Neidio i'r prif gynnwy

Angen penderfyniad

Gofynnir i aelodau'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (SPC): 

  • Ystyried yr adroddiadau a ddatblygwyd gan weithgor Deallusrwydd Artiffisal Cyngor Partneriaeth y Gweithlu
  • Cytuno a oes awydd i ymgymryd â gwaith ar y sgiliau a'r gallu sy'n gysylltiedig â Deallusrwydd Artiffisal y gweithlu presennol ac os cytunir, sut y dylid datblygu'r gwaith hwn

Mater

  1. I roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (SPC) ar waith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu (WPC) ar effeithiau Deallusrwydd Artiffisial ar weithlu'r sector cyhoeddus.
     
  2. Gofynnir i'r SPC ystyried yr adroddiadau a ddatblygwyd gan weithgor Deallusrwydd Artiffisial WPC a phenderfynu a all yr SPC roi ffocws newydd ar bwnc Deallusrwydd Artiffisial a'r gweithlu i adeiladu ar adroddiadau ac argymhellion cysylltiedig WPC.

Cefndir

  1. Yng nghyfarfod yr SPC ar 10 Gorffennaf 2024, cynhaliwyd trafodaeth ar y potensial i'r SPC gynghori ar oblygiadau deallusrwydd artiffisial i'r gweithlu.
     
  2. Roedd consensws ar draws yr SPC ynghylch pwysigrwydd goblygiadau deallusrwydd artiffisal i'r gweithlu a'r angen am ystyriaeth bellach gan yr SPC. Nododd yr aelodau y gwaith sy'n cael ei wneud eisoes gan weithgor Deallusrwydd Artiffisal WPC a'u bwriad i adrodd yng nghyfarfod Tachwedd y WPC. Cytunodd yr SPC y byddent yn aros am ganlyniad y gwaith hwnnw er mwyn osgoi dyblygu.
     
  3. Ar ran yr SPC, ysgrifennodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol at WPC yn gofyn am eu hadroddiadau terfynol. 

Diweddariad WPC

  1. Cyflwynodd gweithgor Deallusrwydd Artiffisal WPC yr adroddiadau terfynol i'r WPC ar 18 Tachwedd. Cafodd yr adroddiadau eu croesawu a'u derbyn gan WPC a byddant yn cael eu lansio'n ffurfiol ar ddyddiad i'w benderfynu.
     
  2. Mae adroddiadau WPC yn cynnwys:
  1. Mae'r adroddiadau'n seiliedig ar waith cynharach sef Asesiad o Oblygiadau Deallusrwydd Artiffisal i’r Gweithlu Sector Cyhoeddus.
     
  2. Bydd gweithgor Deallusrwydd Artiffisal WPC yn canolbwyntio’n awr ar gyfathrebu a hyrwyddo'r adroddiadau ar draws y sector cyhoeddus datganoledig. Bydd y grŵp yn pennu cynllun cyfathrebu, a bydd yr adroddiadau’n cael eu cynnwys hefyd yn Hyb Gwybodaeth y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.
     
  3. Mae gweithgor Deallusrwydd Artiffisal WPC awyddus i gefnogi gwaith yr SPC ac wedi gofyn i'r SPC ystyried rhywfaint o gyd-aelodaeth rhwng y gweithgorau.

Gwaith ehangach

  1. Mae amrywiaeth o grwpiau ac adolygiadau eraill wedi'u sefydlu eisoes ar bwnc deallusrwydd artiffisal. Mae hyn yn cynnwys grŵp llywio deallusrwydd artiffisal traws-sector cyhoeddus, y Comisiwn Iechyd a Gofal ar gyfer Deallusrwydd Artiffisal, ymchwiliad newydd y Senedd i effaith deallusrwydd artiffisal ar yr economi a gwaith parhaus gan lywodraeth y DU. Rydym yn awyddus i sicrhau bod gwaith y grŵp WPC, ac unrhyw waith pellach gan yr SPC, yn cael ei ystyried gan y grwpiau eraill hynny ac yn benodol bod y Grŵp Llywio a'r Comisiwn ar gyfer Deallusrwydd Artiffisal yn cadw partneriaeth gymdeithasol wrth wraidd eu gwaith. Efallai y bydd yr SPC yn dymuno cael gwybod am y gwaith parhaus sy'n digwydd mewn mannau eraill hefyd. 

Materion i'w hystyried gan y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (SPC)

  1. Gofynnir i'r SPC nodi bod yr adroddiadau'n cael eu cynnwys fel atodiad ac ystyried a oes angen i'r SPC ddatblygu gwaith ar ddeallusrwydd artiffisal a gweithlu Cymru ymhellach ac, os felly, meysydd posibl i ganolbwyntio arnynt.
     
  2. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi nodi sgiliau a galluoedd y gweithlu mewn perthynas â deallusrwydd artiffisal fel thema bosibl lle mae bwlch cyfredol, ac a fyddai'n elwa o ystyriaeth ac archwilio pellach mewn partneriaeth gymdeithasol.
     
  3. Gallai'r SPC ganolbwyntio eu gwaith ar y sgiliau a'r galluoedd sy'n gysylltiedig â deallusrwydd artiffisal y gweithlu presennol, yn ogystal â pharatoi gweithlu'r dyfodol.
     
  4. Gallai opsiynau i symud y gwaith ymlaen gynnwys sefydlu gweithgor a/neu gomisiynu ymchwil. Gallai’r grŵp SPC fanteisio ar brofiad addysg bellach ac uwch, y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector ac ystyried deunyddiau sydd ar gael ar draws yr holl sectorau a nodwyd, yn ogystal â'r deunyddiau a'r allbynnau o weithgor deallusrwydd artiffisal WPC.
     
  5. Fel y soniwyd ym mharagraff 10, gallai cynnwys aelodau gweithgor deallusrwydd artiffisal WPC yng ngwaith yr SPC helpu i ymwreiddio dealltwriaeth o'r adroddiadau, osgoi dyblygu, a hyrwyddo ymgysylltiad traws-Gyngor. 

Argymhelliad

  1. Gofynnir i aelodau'r SPC ystyried a oes awydd i wneud gwaith yn y maes a awgrymir ac, os felly, sut y dylid gwneud y gwaith hwn. 

Y camau nesaf

  1. Os cyrhaeddir cytundeb i sefydlu is-grŵp deallusrwydd artiffisial SPC, bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn gwahodd gwirfoddolwyr ac awgrymiadau ar gyfer aelodaeth. 

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 

Nid yw cynnwys y papur hwn yn codi unrhyw faterion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant o bwys.