Cyfarfod, Dogfennu
Eitem 3 yr agenda: dadansoddiad o adroddiadau'r Sector Cyhoeddus
Dadansoddiad o adroddiadau'r Sector Cyhoeddus.
Lawrlwytho'r ddogfen: Maint ffeil 93 KB, Math o ffeil PDF
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Angen penderfyniad
Gofynnir i aelodau'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (SPC) gytuno ar:
- enghreifftiau allweddol o arfer da y dylid eu cynnwys yn y dadansoddiad o'r adroddiadau a gyhoeddwyd gan y 56 corff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol.
Mater
- Mae'r papur yn cyflwyno cynigion ynghylch sut y gallai'r SPC ymgymryd â'i swyddogaeth o ddarparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol a osodir ar gyrff cyhoeddus. Gofynnir i aelodau’r SPC ystyried beth ddylai fod yn y dadansoddiad o'r adroddiadau y tu hwnt i gydymffurfio â'r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol.
Cefndir
- Mae Rhan 2 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) (Deddf SPPP) yn gosod dyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar y cyrff cyhoeddus hynny sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), ac ar wahân ar Weinidogion Cymru.
- Dechreuodd y ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar gyrff cyhoeddus ar 1 Ebrill 2024. Ers hynny, bu'n ofynnol i gyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r ddeddfwriaeth geisio consensws neu gyfaddawd â'u hundebau llafur cydnabyddedig (neu gynrychiolwyr staff eraill lle nad oes undebau llafur yn bresennol) wrth bennu eu hamcanion llesiant neu wneud penderfyniadau o natur strategol ynghylch y camau y maent yn bwriadu eu cymryd i gyflawni'r amcanion hynny.
- Bydd gofyn i bob corff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol gyhoeddi a darparu adroddiad blynyddol i'r SPC ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol yn esbonio'r hyn y maent wedi'i wneud i gydymffurfio â'r ddyletswydd yn y 12 mis blaenorol. Rhaid i bob corff cyhoeddus gytuno ar ei adroddiad gyda'i undebau llafur cydnabyddedig (neu lle nad oes undeb llafur cydnabyddedig, cynrychiolwyr eraill ei staff) neu, os nad yw wedi’i gytuno, rhaid i'r adroddiad gynnwys datganiad yn egluro pam na chytunwyd arno.
- Yn ei gyfarfod cyntaf ym mis Chwefror, cytunodd yr SPC y dylid casglu'r 56 adroddiad ar y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol a gyhoeddir gan y cyrff cyhoeddus perthnasol bob blwyddyn. Bydd yr Aelodau'n derbyn adroddiad cryno a fydd yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
- Pan fo corff cyhoeddus wedi pennu amcanion llesiant yn ystod y cyfnod adrodd, mae wedi darparu tystiolaeth ei fod wedi ceisio consensws neu gyfaddawd gyda'i weithlu (drwy ei undebau llafur cydnabyddedig neu gynrychiolwyr staff) mewn perthynas â'r rhain, a chanlyniad y broses honno;
- Pan fo corff cyhoeddus wedi gwneud penderfyniadau o natur strategol mewn perthynas â'r camau rhesymol y mae'n bwriadu eu cymryd i gyflawni'r amcanion llesiant hynny yn ystod y cyfnod adrodd, mae wedi darparu tystiolaeth ei fod wedi ceisio consensws neu gyfaddawd gyda'i weithlu mewn perthynas â'r rhain, a chanlyniad y broses honno; a
- A gytunwyd ar adroddiad blynyddol pob corff cyhoeddus gyda'i weithlu ai peidio, ac os na, y rhesymau pam na chafwyd cytundeb.
- Bydd y wybodaeth a amlinellir uchod yn dangos cydymffurfiaeth cyrff cyhoeddus â'r ddyletswydd. Nid oes gofyniad yn Neddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) i ddarparu manylion ychwanegol. Fodd bynnag, gallai'r crynodeb a ddarperir i'r aelodau dynnu sylw hefyd at enghreifftiau o arfer nodedig y gallai'r SPC dynnu sylw cyrff cyhoeddus eraill a/neu eu rhannu'n ehangach trwy astudiaethau achos sydd i'w cyhoeddi ar ei wefan, yn amodol ar gytundeb.
- Byddai hyn yn rhoi gwybodaeth i'r Cyngor a fyddai'n ei alluogi, nid yn unig i:
• ddeall i ba raddau y mae cyrff cyhoeddus yn cyflawni'r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol; ond hefyd;
• nodi a chyhoeddi enghreifftiau o arfer da; a
• nodi a mynd i'r afael ag unrhyw feysydd pryder posibl.
- Fel y cytunwyd ym mis Chwefror, yn dilyn ystyriaeth o'r adroddiad cryno gan aelodau’r SPC bob blwyddyn bydd sylwadau'r SPC yn cael eu cofnodi yng nghofnodion y cyfarfodydd perthnasol a'u cyhoeddi ar wefan yr SPC. Pan nodir enghreifftiau o arfer da, bydd y rhain yn cael eu hamlygu ar adran benodol o'r wefan lle bydd astudiaethau achos ar gael i sefydliadau eraill ddysgu ganddynt. Lle gellir nodi unrhyw feysydd sy'n peri pryder, caiff y rhain eu bwydo'n ôl i'r corff cyhoeddus perthnasol ynghyd â chyfeirio at ganllawiau a gwybodaeth berthnasol.
Argymhelliad
- Gwahoddir aelodau'r SPC i gytuno ar y cynigion a nodir uchod, i ddangos cydymffurfiaeth cyrff cyhoeddus y tu hwnt i'r Ddyletswydd.
- Gwahoddir aelodau i drafod unrhyw feini prawf ychwanegol yr hoffent i'r ysgrifenyddiaeth eu casglu wrth ddadansoddi'r 56 adroddiad. Awgrymir bod hyn wedi'i gyfyngu i 3 i 5, er mwyn sicrhau cysondeb o ran dull a bod dadansoddiad yn parhau i ganolbwyntio ar faterion allweddol y cytunwyd arnynt.
Y camau nesaf
- Bydd gofyn i'r cyrff cyhoeddus gyhoeddi adroddiad ar gydymffurfio â'r ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol o 1 Ebrill 2025. Fodd bynnag, nid oes dyddiad cau penodol erbyn pryd y mae'n rhaid cyhoeddi'r cyhoeddiad.
- Unwaith y cytunir ar yr enghreifftiau o arfer da, byddant yn cael eu defnyddio wedyn i ddadansoddi'r adroddiadau yn dilyn cyhoeddi. Rhagwelir y bydd dadansoddiad interim yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod yr hydref.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Nid yw cynnwys y papur hwn yn codi unrhyw faterion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiat sylweddol.