Neidio i'r prif gynnwy

Penderfyniad sydd ei angen

Gofynnir i Aelodau’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol gytuno ar y dewis neu’r dewisiadau y maent yn eu ffafrio. 

  1. Sefydlu Is-grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 
  2. Papurau trafod y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i gynnwys adran sy'n ymdrin â materion cydraddoldeb. 
  3. Cydraddoldeb ac amrywiaeth i fod yn eitem agenda sefydlog.    
  4. Ystyried sut i wneud defnydd o waith cydraddoldeb sy'n bodoli eisoes ar draws Llywodraeth Cymru, ein partneriaid cymdeithasol a grwpiau arbenigol. 

Mater

  1. Papur trafod ar botensial y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i gefnogi a gwella cydraddoldeb ac amrywiaeth. Gofynnir i Aelodau’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol gytuno ar y dewis neu’r dewisiadau y maent yn eu ffafrio.

Cefndir

  1. Yn ystod gwaith y Senedd o graffu ar yr hyn sydd bellach yn Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 ("Deddf SPPP"), pwysleisiodd nifer o randdeiliaid botensial y ddeddfwriaeth fel ffordd o hyrwyddo mwy o gydraddoldeb ac amrywiaeth mewn gweithleoedd yng Nghymru. 
     
  2. Cafodd y mater hwn ei ystyried ymhellach gan y Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol (rhagflaenydd y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol), gydag aelodau'r Fforwm yn cytuno y dylid cyflwyno papur i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, unwaith y byddai wedi’i sefydlu, yn esbonio sut y gellid defnyddio'r dyletswyddau a'r strwythurau a grëwyd gan Ddeddf SPPP i sicrhau'r effaith gadarnhaol fwyaf bosibl ar gydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae'r papur hwn yn darparu'r wybodaeth honno ac yn gwahodd barn aelodau’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol. Mae Atodiad A yn rhoi trosolwg o ddyletswyddau a darnau perthnasol o Ddeddf SPPP.  
     
  3. Gallai'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ddarparu cyfrwng i ddarparu gwybodaeth a chyngor gan bartneriaid cymdeithasol ar faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth perthnasol, gan alluogi Gweinidogion i glywed barn a phrofiadau gweithwyr a chyflogwyr. Mae gan undebau llafur strwythurau democrataidd a chynrychioliadol sydd â photensial i gasglu profiadau, pryderon a safbwyntiau'r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig. Yn ogystal, mae strwythurau mewnol llawer o undebau hefyd yn ymgorffori cynrychiolaeth gyfrannol. 
     
  4. Wrth graffu ar y Ddeddf, roedd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol fel ag yr oedd bryd hynny yn feirniadol o ddiffyg amrywiaeth a chynrychiolaeth ddaearyddol o fewn y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol arfaethedig. Cyn dechrau'r broses enwebu, bu swyddogion yn gweithio gyda chyrff enwebu i sicrhau bod yr enwebiadau a gyflwynwyd yn darparu cronfa ddigon amrywiol o enwebiadau y gallai'r Prif Weinidog, o’u plith, ddewis y 9 cynrychiolydd gweithwyr a'r 9 cynrychiolydd cyflogwyr i fod yn aelodau ar gyfer iteriad cyntaf y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol. Fodd bynnag, gyda dim ond 18 lle ar gael, ni all yr aelodaeth fyth adlewyrchu’n llawn y gwahanol grwpiau gwarchodedig o bob rhan o Gymru. 
     
  5. Er mwyn sicrhau y gall y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ystyried materion cydraddoldeb ac amrywiaeth yn llawn, awgrymir yr opsiynau canlynol: 

Opsiwn 1 – Sefydlu Is-grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

  1. Un posibilrwydd fyddai sefydlu is-grŵp cydraddoldeb ac amrywiaeth a'i rôl fyddai ystyried materion cydraddoldeb ac amrywiaeth ac adrodd ar ei ganfyddiadau yn ôl i'r prif Gyngor. 
     
  2. Mae Adran 8 o'r Ddeddf yn caniatáu i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol sefydlu is-grwpiau perthnasol. Caiff is-grŵp o'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (a) gyflawni unrhyw swyddogaeth o dan adran 1 o'r Ddeddf a ddirprwyir iddo gan y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol; a (b) helpu'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i gyflawni ei swyddogaethau mewn unrhyw ffordd a bennir gan y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol. 

