Swyddi o’r radd flaenaf; gwasanaethau cyhoeddus gwell a chymunedau lleol cryf yn y Cymoedd fydd ar yr agenda mewn cyfarfod ym Mlaenafon ddydd Mercher.
Dyna dair thema Ein Cymoedd, Ein Dyfodol - y cynllun gweithredu lefel uchel a lansiwyd gan y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De ym mis Gorffennaf.
Y cyfarfod ym Mlaenafon yw'r diweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus a fydd yn cael eu cynnal ym mis Medi a dechrau mis Hydref i drafod y cynllun.
Y themâu allweddol i ymddangos o'r sesiynau ymgysylltu blaenorol oedd yr angen i weithio gyda busnesau i ddatblygu sgiliau; materion mewn perthynas â thrafnidiaeth leol a gallu cymunedau i gysylltu â'i gilydd; adfywio prif strydoedd lleol; yr angen i wasanaethau cyhoeddus weithio'n well gyda'i gilydd a chost gofal plant a nifer y llefydd sydd ar gael.
Mae'r cyfan wedi'i adlewyrchu yn Ein Cymoedd, Ein Dyfodol, a gafodd ei ddatblygu yn seiliedig ar adborth gan bobl yn byw ac yn gweithio yng Nghymoedd y De.
Bydd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Alun Davies yn y cyfarfod ynghyd â chyd-aelod o'r tasglu sef Ann Beynon ac arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan. Yn ymuno â nhw fydd Alison Ward, Prif Weithredwr Cyngor Torfaen a'r Cynghorydd Anthony Hunt, arweinydd Cyngor Torfaen.
Mae Ein Cymordd, Ein Dyfodol, yn amlinellu nodau ac amcanion pob un o'r tri phrif faes blaenoriaeth, gan gynnwys:
- cau’r bwlch cyflogaeth rhwng Cymoedd y De a gweddill Cymru trwy gael 7,000 yn fwy o bobl i weithio erbyn 2021, a chreu miloedd o swyddi newydd, teg, diogel a chynaliadwy;
- lansio tri phrosiect braenaru i weld sut mae modd cydgysylltu gwasanaethau a darpariaeth leol yn well yn Llanhiledd, Glynrhedynog ac yng Nglyn-nedd a Banwen;
- edrych ar ddatblygu Parc Tirweddau'r Cymoedd sydd â'r potensial o helpu cymunedau lleol ddefnyddio eu hadnoddau naturiol ac amgylcheddol at ddibenion twristiaeth, creu ynni ac iechyd a lles.
"Mae'n gyffrous iawn bod yn rhan o'r gwaith hwn yn y Cymoedd - mae'r rhan yma o Gymru yn agos at fy nghalon; dyma'r ardal lle ces i fy ngeni a'm magu. Rwy'n cydnabod bod y problemau sy'n ein hwynebu yn niferus. Er hynny, rwy'n benderfynol o sicrhau y bydd y tasglu yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
"Rydyn ni'n gwbl ymrwymedig i weithio gyda Chyngor Torfaen, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, y gwasanaeth cyflogaeth, yr heddlu, ysgolion a cholegau a nifer o sefydliadau gwirfoddol i helpu cymunedau yn y Cymoedd i fynd o nerth i nerth. "
Sefydlwyd y tasglu flwyddyn yn ôl i weithio gyda chymunedau a busnesau lleol ledled Cymoedd y De i gyflawni newidiadau economaidd parhaus yn y rhanbarth; creu swyddi o safon yn nes at gartrefi pobl, gwella lefelau sgiliau a dod â ffyniant i bawb.
Bydd y tasglu’n ceisio sicrhau’r cyfleoedd gwaith mwyaf yn yr economi leol – busnesau fel manwerthu, gofal a’r diwydiant bwyd. Hefyd, bydd yn annog ac yn darparu cymorth i entrepreneuriaid hen a newydd.