Eitem 2 yr agenda: Bil Hawliau Cyflogaeth
Ddiweddaraf i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (SPC) ar Fil Hawliau Cyflogaeth Llywodraeth y DU.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Gofynnir i Aelodau'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol nodi:
i. Cynnwys y papur hwn a safbwynt Llywodraeth Cymru ar y Bil Hawliau Cyflogaeth.
ii. Y ddeialog barhaus y mae Llywodraeth Cymru yn ei chael gyda Llywodraeth y DU ar lefel Weinidogol a swyddogol.
iii. Cynnydd y Bil Hawliau Cyflogaeth drwy ei gamau seneddol hyd yma a'r camau nesaf sy'n arwain at y Cam Adroddiad ym mis Ionawr 2025.
Mater
- Mae'r papur hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (SPC) ar Fil Hawliau Cyflogaeth Llywodraeth y DU, sy'n ceisio moderneiddio a chryfhau amddiffyniadau cyflogaeth a'u gorfodi.
Cefndir y Bil Hawliau Cyflogaeth
- Pan oedd yn wrthblaid, cyhoeddodd y Blaid Lafur ddogfen bolisi o'r enw "Plan to Make Work Pay". Mae'r Cynllun yn strategaeth gynhwysfawr gyda’r nod o wella cyflogau, sicrwydd swyddi, ac amodau gwaith.
- Daeth gweithredu'r cynllun yn ymrwymiad maniffesto cyn yr Etholiad Cyffredinol, ynghyd ag addewid i gyflwyno deddfwriaeth o fewn 100 diwrnod cyntaf Llywodraeth Lafur.
Cynnwys y Bil Hawliau Cyflogaeth
- Roedd y Bil Hawliau Cyflogaeth yn ganolbwynt i Araith y Brenin a oedd yn egluro rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU. Cyflawnwyd yr ymrwymiad i gyflwyno deddfwriaeth o fewn y 100 diwrnod cyntaf gyda chyhoeddi'r Bil Hawliau Cyflogaeth ar 10 Hydref 2024.
- Mae ehangder a chwmpas y Bil Hawliau Cyflogaeth (y cyfeirir ato yma wedi hyn fel 'y Bil') yn sylweddol. Mae’r Bil yn 149 tudalen, ac yn cynnwys 28 mesur ar draws 119 o gymalau, chwe rhan a saith atodlen. Dangosir ei gwmpas yn ôl ei deitl hir a ddyfynnir isod:
to make provision to amend the law relating to employment rights; to make provision about procedure for handling redundancies; to make provision about the treatment of workers involved in the supply of services under certain public contracts; to provide for duties to be imposed on employers in relation to equality; to provide for the establishment of the School Support Staff Negotiating Body and the Adult Social Care Negotiating Body; to make provision about trade unions, industrial action, employers’ associations and the functions of the Certification Officer; to make provision about the enforcement of legislation relating to the labour market; and for connected purposes.
- Mae cwmpas y Bil yn golygu nad yw'n bosibl cyflwyno manylion ei holl fesurau yn y papur hwn. Fodd bynnag, crynhoir crynodeb pennawd o ddarpariaethau allweddol isod:
- Hawl newydd i oriau gwarantedig yn seiliedig ar oriau a weithir yn ystod cyfnod cyfeirio (bydd hyd y rhain yn cael eu pennu mewn is-ddeddfwriaeth), rhybudd rhesymol am shifftiau, ac iawndal am ganslo shifftiau ar fyr rybudd. (DS: nid yw hyn yn gyfystyr â gwaharddiad llwyr ar Gontractau Dim Oriau – ond yn hytrach mae’n rhoi diwedd ar hyblygrwydd un maint ac yn grymuso gweithwyr gyda dewis rhwng oriau gwarantedig a Chontract Dim Oriau).
- Cyfyngu ar arferion ‘diswyddo ac ailgyflogi’ a ‘diswyddo a disodli’ drwy ystyried bod unrhyw ddiswyddiadau am fethu â chytuno i newid mewn contract yn annheg yn awtomatig, ac eithrio pan mae’n gwbl glir nad oes gan fusnesau unrhyw ddewis arall. (DS: mae'r Bil yn cynnig datrysiad ôl-weithredol trwy Dribiwnlys Cyflogaeth ac mae'n bwysig nodi y bydd y Bil yn gosod cyfyngiadau sylweddol ar ddiswyddo ac ailgyflogi ond nid yn ei wahardd yn llwyr.)
