Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd enillwyr rhanbarthol Gwobrau Twristiaeth Cymru eu cyhoeddi heddiw

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar ôl i 400 o enwau ddod i law ar gyfer Gwobrau Twristiaeth Cymru, cafodd 44 o fusnesau eu dewis yn enillwyr rhanbarthol. Byddan nhw nawr yn mynd ymlaen i rownd derfynol y gystadleuaeth genedlaethol (dolen allanol). 

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn y Celtic Manor Resort, ddydd Iau, 8 Mawrth.

Dyma’r categorïau:

  • Y Gwesty Gorau
  • Y Llety Gwely a Brecwast Gorau
  • Y Llety Hunanddarpar Gorau
  • Y Safle Gwersylla, Glampio neu Garafanau Gorau 
  • Yr Atyniad Gorau
  • Y Gweithgaredd Gorau
  • Y Digwyddiad Gorau
  • Y Lle Bwyta Gorau
  • Y Gyrchfan Orau
  • Person Ifanc Twristiaeth y Flwyddyn 
  • Gwobr i Fusnes Arloesol Twristiaeth 

Cliciwch yma i weld pwy gafodd eu dewis yn enillwyr rhanbarthol, a fydd yn mynd ymlaen i gystadleuaeth genedlaethol Gwobrau Twristiaeth Cymru 2018. 

Dywedodd y Gweinidog Twristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: 

"Dw i wrth fy modd yn cael cyhoeddi’r enillwyr rhanbarthol heddiw, a llongyfarchiadau i bob un ohonynt am gyrraedd y rownd derfynol. Rydyn ni wedi gweld cystadleuwyr o safon eithriadol o dda eleni – ac maent i gyd yn enghreifftiau rhagorol o’r hyn y mae busnesau twristiaeth yng Nghymru’n gallu ei gynnig. Dw i’n edrych ymlaen at ddathlu llwyddiannau’r diwydiant twristiaeth yn y digwyddiad Gwobrau Twristiaeth Cymru, yn y Celtic Manor Resort fis nesaf."

Dywedodd Pennaeth y Celtic Manor Resort, Ian Edwards: 

"Rydyn ni’n falch iawn o gynnal Gwobrau Twristiaeth Cymru 2018 ac rydyn ni’n edrych ymlaen at noson wych yn dathlu esiamplau gorau’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr rhanbarthol a phob lwc i bawb yn y rownd derfynol, yma yn y Celtric Manor. Roedden ni’n falch iawn o ennill y Wobr Aur llynedd ar gyfer y Busnes Twristiaeth Gorau, a gwyddom y bydd llawer mwy o enillwyr teilwng yn cael eu cydnabod eleni."