Elaine Seagriff Comisiynydd
Mae Elaine Seagriff yn aelod o Gomisiwn Trafnidiaeth De-orllewin Cymru.
Elaine yw Cyfarwyddwr Cynllunio Trafnidiaeth Jacobs ac mae’n arwain ei strategaeth drafnidiaeth genedlaethol a’i dîm polisi yn y DU er mwyn llywio mentrau cynllunio polisi a thrafnidiaeth strategol mewn dinas-ranbarthau.
Cyn ymuno â Jacobs yn 2017, bu Elaine yn Bennaeth Polisi a Strategaeth Trafnidiaeth i Awdurdod Trafnidiaeth Llundain ac yn gyfrifol am ddatblygu Strategaeth Drafnidiaeth 20 mlynedd y Maer a’i rhoi ar waith, gan fabwysiadu dull gweithredol gwirioneddol amlfodd ac integredig o ddatblygu system drafnidiaeth Llundain.
Arweiniodd hefyd y strategaethau i leihau anghydraddoldebau a gwella hygyrchedd mewn rhannau o Lundain, er mwyn gwella ansawdd aer, megis drwy ddatblygu Parth Allyriadau Isel Iawn a gwella rhagolygon adfywio rhannau o Lundain drwy wella darpariaeth trafnidiaeth. Gan adeiladu ar hyn mae bellach yn cynghori awdurdodau eraill ar ddatblygu strategaethau o’r fath: yn fwyaf diweddar mae wedi cynghori awdurdodau yng ngorllewin Lloegr, Bryste a Chaerfaddon; yn yr Alban ar wella trefniadau llywodraethu a chyflawni’r Strategaeth Drafnidiaeth Genedlaethol; ac yn Toronto, Canada, ar sicrhau gwell integreiddio rhwng dulliau trafnidiaeth. Mae wedi cael profiad fel Comisiynydd yng Nghomisiwn Galw Trafnidiaeth y DU sy’n ystyried patrymau teithio newidiol ac yn y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy dros y Gymdeithas Trafnidiaeth Gyhoeddus Ryngwladol.