a hyblyg ar gyfer astudio dramor gan ganolbwyntio ar fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig. Bydd cyllideb arfaethedig Erasmus+ yn cyrraedd 30 biliwn Ewro dros y cyfnod, gan alluogi'r UE i gefnogi 12 miliwn o bobl drwy dreblu nifer y cyfranogwyr. Mae’n cynnwys dyraniad o 700 miliwn Ewro hefyd ar gyfer tocynnau ‘inter-rail’ i bobl ifanc. Mae'r Comisiwn yn cynnig sefydlu un Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd hefyd, gan integreiddio rhaglen bresennol Gwirfoddolwyr Cymorth yr UE ac alinio nodau megis cryfhau hunaniaeth Ewropeaidd. Bydd y Corfflu’n cynnig cyfle unigryw i ddinasyddion Ewrop gymryd rhan mewn gweithgareddau dyngarol gyda phobl mewn angen o fewn Ewrop a'r tu allan iddi. Mae strwythur y rhaglen newydd arfaethedig yn parhau i fod yn debyg iawn i'r un bresennol, gan gynnal y tri cham gweithredu allweddol:

  • Cam gweithredu allweddol 1 Symudedd
  • Cam gweithredu allweddol 2 Cydweithredu er mwyn Arloesi a Chyfnewid Arferion Da
  • Cam gweithredu allweddol 3 Cymorth ar gyfer Diwygio Polisi.

Cronfa Gymdeithasol Ewrop

6. Yr ESF yw prif adnodd Ewrop ar gyfer cefnogi swyddi, helpu pobl i gael swyddi gwell a sicrhau cyfleoedd swyddi tecach i holl ddinasyddion yr UE. Mae'n gweithio drwy fuddsoddi yng nghyfalaf dynol Ewrop – ei weithwyr, ei phobl ifanc a phawb sy'n chwilio am swydd. Nod yr ESF, drwy ariannu 10 biliwn y flwyddyn, yw gwella'r rhagolygon am swyddi yn enwedig i’r rheini sy'n ei chael yn anodd cael gwaith. 

7. Yng Nghymru blaenoriaethau'r rhaglen yw (ceir crynodeb o raglenni'r Cronfeydd Strwythurol, gan gynnwys Cronfa Gymdeithasol Ewrop):

Mynd i'r afael â thlodi drwy Gyflogaeth Gynaliadwy

  • Cynyddu cynhwysiant cymdeithasol drwy gyflogaeth gynaliadwy.
  • Cynyddu cyflogadwyedd y rhai sydd agosaf at y farchnad lafur sydd yn y perygl mwyaf o dlodi ac allgau (y gorllewin a'r cymoedd yn unig).
  • Cynyddu cyflogadwyedd pobl sy'n economaidd anweithgar ac sy'n ddiwaith ers cyfnod hir ac sydd â rhwystrau cymhleth i gyflogaeth.
  • Gostwng cyfraddau tangyflogaeth neu absenoldeb ar gyfer unigolion cyflogedig sydd â chyflyrau iechyd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio a/neu rwystrau eraill sy’n eu hatal rhag ymgysylltu'n gynaliadwy â'r farchnad lafur (y gorllewin a'r cymoedd yn unig).

Sgiliau ar gyfer twf

  • Cynyddu lefelau sgiliau'r rhai hynny yn y gweithlu cyflogedig sydd heb sgiliau neu â medrau isel.
  • Cynyddu nifer y bobl yn y gweithlu sydd â sgiliau technegol a phenodol i'r swydd ar lefel ganolradd ac uwch.
  • Cynyddu nifer y bobl sy'n ymgymryd â gweithgareddau ymchwil ac arloesi gyda mentergarwch.
  • Gwella sefyllfa menywod yn y gweithlu.

Cyflogaeth a chyrhaeddiad ieuenctid

  • Cynyddu cyflogaeth ieuenctid a chyflogadwyedd pobl ifanc.
  • Lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET) neu sydd mewn perygl o fod yn NEET.
  • Cynyddu nifer y rhai 11-19 oed sy'n dilyn pynciau STEM a lefelau cyrhaeddiad ynddynt ((y gorllewin a'r cymoedd yn unig).
  • Cynyddu sgiliau gweithlu’r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant (y gorllewin a'r cymoedd yn unig).

Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus drwy Weithio'n Rhanbarthol

  • Gweithredu fel catalydd i sbarduno atebion a modelau gwasanaeth a chynllunio newydd rhanbarthol, gan adlewyrchu'r agenda strategol a nodir yn strategaethau Llywodraeth Cymru yn Ffyniant i Bawb, y Cynllun Gweithredu ar yr Economi a'r Cynllun Cyflogadwyedd.
  • Helpu sefydliadau i arloesi a chydweithio ar sail ranbarthol i ddod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â rhai o'r heriau y maen nhw’n eu hwynebu a gwella'r ffordd y darperir gwasanaethau cyhoeddus.

8. Mae cynnydd da yn parhau ar draws y ddwy raglen ESF 2014-20, gyda 98 o brosiectau wedi eu cymeradwyo a gwerth £776 miliwn (90%) o'r cronfeydd ESF wedi’u cyflwyno (ar y gyfradd gynllunio o €1.17). Mae WEFO yn bwriadu cyflwyno’r £86 miliwn o ESF sy'n weddill drwy gymysgedd o brosiectau newydd a phrosiectau sydd ar y gweill ac ymestyn prosiectau i ddarparu mwy dros amserlenni hwy.

9. Mae'r cymorth a ddarperir i'r rhai sy'n cymryd rhan yn mynd rhagddo'n dda, gyda 182,000 a mwy o gyfranogwyr wedi'u cofnodi hyd yma (42% o'r targed cyffredinol). Mae 72,000 a mwy o gyfranogwyr wedi ennill cymwysterau ac mae 12,000 a mwy wedi cael cymorth i gael gwaith.

Y berthynas rhwng Cronfa Gymdeithasol Ewrop a’r Rhaglen Erasmus

10. Yn wahanol i gronfeydd Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a chronfeydd cystadleuol cysylltiedig ar gyfer ymchwil ac arloesi (fel Horizon 2020), nid oes cysylltiad cyfatebol uniongyrchol ac amlwg wedi'i gynllunio yn y rhaglenni ESF. Bwriad penodol buddsoddiad ERDF ar gyfer capasiti ymchwilio oedd meithrin gallu sefydliadau ac ymchwilwyr yng Nghymru fel y gallent lwyddo’n well i gael gafael ar gronfeydd ymchwil cystadleuol. Roedd hyn yn cynnwys cynllunio llwybr penodol i ragoriaeth, lle disgwylid i fuddsoddiad ERDF arwain yn uniongyrchol ac yn fesuradwy at fwy o geisiadau a llwyddiant o ran sicrhau cronfeydd cystadleuol gan Horizon 2020, Cynghorau Ymchwil y DU a'r sector preifat.

11. Fodd bynnag, mae rhaglenni ESF yn dilyn nodau ategol ond sy’n llai uniongyrchol gysylltiedig ag Erasmus. Mae ESF yn darparu cyllid ar gyfer gweithgarwch sy'n canolbwyntio'n bennaf ar ddatblygu sgiliau, cyflogaeth a chreu swyddi, tra bod Erasmus yn rhaglen i gynorthwyo staff a myfyrwyr i fynd i wledydd eraill ac yn cyfoethogi'r cwricwlwm. Er bod cyfleoedd i’r ddwy raglen gefnogi gweithgarwch, mae'r rhain braidd yn gyfyngedig oherwydd nad yr un buddiolwyr posibl sydd gan y ddwy raglen.

12. Y dull a nodwyd yn nogfennau rhaglen ESF Cymru ar gyfer 2014-20 oedd y dylai rhaglenni ESF ac Erasmus+ fod â'r potensial i ategu ei gilydd. Er enghraifft, mae rhaglenni ESF yn darparu cymorth ESF sylweddol ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol yng Nghymru (fel prentisiaethau) ac mae Erasmus+ wedi cefnogi cynllun Symudedd Dysgwyr Galwedigaethol Cymru Gyfan a gynhelir gan Colegau Cymru.