- Hawl o’r diwrnod cyntaf i gael amddiffyniad rhag diswyddo annheg gan ganiatáu cyfnodau prawf statudol lle mae proses ddiswyddo cyffyrddiad ysgafnach yn berthnasol (i'w phennu mewn canllawiau / is-ddeddfwriaeth).
- Mae hawliau diswyddo cyfunol cryfach drwy sicrhau bod rhwymedigaethau cyflogwyr i ymgynghori ar, a hysbysu am 20 neu fwy o ddiswyddiadau yn berthnasol ar draws gweithlu ac nid mewn un sefydliad yn unig.
- Cryfhau dyletswydd cyflogwyr i atal aflonyddu rhywiol ar eu gweithwyr drwy ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr gymryd pob cam ataliol rhesymol, gan nodi'r camau hynny mewn canllawiau, a chyflwyno rhwymedigaeth ar gyflogwyr i beidio â chaniatáu aflonyddu ar eu gweithwyr gan drydydd partïon.
- Adrodd cryfach ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau er mwyn adlewyrchu gweithwyr allanol a’i gwneud yn ofynnol i gyflogwyr mawr (250 neu fwy o weithwyr) gynhyrchu Cynlluniau Gweithredu Cydraddoldeb, yn nodi camau i fynd i'r afael â materion bwlch cyflog rhwng y rhywiau a chefnogi gweithwyr sy'n mynd trwy'r menopos.
- Gwella mynediad at Dâl Salwch Statudol (SSP) drwy gael gwared ar y Terfyn Enillion Isaf (LEL) a dileu'r cyfnod aros. (DS: Ar hyn o bryd mae LEL yn £123 yr wythnos a'r cyfnod aros yn dri diwrnod, sy'n golygu nad yw SSP yn daladwy ar hyn o bryd am y 3 diwrnod cymhwyso cyntaf o absenoldeb salwch).
- Ail-sefydlu'r Corff Trafod Staff Cymorth Ysgolion i wella telerau ac amodau ar gyfer staff cymorth ysgolion (Lloegr yn unig ar ôl cyflwyno).
- Sefydlu proses Cytundebau Cyflog Teg (FPA) yn y sector gofal cymdeithasol i oedolion (DS: y nod yw sefydlu cyd-fargeinio sectoraidd ym maes gofal cymdeithasol i oedolion – er mai dim ond yn Lloegr y bydd hyn yn cael ei gyflwyno, rydym mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch y potensial ar gyfer gwelliant gan y Llywodraeth i ymestyn y broses FPA i Gymru).
- Cryfhau'r gyfraith gyfredol ar roi cildwrn i sicrhau bod gweithwyr yn derbyn pob cildwrn yn llawn, drwy ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr ymgynghori â gweithwyr wrth ddatblygu neu adolygu eu polisïau ar roi cildwrn.
- Ailgyflwyno'r cod dwy haen ar gaffael gan sicrhau y bydd gweithwyr sy'n gweithio ar gontractau allanol yn cael cynnig telerau ac amodau sy'n cyfateb yn fras i'r rhai a drosglwyddir o'r sector cyhoeddus. (DS: Rydym mewn trafodaethau ar sut mae hyn yn cyd-fynd â'n cod dwy haen ein hunain. Yn benodol, rydym yn ceisio gwelliant i roi pwerau cyfatebol i Weinidogion Cymru i wneud darpariaethau mewn rheoliadau, a chyhoeddi cod ymarfer, i fod yn gymwys i'r sefydliadau hynny a ddiffinnir fel awdurdodau datganoledig Cymru yn Neddf Caffael 2023 ond heb eu rhestru yn Atodlen 1 i'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus).
- Moderneiddio deddfwriaeth undebau llafur i roi mwy o ryddid i undebau llafur drefnu, cynrychioli a thrafod ar ran eu gweithwyr.
- Diddymu Deddf Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) 2023 a diddymu Deddf Undebau Llafur 2016.
- Cryfhau hawl mynediad undebau llafur a symleiddio proses gydnabod undebau llafur.
- Hawliau ac amddiffyniadau newydd i gynrychiolwyr undebau llafur a dyletswydd ar gyflogwyr i hysbysu gweithwyr o'u hawl i ymuno ag undeb llafur.
