Cyfarfod, Dogfennu
Eitem agenda 5: ymdrin â materion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Ymdrin â materion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Lawrlwytho'r ddogfen: Maint ffeil 104 KB, Math o ffeil PDF
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae angen penderfyniad
Gofynnir i Aelodau’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol gytuno:
i. I'r cynnig am ddull 3 cham i'r Cyngor gynnwys cefnogaeth ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ei drefniadau gweithredu
Mater
- Gofynnir i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (CPG) gytuno ar ddull 3 cham, a gynigiwyd yn y papur hwn, er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn ymgorffori ystyriaethau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ei gyngor.
Cefndir
- Yng nghyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf, trafododd aelodau'r CPG sut y gallai'r CPG gefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth a gofynnwyd iddynt gytuno ar ddull a ffefrir o blith y 4 opsiwn a gyflwynwyd. Mae crynodeb o'r cynigion ynghlwm yn Atodiad A.
- Cynigiodd Opsiwn1 sefydlu is-grŵp i ystyried materion cydraddoldeb ac amrywiaeth ac adrodd ar eu canfyddiadau yn ôl i'r prif Gyngor.
- Nododd Opsiwn 2 y byddai pob papur trafod a gyflwynir i'r Cyngor ar gyfer penderfyniad yn cynnwys adran sy'n ystyried materion cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn perthynas â'r eitem sy'n cael ei hystyried.
- Opsiwn 3 oedd i gydraddoldeb ac amrywiaeth fod yn eitem sefydlog ar yr agenda ym mhob cyfarfod o'r Cyngor ac,
- Opsiwn 4 oedd i'r Cyngor ystyried sut i wneud defnydd o waith cydraddoldeb presennol ar draws Llywodraeth Cymru, partneriaid cymdeithasol a grwpiau arbenigol.
- Roedd aelodau'n ffafrio cyfuniad o'r opsiynau, felly mae Ysgrifenyddiaeth y Cyngor wedi paratoi'r cynnig hwn isod sy'n cyfleu'r dull cyfunol o weithio ym maes cydraddoldeb fel yr argymhellwyd gan aelodau.
Cam 1: cynnwys ystyriaethau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob papur trafod
- Gallai'r Ysgrifenyddiaeth ddatblygu templed ar gyfer papurau trafod y Cyngor a fyddai'n cynnwys adran sy'n ystyried Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant fel asesiad effaith bychan. Gallai hyn ddal Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ei ystyr ehangaf a chynnwys y Gymraeg. Gofynnir i bob aelod o’r Cyngor am eu sylwadau, yn ogystal efallai y cysylltir â rhai aelodau i gefnogi'r Ysgrifenyddiaeth wrth gynnal yr asesiad effaith, yn seiliedig ar eu harbenigedd a/neu rwydweithiau penodol.
- Yn ogystal, byddai cyfle i aelodau godi materion yn y cyfarfod sy'n dod i'r amlwg o'r trafodaethau. Byddai'r Cadeirydd yn gwirio ar ddiwedd pob cyfarfod a oes unrhyw ystyriaethau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant nad ydynt wedi'u cynnwys.
Cam 2: defnyddio grwpiau arbenigol
- Pan drafodir papur sy'n codi ystyriaethau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ac aelodau’n gofyn am fwy o wybodaeth, gellid sianelu ceisiadau drwy Is-adran Cymunedau a Chyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a allai dynnu sylw at fforymau perthnasol er mwyn defnyddio arbenigwyr sydd â phrofiad bywyd ac arbenigedd y grwpiau presennol a rhwydweithiau cydraddoldeb ar draws Llywodraeth Cymru. Gallai Ysgrifenyddiaeth y Cyngor gysylltu â'r grŵp arbenigol perthnasol ac yna darparu ymateb ysgrifenedig i aelodau. Yn ogystal, pe bai aelodau'n gofyn am ragor o wybodaeth neu'n gofyn am eglurder ar fater, yna gallai'r Cyngor wahodd aelod o'r grŵp arbenigol i ddod i'r cyfarfod yn y dyfodol.
Cam 3: sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen
- Pe bai aelodau’r Cyngor yn teimlo bod mater sy'n dod i'r amlwg yn gofyn am ffocws penodol, yna gallai'r Cyngor sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen â therfyn amser cyfyngedig gyda chylch gwaith penodol fel y pennir gan y Cyngor. Gallai'r grŵp ddod ag arbenigedd i mewn yn ôl yr angen i lywio ymhellach a/neu ategu unrhyw ganfyddiadau neu gyngor y mae'n eu darparu i'r Cyngor.
Y camau nesaf
- Gofynnir i'r Cyngor gytuno i'r egwyddor o ddull 3 cham o ymdrin â materion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ac i unrhyw sylwadau pellach gael eu hanfon at ysgrifenyddiaeth y Cyngor.
- Os yw'r aelodau'n cytuno i'r dull a awgrymir, bydd hyn yn cael ei gynnwys yn y trefniadau gweithredu ar gyfer y cyfarfod Cyngor nesaf.
- Cynigir bod y Cyngor yn adolygu'r dull gweithredu o fewn 12 mis.
Atodiad A
Opsiwn 1: sefydlu Is-grŵp cydraddoldeb ac amrywiaeth
- Un posibilrwydd fyddai sefydlu is-grŵp cydraddoldeb ac amrywiaeth a'i rôl fyddai ystyried materion cydraddoldeb ac amrywiaeth ac adrodd ar eu canfyddiadau yn ôl i'r prif Gyngor.
