Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod 3: 10 Gorffennaf 2024

Eitem agenda 2: defnyddio Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru i sicrhau gwaith teg

Cam gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i sicrhau bod y mater o ddefnyddio amodau cyllid Llywodraeth Cymru i gefnogi gwaith teg yn cael ei roi ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod Cyngor nesaf.

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor

Cwblhawyd: mae papur pellach ar y mater wedi'i gyflwyno ar gyfer cyfarfod 30 Medi

Eitem agenda 3: y potensial i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol roi cyngor ar oblygiadau AI i'r gweithlu

Cam gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i ddrafftio llythyr gan y Gweinidog at is-grŵp AI Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn diolch iddynt am eu gwaith ac yn cadarnhau y byddai gan y Cyngor ddiddordeb mewn derbyn eu hadroddiad terfynol ar fygythiadau a chyfleoedd AI.

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor

Cwblhawyd: cyhoeddwyd llythyr ar 30 Gorffennaf.

Eitem 4: y potensial i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol gefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth 

Cam gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i baratoi papur sy'n crynhoi'r dull cyfunol o ymdrin â chydraddoldebau a argymhellir gan aelodau.

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor

Cwblhawyd: papur wedi'i gyflwyno ar gyfer cyfarfod 30 Medi.

Eitem 4: y potensial i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol gefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth 

Cam gweithredu: SPC Secretariat to provide members with details of existing equalities groups across Welsh Government.

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor

Cwblhawyd: gwybodaeth wedi’i dosbarthu i aelodau ar 5 Medi

Eitem agenda 5: cofnodion/camau gweithredu yn codi

Cam gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i ystyried fformat papurau camau gweithredu yn y dyfodol.

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor

Cwblhawyd: diwygiwyd fformat y papur.

Cyfarfod 2: 4 Mehefin 2024

Eitem agenda 3: Cyfrinachol: Aelodau yn unig: Ymgynghoriad ar Flaenoriaethau Deddfwriaethol Gweinidogion Cymru

Cam gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i wneud aelodau'n ymwybodol pan fydd ymgynghoriad Cam 1 ar y Bil Bysiau’n cael ei lansio. 

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor

Parhaus: gweithredu pan gyflwynir y Bil Bysiau.

Cyfarfod 1: 1 Chwefror 2024

Eitem agenda 2: gweithdrefnau’r Cyngor 

Cam gweithredu: Ysgrifenyddiaeth i adolygu ac ailgylchredeg dogfen gweithdrefnau’r Cyngor ar gyfer cytundeb ar ôl ystyried y pwyntiau a godwyd gan (DW a GL ym mharagraffau 7, a 12 yn y drefn honno) cyn cyfarfod nesaf y Cyngor.

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor

Cwblhawyd: dosbarthwyd polisi Presenoldeb ac Ymddygiad drafft ar gyfer sylwadau ar 8 Awst. Cyflwynwyd y Gweithdrefnau Terfynol i'w cytuno yng nghyfarfod 30 Medi.

Eitem agenda 4: dull arfaethedig o ddarparu gwybodaeth a chyngor gan y Cyngor i Weinidogion Cymru

Cam gweithredu: Cytunodd DMSP i rannu'r 56 adroddiad partneriaeth gymdeithasol gan gyrff cyhoeddus (pan fyddant ar gael) gyda'r adroddiad cryno ar gyfer 2024/25 pe bai aelodau’r Cyngor yn dymuno eu gweld.

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor

Parhaus: gweithredu pan fydd yr adroddiadau wedi'u cyhoeddi.

Eitem agenda 6: darpariaethau Caffael Cyhoeddus Cyfrifol yn Gymdeithasol Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 

Cam gweithredu: Y Cyngor i ystyried sefydlu is-grŵp i edrych yn benodol ar gaffael meddalwedd AI a'i effaith ar y gweithlu.

Perchennog: Aelodau’r Cyngor

Parhaus: trafodwyd papur ar y mater hwn yng nghyfarfod Gorffennaf y Cyngor a chytunwyd y byddai hyn yn cael ei ystyried unwaith y byddai'r adroddiad gan is-grŵp Cyngor Partneriaeth y Gweithlu wedi cael ei ystyried 

Eitem agenda 6: darpariaethau Caffael Cyhoeddus Cyfrifol yn Gymdeithasol Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 

Cam gweithredu: SH i ystyried y ffordd orau o sicrhau bod y Cyngor yn cael ei ddiweddaru drwy friffiau technegol ar faterion caffael yn ogystal â datblygu'r Is-grŵp Caffael.

Perchennog: Swyddog Llywodraeth Cymru

Parhaus: diweddariadau a ddarperir yng nghyfarfodydd Gorffennaf a 30 Medi fel papurau i'w nodi. Mae briff technegol ar gaffael wedi'i drefnu ar gyfer 24 Medi.