- Gwella’r broses o orfodi hawliau cyflogaeth drwy sefydlu'r Asiantaeth Gwaith Teg i ddod â swyddogaethau gorfodi presennol y wladwriaeth ynghyd, gan gynnwys:
o rheoliadau ar gyfer asiantaethau cyflogaeth a busnesau cyflogaeth;
o cynllun cosb dyfarniad tribiwnlys cyflogaeth ddi-dâl;
o gorfodi'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a'r Tâl Salwch Statudol;
o y gyfundrefn drwyddedu ar gyfer busnesau sy'n gweithredu fel ‘meistri gangiau’ mewn rhai sectorau.
Datblygiad y Bil yn y Senedd
- Cafodd y Bil ei ddarlleniad cyntaf ar 10 Hydref. Cafwyd yr ail ddarlleniad ar 21 Hydref. Mae'r Bil wedi'i anfon at Bwyllgor Biliau Cyhoeddus erbyn hyn, a fydd yn craffu ar y Bil fesul llinell.
- Disgwylir i'r Pwyllgor adrodd i Dŷ'r Cyffredin erbyn 21 Ionawr 2025. Yna bydd y Bil yn mynd i’r cam Adroddiad, cyn ei drydydd darlleniad. Yn dilyn y trydydd darlleniad, ac yn amodol ar gael ei gymeradwyo gan Dŷ'r Cyffredin, bydd y Bil wedyn yn cael ei drosglwyddo i'r Arglwyddi.
Safbwynt ac ymgysylltiad Llywodraeth Cymru gyda Llywodraeth y DU
- Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi'r Bil yn gryf a'r Cynllun ehangach i wneud i waith dalu. Credwn y bydd hyn yn trawsnewid yn sylweddol y gwaith o ddarparu hawliau a dyletswyddau y gellir eu gorfodi'n gyfreithiol mewn llawer o feysydd. Mae'r rhain yn feysydd yr ydym wedi bod yn ymdrechu i'w hyrwyddo a'u hannog fel rhan o'n hagenda gwaith teg, er gwaethaf ein pwerau datganoledig mwy cyfyngedig.
- Cyn ac yn dilyn cyflwyno'r Bil, cafwyd ymgysylltu adeiladol a rheolaidd â Llywodraeth y DU ar lefel Weinidogol a swyddogol ac mae hyn yn parhau.
Cydsyniad Deddfwriaethol y Senedd
- Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn ddogfen a baratoir pan fydd Senedd y DU yn cynnig deddfwriaeth sy'n effeithio ar feysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru. Mae hyn yn sicrhau bod gan y Senedd lais mewn deddfau sy'n effeithio ar Gymru, hyd yn oed pan fyddant yn tarddu o Senedd y DU. Mae'r broses yn cael ei llywodraethu gan Reol Sefydlog 29 y Senedd.
- Ein dadansoddiad cychwynnol yw bod y Bil yn gwneud darpariaeth berthnasol at ddibenion Rheol Sefydlog 29 ac felly bydd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn ofynnol. Rydym yn gweithio drwy'r polisi a'r manylion cyfreithiol sydd eu hangen.
- Er y bydd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn cael ei gyflwyno cyn gynted â phosibl, oherwydd maint a chymhlethdod y Bil, bydd hyn y tu allan i'r dyddiad cau arferol o ddwy wythnos ar gyfer Rheol Sefydlog 29. Mae'r Llywydd (Llywydd y Senedd) wedi cael ei hysbysu.
Y camau nesaf
- Y dull a ddefnyddir yn y Bil yw darparu fframwaith a galluogi Gweinidogion sydd â phwerau i wneud rheoliadau ar y manylion sylweddol. Mae'r dull hwn yn rhoi cyfle i gynnal ymgynghoriadau pellach gyda phartïon â diddordeb cyn gwneud rheoliadau.
- Mae’r ymgynghoriadau mewn perthynas â chryfhau Tâl Salwch Statudol; Diswyddo Cyfunol a Diswyddo ac Ailgyflogi; Fframwaith Modern ar gyfer Cysylltiadau Diwydiannol; a’r defnydd o Fesurau Contractau Dim Oriau i Weithwyr Asiantaeth eisoes wedi'u lansio.
- Rhan fechan iawn yn unig o’r 70 o fesurau a mwy yn y Cynllun i Wneud Gwaith i Dalu yw’r 28 mesur yn y Bil Hawliau Cyflogaeth. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi dogfen 'Camau Nesaf' ar y Cynllun i Wneud Gwaith i Dalu.