Neidio i'r prif gynnwy

Tasglu’r Cymoedd: Yn cyflawni newid yng Nghymoedd De Cymru

Y Cymoedd yw un o gyfrinachau gorau Cymru ac ni ddylid eu diffinio yn ôl eu heriau.

Ers 2016, mae Tasglu'r Cymoedd wedi ymgysylltu â chymunedau lleol ac wedi gwrando arnynt i helpu i ddatblygu sylfaen gref ar gyfer newid yn ein Cymoedd.

Gwyliwch ein ffilm ymgyrchu

Parc rhanbarthol y cymoedd
Gwnaethom fuddsoddi £7 miliwn ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd i ddiogelu a datblygu ein tirweddau, ein mannau gwyrdd a'n treftadaeth naturiol. Darganfyddwch fwy am y Pyrth Darganfod a sut y defnyddiwyd y buddsoddiad.
Grant cartrefi gwag
Gwnaethom fuddsoddi £12 miliwn yn y Grant Cartrefi Gwag i helpu pobl yn y Cymoedd i roi bywyd newydd i gartrefi hen neu wag.
Cynllun cyn-ddisgyblion
Mae'r cynllun yn helpu i gysylltu myfyrwyr ag esiamplau lleol yn y Cymoedd. Dysgwch sut y gallwch sefydlu eich cynllun eich hun gan ddefnyddio ein Pecyn Cymorth.
Big Bocs Bwyd
Gwnaethom fuddsoddi £100,000 ym mhrosiect Big Bocs Bwyd yn ardal Tasglu'r Cymoedd i ddarparu bwyd am bris fforddiadwy i deuluoedd yn y gymuned y gallai fod angen cymorth arnynt.
Economi sylfaenol
Rydym wedi buddsoddi £2.4 miliwn mewn 27 o brosiectau ar draws y cymoedd i ddeall yn well sut i gefnogi economi bob dydd cymunedau lleol.
Trawsnewid trefi
Gwahoddwyd awdurdodau lleol yn ardaloedd Tasglu'r Cymoedd i wneud cais am hyd at £3 miliwn o gyllid i gynorthwyo canol eu trefi llai i adfer yn sgil COVID-19.
Safleoedd gweithio o bell
Bydd y safleoedd hyn yn profi'r cysyniad o weithio o bell ac yn cyfrannu at uchelgais gyffredinol Llywodraeth Cymru o gael tua 30% o weithwyr yn gweithio gartref neu'n agos i’w cartrefi. Darganfyddwch sut y gallwch ddylanwadu ar ble y bydd safle gweithio.

Gwyliwch ein hastudiaethau achos