13. Felly, mae'r gydberthynas rhwng ESF ac Erasmus yn llawer llai penodol a dylid ei hystyried orau yng nghyd-destun ehangach polisi addysg a sgiliau Llywodraeth Cymru (lle mae ESF ac Erasmus yn adnoddau ac yn gyllidwyr posibl i gefnogi polisi cyffredinol).

14. Yn wir, mae’r cyfle mwyaf i greu gweithgarwch gan ddefnyddio'r ddwy raglen wedi bod drwy bolisi addysg bellach. Mae Colegau Cymru, er enghraifft, wedi edrych y tu hwnt i ffiniau Cymru er mwyn dysgu am fethodolegau addysgu, dysgu seiliedig ar waith a sicrhau ansawdd. Maen nhw wedi mynd ati i gydweithio â phartneriaid Ewropeaidd, gan ddefnyddio cyllid Erasmus+ i:

  • ddylanwadu ar y polisi
  • codi ymwybyddiaeth o werth addysg bellach
  • lledaenu a helpu i ddatblygu arfer da
  • darparu prosiectau a ariennir yn allanol sydd o fudd i ddysgwyr Addysg Bellach yng Nghymru.

ESF a Brexit

15. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir ac yn gyson yn ei chwe blaenoriaeth fel y nodwyd yn y cynllun Diogelu Dyfodol Cymru. Mae hyn yn cynnwys peidio â cholli’r un geiniog o'r £370 miliwn y flwyddyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn ar gyfer ein Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd oherwydd Brexit; fel yr addawyd yn ystod y refferendwm.

16. Lansiwyd ein polisi Buddsoddi Rhanbarthol ar ôl Brexit ar 14 Rhagfyr 2017, sy'n datblygu ein syniadau ar ddyfodol polisi buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru.

Mae'r cynigion yn cynnwys:

  • Datblygu cynlluniau ar gyfer buddsoddi rhanbarthol ledled Cymru, gan gydweithio â llywodraeth leol, busnesau a chymunedau yn yr ardaloedd hynny.
  • Buddsoddi rhanbarthol sy’n canolbwyntio ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhwng lleoliadau ac o fewn lleoliadau ac yn unol â Chynllun Gweithredu ar yr Economi Llywodraeth Cymru (EAP).
  • Pedair Llywodraeth Genedlaethol y DU yn cytuno ar reolau marchnad sengl y DU, cymorth gwladwriaethol a chanllawiau cymorth rhanbarthol er mwyn osgoi ras-i'r-gwaelod a allai niweidio cymunedau.
  • Creu Cyngor o Weinidogion Economaidd o bob un o'r pedair gwlad er mwyn sicrhau bod polisïau'n cydgysylltu ar draws y DU.
  • Gwrthod y syniad o Gronfa Ffyniant y DU a reolir gan San Steffan a galw am i gronfeydd buddsoddi rhanbarthol a phenderfyniadau barhau i gael eu gwneud yng Nghymru.

17. Mae Cymru wedi cael rheolaeth ariannol a pholisi dros gyllid datblygu rhanbarthol ers bron i 20 mlynedd ac rydym yn disgwyl cadw'r ymreolaeth honno. Byddai dull gweithredu wedi'i ganoli neu wedi’i gyfeirio yn y DU yn ymosodiad ar ein setliad datganoli. Yn ogystal, mae gan Lywodraeth y DU bwerau cyfyngedig i ariannu a chyflawni datblygu economaidd rhanbarthol yn uniongyrchol yng Nghymru, heb ddeddfwriaeth bellach. Mae ein partneriaid ledled Cymru yn rhannu’r safbwynt y dylid gwrthod dull gweithredu wedi ei ganoli yn y DU.

