Neidio i'r prif gynnwy

Cyfrifoldebau'r y Darpar Gwnsler Cyffredinol.

Cyfrifoldebau

  • Rhoi cyngor cyfreithiol i’r Llywodraeth
  • Goruchwylio gwaith yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol a Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol
  • Goruchwylio erlyniadau ar ran Llywodraeth Cymru
  • Goruchwylio cynrychioliaeth Llywodraeth Cymru yn y llysoedd
  • Ystyried a oes angen i Filiau a basiwyd gan y Senedd gael eu cyfeirio at y Goruchaf Lys er mwyn penderfynu a ydynt o fewn cymhwysedd y Senedd (gwneir hyn yn annibynnol ar y Llywodraeth)
  • Cyflawni swyddogaethau eraill er budd y cyhoedd gan gynnwys, pan fo’r Cwnsler Cyffredinol yn ystyried ei bod yn briodol, cychwyn, amddiffyn neu ymddangos mewn unrhyw achosion cyfreithiol sy’n ymwneud â swyddogaethau Llywodraeth Cymru (gwneir hyn yn annibynnol ar y llywodraeth)
  • Cydlynu â'r Sector Cyfreithiol a Chyngor Cyfraith Cymru
  • Hygyrchedd cyfraith Cymru

Sylwer: Gan nad yw'r Darpar Cwnsler Cyffredinol yn un o Weinidogion Cymru a benodir o dan adran 48 o Ddeddf Llywodraeth Cymru, nid oes modd i'r Darpar Cwnsler Cyffredinol arfer pwerau a roddir i Weinidogion Cymru. Bydd unrhyw fater sydd angen penderfyniad ffurfiol gan Weinidogion Cymru o dan bŵer statudol yn cael ei arfer gan y Prif Weinidog neu Weinidog portffolio penodol.

Ysgrifennu at Elisabeth Velina Jones