Manteision 

  • Byddai cael Is-grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, y mae’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol wedi gofyn iddo edrych ar faterion penodol, yn caniatáu i ystod ehangach a mwy amrywiol o leisiau gael eu clywed. 
  • Gallai is-grŵp cydraddoldeb ac amrywiaeth helpu i sicrhau bod llais a phrofiad byw pobl â nodweddion gwarchodedig yn cael eu hystyried yn llawn mewn gwybodaeth a/neu gyngor a roddir i Weinidogion Cymru ar faterion sy'n ymwneud â phartneriaeth gymdeithasol, gwaith teg neu gaffael cymdeithasol gyfrifol gan y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol. 
  • Gallai is-grŵp hefyd ddod ag arbenigedd i mewn yn ôl yr angen i lywio ymhellach a/neu ategu unrhyw ganfyddiadau neu gyngor y mae'n eu darparu i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.

Anfanteision 

  •  Ni allai unrhyw un is-grŵp gwmpasu'r ystod gyfan o brofiad byw.   
  • Gellid ystyried is-grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth fel un sy'n gwthio statws gwaith cydraddoldeb ac amrywiaeth i’r ochr. 
  • Gallai is-grŵp ddyblygu gwaith a wneir gan yr ystod eang o grwpiau arbenigol a grwpiau profiad byw sy'n rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru (megis Grŵp Atebolrwydd Allanol Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, sy’n dod ag arbenigwyr a phobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig â phrofiad byw ynghyd.)   

Opsiwn 2 – Papurau trafod y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i gynnwys adran sy'n ymdrin â materion cydraddoldeb

  1. Byddai'r opsiwn hwn yn golygu y byddai pob papur trafod a gyflwynir i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar gyfer penderfyniad yn cynnwys adran sy'n ystyried materion cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn perthynas â'r eitem sy'n cael ei hystyried.   

Manteision 

  • Byddai hyn yn arwain at ystyried materion cydraddoldeb ac amrywiaeth yn llawn pan fydd eitemau yn dod i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol a’u hintegreiddio'n wirioneddol i waith y Cyngor. 
  • Bydd yn sicrhau bod ystyriaeth o oblygiadau cydraddoldeb ac amrywiaeth wedi'i theilwra i'r mater dan sylw.  
  • Byddai hefyd yn negyddu'r angen am is-grŵp oherwydd byddai materion cydraddoldeb ac amrywiaeth yn dod yn rhan naturiol o'r gwaith y mae'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn ei wneud. 

Anfanteision 

  • Bydd hyn yn gosod beichiau ychwanegol ar ddrafftwyr a gellid ei ystyried yn orgymhleth a biwrocrataidd.

Opsiwn 3 – Cydraddoldeb ac amrywiaeth i fod yn eitem agenda sefydlog

  1. Pan drafodwyd y papur y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 3 gan y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, roedd ochr yr Undebau Llafur yn teimlo y gallai eitemau agenda sefydlog ar y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol fod yn ffordd fwy effeithiol o sicrhau bod lleisiau'r rhai o gefndiroedd amrywiol yn cael eu clywed, er y nodwyd y gallai hyn greu 'siop siarad'. 

Manteision 

  • Mae'n caniatáu i'r prif Gyngor ystyried materion yn hytrach na’u bod yn cael eu dirprwyo i is-grŵp, gan y gellid ystyried bod hynny’n bwrw mater cydraddoldeb ac amrywiaeth i’r ochr. 

Anfanteision 

  • Mae gan y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol agenda lawn iawn ar gyfer pob cyfarfod eisoes a byddai'n anodd cyflwyno eitem sefydlog reolaidd i'w thrafod. 
  • Ni all aelodaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol gwmpasu'r ystod gyfan o brofiad byw a byddai'n dibynnu ar ddrafftio eraill i mewn i ddarparu unrhyw gyngor neu wybodaeth ychwanegol i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.  

Opsiwn 4 – Ystyried sut i wneud defnydd o waith cydraddoldeb sy'n bodoli eisoes ar draws Llywodraeth Cymru, ein partneriaid cymdeithasol a grwpiau arbenigol

  1. Mae potensial i fanteisio ar feysydd arbenigedd presennol o fewn Llywodraeth Cymru, partneriaid cymdeithasol a grwpiau arbenigol, fel ArWAP ac EAG yn hytrach nag ychwanegu grŵp ychwanegol.   

Manteision 

  • Byddai hyn yn rhoi mynediad i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i grwpiau arbenigol sy'n adlewyrchu llais a phrofiad byw pobl â nodweddion gwarchodedig er mwyn llywio ei waith yn y dyfodol. 
  • Gallai osgoi unrhyw ddyblygu posibl a darparu cyngor sy'n gorgyffwrdd i Weinidogion lle gallai grŵp arall fod yn ystyried yr un mater â'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar yr un pryd. 

Anfanteision 

  • Ar gyfer pob mater, byddai angen egluro a chytuno ar y grŵp/grwpiau priodol i'r CPG ymgysylltu â nhw a sut y byddai'r ymgysylltiad hwnnw'n digwydd. 

