Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths, wedi ymweld â Mind Casnewydd i weld sut mae £300,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru wedi galluogi'r elusen i agor man lloches newydd yn eu hadeilad ac i ddarparu eu cyfleusterau i fwy o bobl.
Daeth yr arian o'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol sy'n gynllun grant blynyddol i helpu sefydliadau i wella cyfleusterau cymunedol fel clybiau chwaraeon a neuaddau cymunedol.
Mae'r gefnogaeth hon wedi'i gwneud yn bosibl i Mind Casnewydd ychwanegu ystafelloedd ar gyfer grwpiau, ac chynghori a hyfforddi i'r ganolfan, yn ogystal â chynyddu nifer y gwirfoddolwyr a'u hyfforddi.
Mae'r elusen yn gweithio i wella cymorth i bobl yng Nghasnewydd sydd wedi profi problemau iechyd meddwl. Mae'n yn cynnig amrywiaeth eang o gefnogaeth, fel grwpiau crefft, ysgrifennu creadigol, grwpiau ymlacio a lles, a chorau . Mae hefyd yn darparu sesiynau cwnsela a chyrsiau hunanreolaeth, yn ogystal â hyfforddiant mewn cymorth cyntaf ar gyfer iechyd meddwl.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths:
Mae'n wych gweld sut mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i Mind Casnewydd, a'r effaith gadarnhaol y mae'r cyllid yn ei chael ar bobl sy'n defnyddio eu gwasanaethau.
Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn bwysig o ran helpu sefydliadau i brynu neu wella cyfleusterau fel y gall pobl leol elwa arnynt yn eu bywydau beunyddiol.
Dywedodd Prif Weithredwr Mind Casnewydd, Dave Bland:
Mae'r cyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru, ynghyd â buddsoddiad sylweddol gan Mind Casnewydd, yn golygu y gall pobl a chymunedau Casnewydd gael gafael, ar gymorth iechyd meddwl, cwnsela a hyfforddiant yn awr mewn mannau o ansawdd uchel sy'n diwallu eu hanghenion.