Pryd a sut i ddefnyddio'r elfen acordion ar LLYW.CYMRU.
Cynnwys
Pryd i'w ddefnyddio
Mae’n bosibl y bydd acordionau yn ei gwneud yn anos i ddefnyddwyr ddarllen y cynnwys oherwydd:
- maent yn cuddio cynnwys
- efallai na fydd defnyddwyr yn sylwi arnynt neu’n eu deall
Fel arfer, mae’n well:
- symleiddio’r cynnwys a lleihau faint ohono sydd ar y dudalen
- rhannu’r cynnwys rhwng mwy nag un dudalen
- cadw’r cynnwys ar un dudalen, wedi’i rannu gan benawdau
- defnyddio rhestr o ddolenni ar frig y dudalen i fynd â’r defnyddiwr i adrannau’r dudalen
Ni ddylai golygyddion cynnwys ddefnyddio acordionau ond pan fo pob un o’r canlynol yn wir:
- mae gan y dudalen lawer o gynnwys
- mae modd grwpio’r cynnwys o dan benawdau ar wahân
- mae pob grŵp cynnwys yn diwallu angen defnyddiwr gwahanol
- yn ystod un ymweliad mae defnyddwyr yn debygol o fod angen cynnwys o dan 1 neu 2 acordion yn unig
- nid yw ffyrdd eraill o helpu defnyddwyr i we-lywio’r dudalen yn gyflym yn gweithio (er enghraifft nid yw adran gynnwys yn gweithio)
Efallai y bydd acordionau yn ddefnyddiol hefyd ar gyfer prosesau cam wrth gam.
Rhaid i ddylunwyr cynhyrchion LLYW.CYMRU newydd, er enghraifft gwasanaeth newydd, ddilyn safonau Iaith Profiad Cyflawn (GEL) LLYW.CYMRU.
Sut i'w ddefnyddio
Ar gyfer pob acordion rhowch bennawd sydd:
- yn benodol, gan ddisgrifio’n glir y cynnwys y mae’n ei gyflwyno
- yn gryno, gan ddisgrifio’r cynnwys mewn cyn lleied o eiriau â phosibl
Peidiwch â chynnwys ffrâm fewnol mewn acordion, er enghraifft fideo.