Y Camau nesaf

  1. Yn dilyn cytundeb aelodau'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar y dewis a ffefrir ganddynt, bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn ymgymryd â'r gwaith cefndir angenrheidiol ac yn dod â chynnig manwl yn ôl i’r aelodau gytuno arno.  

Atodiad A

Cyd-destun: yr hyn y mae'r Ddeddf SPPP yn ei ddweud am gydraddoldeb ac amrywiaeth 

Mae Rhan 3 o Ddeddf SPPP yn ymdrin â chaffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol. Mae Adran 27 o Ran 3 yn cynnwys y darpariaethau canlynol:

Cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol mewn contractau adeiladu mawr

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cymalau enghreifftiol ar gyfer contractau adeiladu mawr (“cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol”) sydd wedi eu cynllunio i sicrhau’r gwelliannau o ran llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol a restrir o dan bob categori yn y Tabl yn is-adran (2).

(2) Y categorïau a’r gwelliannau yw - 

Taliadau     
  • Sicrhau a gorfodi taliadau prydlon. 
Cyflogaeth    
  • Darparu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc, pobl hŷn, pobl ddi-waith hirdymor, pobl ag anableddau neu bobl a all fel arall fod o dan anfantais (er enghraifft oherwydd eu hil, eu crefydd neu eu cred, eu rhyw, eu hunaniaeth rhywedd neu eu cyfeiriadedd rhywiol). 
Cydymffurfedd     
  • Sicrhau cydymffurfedd â rhwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â hawliau cyflogaeth (gan gynnwys yr isafswm cyflog a chyflog byw), iechyd a diogelwch, a chynrychiolaeth undebau llafur. 
Hyfforddiant    
  • Darparu hyfforddiant priodol i weithwyr. 
Is-gontractio     
  • Darparu cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig a sefydliadau gwirfoddol i gyflawni gweithiau, cyflenwi cynhyrchion neu ddarparu gwasanaethau. 
Yr amgylchedd     
  • Gwneud rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, defnyddio deunyddiau cynaliadwy, cydnerthedd rhag effaith newid hinsawdd, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, a gwella’r amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth yn ofynnol. 

Bydd y ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar gyrff cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol iddynt geisio cyfaddawd neu gonsensws gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig neu gynrychiolwyr staff eraill wrth osod eu hamcanion llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) ac wrth wneud penderfyniadau strategol am y camau rhesymol y mae cyrff yn eu cymryd i gyflawni'r amcanion hynny. Gallai deialog ddiffuant rhwng cyflogwyr y sector cyhoeddus a chynrychiolwyr gweithwyr / undebau llafur gyda'r nod o wella penderfyniadau a gwella llesiant ategu a chefnogi Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a'r gwaith o weithredu’r Ddyletswydd gan gyrff cyhoeddus.

Mae’r Canllaw i Waith Teg – yn nodi (1) beth mae gwaith teg yn ei olygu yn ymarferol; (2) pam mae hyrwyddo gwaith teg yn fuddiol i sefydliadau a gweithwyr, ac o ran lles yn ehangach; a (3) rhai camau ymarferol y gall sefydliadau eu cymryd i symud ymlaen ar eu taith at waith teg.  "Mewn gwaith teg, bydd amodau penodol yn amlwg, sy’n golygu bod gweithwyr yn cael eu gwobrwyo, eu clywed a’u cynrychioli mewn ffordd deg, bod eu sefyllfa yn ddiogel, a'u bod yn gallu gwneud cynnydd mewn amgylchedd iach a chynhwysol, lle mae hawliau yn cael eu parchu." Mae mynd ar drywydd gwaith teg, felly, a'r cyfeiriad a wneir ato nawr yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), yn cynnig y potensial i gael effaith sylweddol ar gydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Bydd y ddyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol a nodir yn y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus penodol ystyried caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol, i osod amcanion mewn perthynas â nodau llesiant y mae'n rhaid i'r cyrff hynny eu bodloni wrth ymgymryd â chaffael, a chyhoeddi strategaeth gaffael. Yn ogystal, mewn perthynas â rhai mathau o gontractau, bydd yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gyflawni dyletswyddau rheoli contractau i sicrhau bod canlyniadau cymdeithasol gyfrifol ar waith trwy gadwyni cyflenwi. Mae tua £8 biliwn yn cael ei wario'n flynyddol ar gaffael cyhoeddus yng Nghymru; felly, mae gan y dyletswyddau caffael newydd a nodir yn y Ddeddf y potensial i weithredu fel ysgogiad sylweddol i helpu i wella cydraddoldeb ac amrywiaeth yng Nghymru.