18. Y tu allan i'r UE, mae cyfleoedd ar gyfer dull gweithredu mwy integredig yng Nghymru sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, sy'n gysylltiedig â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Bydd y cysylltiadau posibl â rhaglenni olyniaeth yr UE yn ystod 2021-2027 yn cael eu cynnwys fel rhan o'r trafodaethau ar drefniadau olyniaeth yng Nghymru. Bydd angen ystyried y blaenoriaethau a nodwyd ar gyfer Cymru yng ngoleuni'r cynigion ar gyfer cynlluniau'r UE, fel Erasmus, er mwyn nodi meysydd cydweithredu posibl a mecanweithiau cydgysylltu.

Erasmus+ a Brexit

19. Mae Cymru wedi elwa'n sylweddol ar Erasmus ac mae Llywodraeth Cymru am barhau i fod yn aelod llawn o'r rhaglen, neu pa gynllun bynnag sy'n ei ddisodli.

20. Mae Llywodraeth y DU wedi methu â rhoi sicrwydd y byddwn yn gallu parhau i gymryd rhan yn Erasmus+. Dyna pam y byddwn yn parhau i gyflwyno'r achos dros ein prifysgolion, ein colegau a’n hysgolion i fod yn rhan lawn o'r rhaglen a sicrhau bod ein cysylltiadau Ewropeaidd yn parhau, er gwaethaf Brexit.

21. Mae'r UE wedi cyhoeddi ei reoliadau arfaethedig ar gyfer cynllun nesaf Erasmus o Ionawr 2021 i 2027. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer cyfranogiad  trydydd gwledydd. Mae Llywodraeth y DU wedi gofyn barn y Gweinyddiaethau Datganoledig ar y cynigion hyn.

22. Mae'r Cytundeb Ymadael - os cytunir arno - yn sicrhau bod yna ddarpariaeth i'r DU barhau i gymryd rhan yn Erasmus hyd ddiwedd y cynllun presennol ym mis Rhagfyr 2020. Pe bai sefyllfa "dim cytundeb", byddai gwarant gwarantu Llywodraeth y DU yn berthnasol. Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw darparu'r warant hon a'i hehangu. Nid yw'n glir beth yw sefyllfa bresennol y trafodaethau gyda’r Comisiwn ar y mater hwn.

23. Mae Llywodraeth y DU yn cynnal trafodaethau rheolaidd gyda'r Gweinyddiaethau Datganoledig er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd gyda chynlluniau ar gyfer y warant.

24. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio mwy nag erioed gyda'n prifysgolion er mwyn cryfhau cysylltiadau rhyngwladol er budd ymchwilwyr, sefydliadau, rhanbarthau economaidd a'r genedl gyfan. Rydym wedi ariannu'r British Council i ddatblygu, darparu a gwerthuso rhaglen symudedd sy'n canolbwyntio ar ddarparu detholiad ehangach o gyfleoedd, er enghraifft i Fietnam ar gyfer y bobl ifanc hynny o ardaloedd difreintiedig lle mae nifer is wedi manteisio ar y cyfleoedd.

25. Rydym yn awyddus i ddysgu o arferion gorau ledled y byd ac mae’n hollbwysig ein bod yn rhannu ein meysydd arbenigedd â'r rhai a all ddysgu gennym. Gall y cynlluniau cyfnewid hyn fod o fudd i'r ddwy wlad sy'n cymryd rhan.

Y dyfodol

26. Os yw Llywodraeth y DU yn sicrhau cyfranogiad parhaus yn Erasmus+ a bod gan Gymru reolaeth lawn dros gyllid economaidd rhanbarthol, yna bydd cyfle i barhau i adeiladu ar y gydberthynas rhwng y ddwy raglen.

27. Ar hyn o bryd, o ystyried yr ansicrwydd cyffredinol ynghylch Brexit a'r ansicrwydd penodol ynghylch cyllid economaidd rhanbarthol a mynediad y DU i raglen Erasmus, mae gwneud rhagor o waith er mwyn deall a manteisio ar y gydberthynas yn flaenoriaeth isel ac yn heriol. Unwaith y bydd y sefyllfa’n eglur ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â materion gweithredol, bydd Llywodraeth Cymru yn gallu ystyried y mater hwn. Bydd angen gwneud rhagor o waith yng nghyd-destun datblygu strategaeth ryngwladol.

Rhannu’r dudalen hon