Neidio i'r prif gynnwy

Ystadegau ac ymchwil yw'r brif ffynhonnell annibynnol o ran cyhoeddi ystadegau swyddogol cyfredol a hanesyddol, ac ymchwil gymdeithasol ac economaidd sy'n ymwneud â Chymru.

Ystadegau

Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â'r OSR drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy fynd i'w gwefan.

Mae ein holl ddatganiadau ystadegol yn cael eu diffinio'n ystadegau swyddogol gan Ddeddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007. Maent yn cael eu cynhyrchu yn unol ag egwyddorion y Y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae ystadegau swyddogol achrededig wedi cael eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Maent yn cydymffurfio â'r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Ymchwil gymdeithasol

Mae ymchwil gymdeithasol yn cynnig tystiolaeth o ansawdd uchel ar faterion, prosesau a chanlyniadau cymdeithasol, er mwyn darparu gwybodaeth a fydd yn sail i ddatblygu a chyflawni polisi. Mae hefyd yn rhoi gwybod i ni am yr hyn y mae pobl yn ei feddwl am y materion hynny, ac yn ein helpu i ddeall yr hyn sy'n digwydd fel canlyniad.

Mae ein hymchwilwyr cymdeithasol yn rhwym wrth Cod Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth.

Egwyddorion ar gyfer gwaith ymchwil a gwerthuso

  • Rhoi ystyriaeth gynnar i waith gwerthuso: bydd polisïau a rhaglenni newydd yn ystyried anghenion gwaith gwerthuso o'r cychwyn cyntaf.
  • Cynllunio gwaith ymchwil a gwerthuso yn effeithiol: bydd y broses fewnol o gynllunio am dystiolaeth yn canolbwyntio ar gynnig tystiolaeth i gefnogi blaenoriaethau strategol y Llywodraeth.
  • Cyhoeddi ymchwil: byddwn yn cyhoeddi gwaith ymchwil yn unol â Protocol cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth.
  • Gweithredu ar ymchwil: byddwn yn paratoi ymatebion posibl i argymhellion pob gwerthusiad ar gyfer y Gweinidogion.
  • Gwerth am arian: byddwn yn cynnwys dadansoddiad manwl o werth am arian yn y gwerthusiad pan fo hynny'n bosibl.