Yn y canllaw hwn
1. Trosolwg
Mae anrhydeddau yn cydnabod ac yn gwobrwyo pobl sydd yn:
- bod yn esiampl i eraill
- arwain drwy esiampl
- dod â rhagoriaeth i Gymru
Rhoddir anrhydeddau i bobl sy’n ymwneud â meysydd fel:
- gwasanaethau cymunedol a gwirfoddol
- celfyddydau a’r cyfryngau
- iechyd a gofal cymdeithasol
- chwaraeon
- addysg
- gwyddoniaeth a thechnoleg
- busnes a’r economi
- gwasanaeth sifil neu wleidyddol
- gwasanaethau cyhoeddus
Gellir enwebu rhywun am anrhydedd ar unrhyw adeg yn ystod ei yrfa neu pan fo’n parhau i gyflawni swyddogaeth wirfoddol. Yn ddelfrydol, byddai hyn ar adeg pan fydd wedi cyflawni darn sylweddol o waith yn hytrach na thuag at ddiwedd eu bywyd gwaith. Dim ond hyd at flwyddyn wedi i unigolyn ymddeol o’i rôl y bydd anrhydeddau’n cael eu hystyried (ond yn ddelfrydol, 12 mis cyn iddo ymddeol).
Pwy sy’n haeddu cael anrhydedd?
Mae anrhydeddau yn cydnabod ac yn dathlu cyflawniadau pwysig. Nid cydnabod gwasanaeth hir yn unig y maent yn ei wneud. Mae llai o anrhydeddau bob amser nag sydd o bobl sy’n eu haeddu ac oherwydd eu bod yn brin, dylid eu cadw ar gyfer pobl:
- sydd wedi newid pethau, yn enwedig drwy gyflawniad ymarferol, cadarn
- y mae eu gwaith wedi dod â rhagoriaeth i fywyd ym Mhrydain neu sydd wedi gwella enw da Cymru a’r Deyrnas Unedig yn eu maes neu eu gweithgaredd