Daeth yr ymgynghoriad i ben 20 Rhagfyr 1023.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 249 KB
Ymatebion unigol (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB
Cymwysterau Cymru: canlyniadau ymgysylltu ac ymgynghori gyda plant a phobl Ifanc , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Ymgynghoriad ar y ddeddfwriaeth arfaethedig i greu corff cymwysterau newydd i Gymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’r ddogfen hon yn gofyn am eich sylwadau am gynigion i greu corff newydd sef Cymwysterau Cymru i fod yn gyfrifol am gymwysterau yng Nghymru. Nod ein cynigion yw cryfhau a symleiddio ein system gymwysterau er mwyn hwyluso’r gwaith o ddatblygu cymwysterau mwy perthnasol sy’n bodloni anghenion Cymru.
Fel yr argymhellwyd yn yr Adolygiad o Gymwysterau yng Nghymru bydd Cymwysterau Cymru yn dechrau ar ei waith drwy gyflawni swyddogaethau sicrhau ansawdd sy’n debyg i’r swyddogaethau rheoleiddio sy’n cael eu cyflawni gan Weinidogion Cymru ar hyn o bryd.
Ymhen amser wedyn y bwriad yw bod y corff newydd yn dod yn gyfrifol hefyd am ddyfarnu cymwysterau megis TGAU Safon Uwch a Chymhwyster Bagloriaeth Cymru yng Nghymru.