Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyfarfod 5: 30 Medi 2024

Eitem agenda 6: cymeradwyo gweithdrefnau’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (SPC)

Ysgrifenyddiaeth SPC i gyflwyno gweithdrefnau diwygiedig i’w cytuno gan aelodau erbyn 14 Hydref.

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth SPC

Cwblhawyd: cylchredwyd a chytunwyd ar weithdrefnau diwygiedig. Bydd y gweithdrefnau terfynol yn cael eu cyhoeddi ar dudalen we SPC.

Eitem agenda 5: dull o ymdrin â materion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Ysgrifenyddiaeth SPC i ymgysylltu ag aelodau i sefydlu cadeirydd ac aelodaeth ar gyfer is-grŵp Ecwiti, Amrywiaeth a Chynhwysiant sefydlog y gellid ei weithredu yn ôl yr angen.  

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth SPC

Parhaus: bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn ysgrifennu at aelodau i ofyn am fynegiant o ddiddordeb i fod yn Gadeirydd a/neu'n aelo o'r is-grŵp yn fuan

Eitem agenda 4: cylch cyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol

 Ysgrifenyddiaeth SPC i drefnu cyfarfod pellach o'r Cyngor yn 2024. 

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth SPC

Cwblhawyd: cyfarfod wedi'i drefnu ar gyfer 5 Rhagfyr.

Eitem agenda 3: gwella gwaith teg drwy Gymorth Ariannol Llywodraeth Cymru

Ysgrifenyddiaeth SPC i sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried y Contract Economaidd mewn ymgynghoriad ag aelodau.

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth SPC

Parhaus: Cytunwyd ar Gyd-gadeiryddion y grŵp a bydd diweddariad i'w ddarparu yng nghyfarfod 5 Rhagfyr 

Eitem agenda 2: Cyflawni, Cynhyrchiant, a Chyllideb Blaenoriaethau Atebolrwydd 

Ysgrifenyddiaeth SPC i ddatblygu cynnig ar gyfer is-grŵp SPC i archwilio'r iaith mewn perthynas â chynhyrchiant ac effeithlonrwydd

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth SPC

Parhaus: I'w archwilio ymhellach gydag aelodau.

Cyfarfod 2: 4 Mehefin 2024

Eitem agenda 3: cyfrinachol: aelodau yn unig: ymgynghoriad ar Flaenoriaethau Deddfwriaethol Gweinidogion Cymru

Ysgrifenyddiaeth SPC i wneud aelodau'n ymwybodol pan fydd ymgynghoriad Cam 1 ar y Bil Bysiau yn cael ei lansio. 

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth SPC

Parhaus: Gweithredu pan gyflwynir y Bil Bysiau.

Cyfarfod 1: 1 Chwefror 2024

Eitem agenda 2: gweithdrefnau SPC

Ysgrifenyddiaeth i adolygu ac ailgylchredeg y ddogfen weithdrefnau SPC ar gyfer cytundeb ar ôl ystyried y pwyntiau a godwyd gan (DW a GL ym mharagraffau 7, a 12 yn y drefn honno) cyn cyfarfod nesaf y Cyngor.

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth SPC

Cwblhawyd: mae'r gweithdrefnau wedi eu cwblhau a'u cytuno.  Byddant yn cael eu cyhoeddi ar dudalen gwe SPC.

Eitem agenda 4: dull arfaethedig o ddarparu gwybodaeth a chyngor gan SPC i Weinidogion Cymru

Cytunodd DMSP i rannu'r 56 adroddiad partneriaeth gymdeithasol gan gyrff cyhoeddus (pan fyddant ar gael) gyda'r adroddiad cryno ar gyfer 2024 i 2025 pe bai aelodau SPC yn dymuno eu gweld.

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth SPC

Parhaus: Gweithredu pan fydd yr adroddiadau wedi'u cyhoeddi.

Eitem agenda 6: darpariaethau Caffael Cymdeithasol Gyfrifol Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023  

SPC i ystyried sefydlu is-grŵp i edrych yn benodol ar gaffael meddalwedd AI a'i effaith ar y gweithlu.

Perchennog: Aelodau SPC

Cwblhawyd: Mae papur ar y mater hwn, a'r adroddiad gan is-grŵp SPC wedi'i gyflwyno ar gyfer cyfarfod 5 Rhagfyr.

Eitem agenda 6: darpariaethau caffael cymdeithasol gyfrifol Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023  

SH i ystyried y ffordd orau o sicrhau bod SPC yn cael ei ddiweddaru drwy friffiau technegol ar faterion caffael yn ogystal â datblygu'r Is-grŵp Caffael.

Perchennog: Swyddog Llywodraeth Cymru

Parhaus: diweddariadau a ddarperir yng nghyfarfodydd Gorffennaf a 30 Medi fel papurau i'w nodi. Cynhaliwyd briff technegol ar gaffael ar 24 Medi.