Neidio i'r prif gynnwy

Pryd a sut i ddefnyddio'r elfen dolenni perthnasol ar LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd i'w ddefnyddio

Cyn ei ddefnyddio, dylech wneud yn siŵr a yw'r elfen hon yn briodol ar gyfer y maeth o gynnwys LLYW.CYMRU rydych yn ystyried ei ddefnyddio arno.

Defnyddiwch ddolenni perthnasol ar ffurf pwyntiau bwled i wneud y canlynol:

  • creu dolenni at nifer o ddarnau o gynnwys tebyg sy'n uniongyrchol berthnasol i'r cynnwys blaenorol
  • osgoi dolenni ailadroddus o fewn brawddegau (dolenni mewnol)

Sut i defnyddio

Ymgorffori dolenni perthnasol

Pan fyddwch yn ymgorffori dolenni perthnasol yn eich cynnwys, dylech:

Ysgrifennu testun dolenni perthnasol

Pan fyddwch yn ysgrifennu testun dolenni perthnasol:

  • dylai fod yn ddisgrifiadol a gwneud synnwyr ar ei ben ei hun
  • dylai fod yn llawn termau perthnasol
  • dylai fod yn hawdd ei ddewis; gall dolen un gair fod yn anodd ei ddewis
  • ni ddylai fod yn gyffredinol, fel 'cliciwch yma' neu 'mwy'
  • ni ddylai gael ei ddefnyddio mwy nag unwaith i fynd i wahanol fannau
  • ar gyfer dolenni sy'n mynd at wybodaeth, dylai enwi'r wybodaeth honno
  • ar gyfer dolenni sy'n mynd at dudalennau lle gall defnyddiwr ddechrau ar dasg, dechreuwch gyda berf
  • ar gyfer dolenni sy'n llywio i wefannau eraill, gwnewch yn glir bod defnyddwyr yn gadael LLYW.CYMRU drwy ychwanegu 'ar wefan [enw cwmni]' fel rhan o'r ddolen

Enghreifftiau

Nifer o ddarnau o wybodaeth debyg sy'n uniongyrchol berthnasol i'r cynnwys blaenorol

Gosod y dolenni perthnasol