Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r enwebeion ar gyfer Gwobr Mercury 2019 newydd eu cyhoeddi - ac yn eu plith mae Cate le Bon, cerddor a chynhyrchydd o Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gyda thros 200 o albymau wedi'u hystyried, mae Reward gan Cate le Bon yn un o'r 12 sydd wedi'u henwebu ar gyfer gwobr eleni. 

Yn gynharach eleni, derbyniodd Cate le Bon grant trwy'r Gronfa Momentum, sy'n cael ei rheoli gan y PRS Foundation gyda nawdd ariannol Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, i gefnogi'r delweddau  a'r cynnwys yn y fideos cerdd sy'n cyd-fynd â'r ymgyrch i werthu'r abwm, yn ogystal â delweddau ar gyfer asedau ar-lein, lluniau ar gyfer y cyfryngau a gwaith celf ar gyfer yr albwm a'r wefan. Mae Cronfa Cerdd Momentum yn cynnig grantiau o £5k-£15k i artistiaid a bandiau o'r DU i'w helpu i'r lefel nesaf yn eu gyrfa. 

Cafodd artistiaid eraill o Gymru nawdd gan Momentum yn ei blwyddyn gyntaf yng Nghymru, gan gynnwys Boy Azooga, Meilyr Jones, Dan Bettridge, Pessimist (AKA Kristian Jabs), Holding Absence a Kidsmoke. 

Wedi clywed ei bod yn cael grant, dywedodd Cate:

"Bydd arian Momentum yn rhoi'r cyfle ifi wireddu fy ngweledigaeth ar gyfer yr estheteg weledol fydd yn cyd-fynd â'r albwm gan roi hunaniaeth unigryw iddi fydd yn sbardun i'r ymgyrch i'w gwerthu. 

Wrth longyfarch Cate le Bon, dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

"Mae'n wych iawn clywed bod Cate wedi'i henwebu ar gyfer y wobr bwysig hon ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu ei helpu hi i ddatblygu'r albwm. Rwy'n dymuno'r gorau iddi pan gaiff enw'r enillydd ei ddatgelu ym mis Medi. 

Dywedodd Joe Frankland, Prif Weithredwr PRS Foundation:

"Llongyfarchiadau i Cate Le Bon un o dri o artistiaid  a gefnogwyd gan Momentum sydd ar rhestr enwebiadau eleni  - ynghyd ag Anna Calvi a Little Simz. Rydym yn falch iawn ein bod, gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, trwy Momentum yn gallu cefnogi artistiaid Cymraeg talentog fel Cate a’u helpu i gyrraedd cam nesaf hanfodol eu gyrfa.