Mae heddiw yn ddiwrnod o ddathliadau mawr yng Nghymru a hynny am fod y Gogledd wedi cyrraedd rhestr deg uchaf Lonely Planet sef ‘Best in Travel 2017’ yr unig gyrchfan yn y DU i gyrraedd y rhestr.
- Rhestr Lonely Planet ‘Best in Travel 2017’ yn cael ei rhyddhau heddiw
- Gogledd Cymru yw’r unig ranbarth yn y DU i gael ei chynnwys ar y rhestr sy’n rhoi sylw i ddeg rhanbarth gorau ar draws y byd
- Ymgyrch Blwyddyn Antur Cymru yn 2016 wedi dwyn sylw i’r cyfoeth o weithgareddau sydd ar gael yma
- Draig anferth wedi’i gosod yn Llundain heddiw i nodi’r achlysur
Mae’r Gogledd yn faes chwarae i’r rhai sy’n hoffi antur, yn hafan i’r rhai sy’n hoffi bwyd, yn guddfan i’r rhai sy’n hoffi gwylio’r sêr ac yn drysorfa i’r rhai sydd ar drywydd treftadaeth. Mae’n cynnig gwyliau ar gyfer pob math o deithiwr - a daeth yn bedwaredd ar y rhestr lewyrchus hon. Yr hyn wnaeth ddal sylw Lonely Planet (awdurdod teithio mwyaf blaengar y byd), yw’r modd yr ail-fuddsoddwyd yn y dirwedd a arferai fod yn gartref i ddiwydiant gan arallgyfeirio i greu cyfres o atyniadau sydd wirioneddol o safon fyd-eang. Ceir yno weiren wib cyflym a chanolfan syrffio Surf Snowdonia ynghyd â safle thrampolinio o dan do mewn chwarel lechi 176 oed nad oedd yn cael ei defnyddio.
Mae Cymru wedi torri record dros y ddwy flynedd ddiwethaf o safbwynt ei ffigurau. Roedd nifer yr ymwelwyr yn fwy na 10 miliwn am y tro cyntaf yn 2014 ac yn 2015 roedd gwariant gan bobl o adref a phobl o dramor yn fwy nag erioed o’r blaen. Mae Cymru’n edrych ymlaen at gynnal y perfformiad hwn yn enwedig gyda’r proffil uchel a ddaeth yn sgil llwyddiant digwyddiadau megis Euro 2016 ac ymgyrch farchnata’r Flwyddyn Antur yn 2016.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
“Mae hwn yn newyddion ardderchog i Gymru wrth i’n Blwyddyn Antur ddirwyn i ben. Mae’n cael ei rhestru fel un o’r rhanbarthau gorau yn y byd gan Lonely Planet, sy’n gylchgrawn uchel ei barch ac sydd wedi’i sefydlu ers tro, wir yn bluen yn het y Gogledd.
“Wrth gwrs, bydd y wobr yn cael sylw mawr yn ein hymgyrch farchnata ar gyfer 2017 wrth inni symud ymlaen at ddathlu Blwyddyn y Chwedlau yng Nghymru. Rwy’n siŵr y bydd pobl nad ydynt wedi ymweld â Chymru o’r blaen yn ystyried Cymru fel cyrchfan gwyliau yn sgil y rhestr hon a bydd hefyd yn annog pobl sydd heb ymweld â Chymru ers tipyn i ddod yn ôl i Gymru.
“Mae’r gydnabyddiaeth hwn yn dyst i ymrwymiad a gwaith partneriaeth y sector cyhoeddus a’r sector preifat i ddarparu profiad ymwelwyr o’r radd flaenaf. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Gogledd wedi ail-fuddsoddi ynddi’i hun a thrwy ychwanegu cyfleusterau o safon fyd eang, a’r rheini ar flaen y gad, i gyd-fynd â’r golygfeydd godidog, mae hynny wedi rhoi rheswm i bobl ymweld â’r ardal. Rydym wedi gweld buddsoddiadau mewn cynhyrchion sy’n denu pobl i Gymru. Mae nifer yn dod am y tro cyntaf ac unwaith y maent yma yng Nghymru maent yn profi’r croeso cynnes, y diwylliant a hanes yr ardal.”
Dywedodd Tom Hall, Cyfarwyddwr Golygyddol Lonely Planet,
“Rydym wedi cynnwys Gogledd Cymru ar restr y deg rhanbarth uchaf eleni am ei bod yn haeddu cael ei chydnabod ar y llwyfan byd-eang. Mae’n ardal odidog sy’n cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau i ddiddanu teithwyr. Mae Gogledd Cymru wedi dod yn gyrchfan i bobl ddylanwadol sy’n ymddiddori mewn bwyd felly does dim gwahaniaeth beth sy’n mynd â bryd yr ymwelwyr, unwaith y byddant yn barod am fwyd, mae digon o ddanteithion ar eu cyfer. Mae’r Gogledd yn drysorfa a dylai’r rhanbarth fod ar radar pob teithiwr.”
I nodi’r achlysur hwn, mae draig anferth sydd wedi bod yn teithio o amgylch cestyll Cymru ers iddi adael Castell Caerffili ym mis Mawrth wedi cyrraedd Llundain heddiw. Mae i’w gweld yn agos at Eglwys Gadeiriol St Paul’s.
Mae’r ddraig yn mesur 4 metr o hyd a’i lled yn 2 fetr ac mae ganddi dafolau du a choch tebyg i ymlusgiaid. Mae mwg yn dod allan o’i ffroenau ac mae ganddi grafanc sy’n ymestyn allan a hwnnw’n dal sylw’r sawl sy’n pasio.
Ers mis Ebrill 2013, mae Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth Llywodraeth Cymru wedi cynnig cyllid i 42 o fusnesau’r Gogledd a hynny’n gyfanswm o £7.8 miliwn, gan sbarduno buddsoddiadau gwerth £11 miliwn a rhoi cymorth i 474 o swyddi. Mae prosiectau diweddar yn cynnwys cymorth ar gyfer Surf Snowdonia; Zip World; Dylans ym Morannedd Cricieth a Bryn Williams ym Mhorth Eirias. Yn sgil y rhaglen Amgylchedd ar gyfer Twf, a gafodd ei hariannu gan yr UE ac a gafodd ei chwblhau yn 2015, cafodd dros £10 miliwn ei fuddsoddi mewn prosiectau yn y gogledd. Bu hynny’n fodd i ddatblygu amrywiaeth o gynhyrchion a chyfleoedd newydd em mwyn i ymwelwyr a phobl leol eu mwynhau. Roedd hynny yn rhoi cyfle iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau o fewn amgylchedd naturiol Cymru ac ar yr arfodir.
10 Rhanbarth Gorau ar restr Best in Travel 2017- Lonely Planet
- Choquequirao, Peru
- Taranaki, Seland Newydd
- The Azores, Portiwgal
- Gogledd Cymru, y DU
- De Awstralia
- Aysén, Chile
- Y Tuamotus, French Polynesia
- Arfordir Georgia, UDA
- Perak, Malaysia
- The Skellig Ring, Iwerddon