Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi anrhydeddu arwr o'r Rhyfel Byd Cyntaf drwy enwi ar ei ôl un o'n tirnodau mwyaf newydd, sef pont sy'n 50 metr uwchlaw'r dirwedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn y seremoni swyddogol, a gynhaliwyd ddydd Llun 21 Ionawr, gwnaeth Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth sef Lee Waters ddatgelu plac Pont Jack Williams gerbron 12 aelod o deulu Jack, gan gynnwys ei wyres Ann Page. 

Roedd yr Uwchgapten  Derek Adams, ynghyd â swyddog yn y fyddin a phedwar milwr, yn bresennol er mwyn cynrychioli Catrawd Frenhinol Cymru. 

Gwnaeth y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates, a'r prif gontractiwr Costain sy'n gyfrifol am adeiladu cynllun deuoli 'Rhan 2' yr A465 sy'n estyn 8km o Frynmawr yn y gorllewin i Gilwern yn y dwyrain, wahodd aelodau'r gymuned i awgrymu enwau ar gyfer y bont ar ddiwedd y llynedd. 

Roedd tri ffefryn amlwg:

  1. Pont Jack Williams
  2. Pont Cwm Clydach
  3. Pont Bechgyn Bevin

Wrth bleidleisio dros yr enwau ar y rhestr fer penderfynodd y gymuned leol anrhydeddu John Henry Williams, sef milwr a dderbyniodd y Victoria Cross ac a fu'n byw yn y gymuned lle y mae Costain wedi gweithio dros y tair blynedd diwethaf. 

Cafodd y dyn lleol sef John - a oedd yn cael ei alw'n Jack - ei eni yn Nantyglo ym mis Medi 1886 a chafodd ei wobrwyo bedair gwaith am ei ddewrder yn ystod y Rhyfel Mawr. 

Gof yn y pyllau glo oedd John ac ymunodd â'r 10fed Bataliwn, Cyffinwyr De Cymru (rhan o Is-adran Rhif 38 Cymru) ym mis Tachwedd 1914. Cafodd ei ddyrchafu'n Uwch-Ringyll ar 2 Hydref 1917. 

Ym mis Hydref 1918 achubodd ei gwmni a hefyd bentref cyfan rhag cael eu dinistrio'n llwyr. Derbyniodd y Victoria Cross am weithred mor ddewr. Cyn hynny roedd wedi derbyn y Fedal am Ymddygiad Urddasol, y Médaille Militaire a hefyd y Fedal a'r Bar Milwrol.

Y Victoria Cross yw'r clod uchaf am ddewrder yn wyneb y gelyn y mae modd ei roi i luoedd Prydain a'r Gymanwlad. Golyga hynny, ynghyd â'r holl anrhydeddau eraill a dderbyniodd Jack WIlliams, mai ef oedd y swyddog Cymreig a dderbyniodd y nifer uchaf o anrhydeddau. 

Y strwythur mwyaf o blith y rhai sy'n rhan o brosiect 'Rhan 2' yr A465 yw pont fwa 118 metr sy'n croesi o'r gogledd i'r de ac sydd uwchlaw cerbytffordd aml-lefel yr A465, ac mae'n rhan amlwg o ran fwyaf gorllewinol Cwm Clydach. Mae'r bont newydd hefyd yn croesi Ceunant Clydach, a gaiff ei ystyried yn un o ardaloedd amgylcheddol ac ecolegol sensitif pwysicaf De Cymru. 

Dywedodd Uwch Gyfarwyddwr Prosiect Costain, Bruce Richards:

"Rydym yn eithriadol o falch ein bod wedi creu'r strwythur arbennig hwn ar gyfer trigolion a defnyddwyr ffordd yn yr ardal. Rydym yn arbennig o falch fod Llywodraeth Cymru a'r cyhoedd wedi dewis enwi'r bont ar ôl yr arwr lleol Jack Williams. Golyga hyn y bydd ei enw'n parhau o fewn y cymunedau am flynyddoedd i ddod."

Dywedodd wyres Jack, Ann Page:

"Mae'r teulu'n eithriadol o falch o Jack Williams VC ac yn ddiolchgar iawn fod pobl Blaenau Gwent yr un mor falch ohono a'u bod yn awyddus i gadw'r straeon amdano yn y cof drwy gefnogi digwyddiadau coffa. Bydd enwi'r bont arbennig hon ar ei ôl yn ysgogi diddordeb cenedlaethau'r dyfodol mewn ymchwilio i'w hanes a deall pam y dylai ei weithredoedd dewr yn ystod y Rhyfel Byd gael eu cofio am byth, yn ogystal ag aberth enfawr yr holl ddynion ifanc a'u teuluoedd. Mae Jack a holl enillwyr y Victoria Cross yn rhan bwysig o'n hanes - dyma ein dynion dewraf."

Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters:

"Roedd Jack Williams yn arwr go iawn ac mae enwi pont mor arbennig ar ei ôl, a hynny o fewn ei ardal enedigol, yn deyrnged addas i ddyn a ddylai gael ei gofio am byth. 

"Bydd y cyswllt hwn â Jack yn creu gwaddol y gall cenedlaethau'r dyfodol ei fwynhau. Mae'r ffaith ein bod yn gwneud hyn bron i 100 mlynedd yn union ers i Jack dderbyn ei Victoria Cross gan y Brenin ym Mhalas Buckingham yn gwneud y deyrnged yn un hyd yn oed mwy arbennig."