Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp o glefydau sy'n digwydd mewn pobl ac anifeiliaid yw Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE).

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r clefydau hyn yn achosi i feinwe’r ymennydd ddirywio, gan wneud iddo edrych fel sbwng. 

Maent yn glefydau angheuol a all effeithio ar wahanol rywogaethau gan gynnwys:

  • pobl
  • gwartheg
  • defaid
  • geifr
  • ceirw
  • camelidau

Mae'r clefydau'n cynnwys:

  • Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (BSE) mewn gwartheg
  • Clefyd y crafu mewn defaid a geifr
  • Nychdod cronig (CWD) mewn ceirw
  • Clefyd Creutzfeldt-Jakob (CJD) mewn pobl

Mae'r holl fathau o Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy yn glefydau hysbysadwy.

Arwyddion clinigol

Mae'r arwyddion clinigol yn dibynnu ar y math o glefyd dan sylw a'r rhywogaethau y mae'n effeithio arnynt ond maent gan amlaf yn cynnwys:         

  • newid mewn ymddygiad
  • mwy sensitif i gyffwrdd, sain a golau
  • colli'r gallu i gydsymud, syrthio, crynu
  • colli pwysau

Trosglwyddo, atal a thriniaeth

Bydd y trosglwyddiad a'r camau atal yn dibynnu ar y math o glefyd sydd dan sylw a'r rhywogaethau y mae'n effeithio arnynt. Nid oes modd trin Nychdod Cronig ar hyn o bryd.

Os ydych yn amau bod anifail wedi'i heintio:

  • dylech ei gadw ar wahân i anifeiliaid eraill, dylai gael ei ladd a dylai profion gael eu cynnal arno
  • dylech gysylltu â'ch  swyddfa Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion leol ar unwaith ar 0300 303 8268