- Mae Adran 8 o'r Ddeddf yn caniatáu i'r Cyngor sefydlu is-grwpiau perthnasol. Caiff is-grŵp o'r Cyngor (a) gyflawni unrhyw swyddogaeth o dan adran 1 o'r Ddeddf a ddirprwyir iddo gan y Cyngor; a (b) helpu'r Cyngor i gyflawni ei swyddogaethau mewn unrhyw ffordd a bennir gan y Cyngor.
Manteision
- Byddai cael Is-grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, y mae’r Cyngor wedi gofyn iddo edrych ar faterion gwahanol, yn caniatáu i amrywiaeth ehangach o leisiau gael eu clywed.
- Gallai is-grŵp cydraddoldeb ac amrywiaeth helpu i sicrhau bod llais a phrofiad bywyd pobl â nodweddion gwarchodedig yn cael eu hystyried yn llawn mewn gwybodaeth a/neu gyngor a roddir i Weinidogion Cymru ar faterion sy'n ymwneud â phartneriaeth gymdeithasol, gwaith teg neu gaffael cymdeithasol gyfrifol gan y Cyngor.
- Gallai is-grŵp ddod ag arbenigedd i mewn yn ôl yr angen hefyd i lywio ymhellach a/neu ategu unrhyw ganfyddiadau neu gyngor y mae'n eu darparu i'r Cyngor.
Anfanteision
- Ni allai unrhyw un is-grŵp gwmpasu'r holl brofiadau bywyd amrywiol.
- Gellid ystyried is-grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth fel un sy'n gwthio statws gwaith cydraddoldeb ac amrywiaeth o’r neilltu.
- Gallai is-grŵp ddyblygu gwaith a wnaed gan yr amrywiaeth eang o grwpiau arbenigol a grwpiau profiad bywyd sy'n rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru (megis Grŵp Atebolrwydd Allanol Cynllun Gweithredu Gwrth–hiliol Cymru, gan ddod ag arbenigwyr Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ynghyd a phobl â phrofiad bywyd.)
Opsiwn 2: papurau trafod y cyngor i gynnwys adran sy'n ymdrin â materion cydraddoldeb
- Byddai'r opsiwn hwn yn golygu y byddai pob papur trafod a gyflwynir i'r Cyngor ar gyfer penderfyniad yn cynnwys adran sy'n ystyried materion cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn perthynas â'r eitem sy'n cael ei hystyried
Manteision
- Byddai hyn yn arwain at ystyried materion cydraddoldeb ac amrywiaeth yn llawn pan gyflwynir eitemau i'r Cyngor a'u hintegreiddio'n wirioneddol i'w waith.
- Bydd yn sicrhau bod ystyriaeth o oblygiadau cydraddoldeb ac amrywiaeth wedi'i deilwra i'r mater dan sylw.
- Byddai hefyd yn negyddu'r angen am is-grŵp oherwydd byddai materion cydraddoldeb ac amrywiaeth yn dod yn rhan naturiol o'r gwaith y mae'r Cyngor yn ei wneud.
Anfanteision
- Bydd hyn yn gosod beichiau ychwanegol ar ddrafftwyr a gellid ei ystyried yn orgymhleth a biwrocrataidd.
Opsiwn 3: cydraddoldeb ac amrywiaeth i fod yn eitem agenda sefydlog
- Pan drafodwyd y papur y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 3 gan yr SPF, roedd ochr yr Undebau Llafur yn teimlo y gallai eitemau sefydlog ar agenda’r Cyngor fod yn ffordd fwy effeithiol o sicrhau bod lleisiau'r rhai o gefndiroedd amrywiol yn cael eu clywed, er y tynnwyd sylw at y posibilrwydd y gallai hyn greu 'siop siarad'.
Manteision
- Mae'n caniatáu i'r prif Gyngor ystyried materion yn hytrach na chael eu dirprwyo i is-grŵp y gellid ei ystyried yn ffordd o wthio mater cydraddoldeb ac amrywiaeth o’r neilltu.
Anfanteision
- Mae gan y Cyngor agenda lawn iawn ar gyfer pob cyfarfod eisoes, a byddai'n anodd creu lle ar gyfer eitem sefydlog reolaidd i'w thrafod.
- Ni all aelodau’r Cyngor ymdrin â holl brofiadau bywyd a byddai'n dibynnu ar eraill yn cael eu drafftio i mewn i ddarparu unrhyw gyngor neu wybodaeth ychwanegol i'r Cyngor.
Opsiwn 4: ystyried sut i wneud defnydd o waith cydraddoldeb sy'n bodoli eisoes ar draws Llywodraeth Cymru, ein partneriaid cymdeithasol, a grwpiau arbenigol.
- Mae potensial i fanteisio ar feysydd arbenigedd presennol o fewn Llywodraeth Cymru, partneriaid cymdeithasol, a grwpiau arbenigol, fel ArWAP ac EAG yn hytrach nag ychwanegu grŵp ychwanegol.
Manteision
- Byddai hyn yn galluogi'r Cyngor i gael mynediad i grwpiau arbenigol sy'n adlewyrchu llais a phrofiad bywyd pobl â nodweddion gwarchodedig i lywio ei waith yn y dyfodol.
- Gallai osgoi unrhyw ddyblygu posibl a darparu cyngor sy'n gorgyffwrdd i Weinidogion lle gallai grŵp arall fod yn ystyried yr un mater â'r Cyngor ar yr un pryd.
Anfanteision
- Byddai angen egluro a chytuno ar y grŵp(iau) priodol i'r Cyngor ymgysylltu â nhw ar gyfer pob mater a sut y byddai'r ymgysylltiad hwnnw'n digwydd.