Neidio i'r prif gynnwy

Swyddi a sgiliau o’r radd flaenaf; gwasanaethau cyhoeddus gwell a’r grym yn nwylo cymunedau lleol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyna dair thema Ein Cymoedd, Ein Dyfodol - cynllun lefel uchel y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De, a lansiwyd heddiw gan Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.

Ymunodd y Gweinidog â Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, ac aelodau eraill o’r tasglu i lansio’r cynllun wrth agor cynllun cyffrous arall yn y Cymoedd – canolfan chwarae ar ei newydd wedd ‘FuZe’, ar y cyd â Fern Partnership.

O fewn y tri phrif faes blaenoriaeth, nod y tasglu yw:

  • cau’r bwlch cyflogaeth rhwng Cymoedd y De a gweddill Cymru trwy gael 7,000 yn fwy o bobl i waith erbyn 2021, a chreu miloedd o swyddi newydd, teg, diogel a chynaliadwy
  • lansio tri phrosiect braenaru i weld sut mae modd cydgysylltu gwasanaethau a darpariaeth leol yn well yn y cymunedau hyn
  • gwella iechyd, llesiant a thwristiaeth trwy archwilio’r syniad o ddatblygu Parc Tirweddau’r Cymoedd.
Meddai’r Gweinidog, 

“Nid cynllun ar gyfer y Cymoedd yn unig yw Ein Cymoedd, Ein Dyfodol. Mae’n gynllun o’r Cymoedd.

“O’r dechrau, rwyf wedi pwysleisio’n glir nad achos arall o lywodraeth yn penderfynu beth sydd orau i’r cymoedd yw’r tasglu hwn. Os ydym i lwyddo, rhaid i gymunedau a phobl leol fod wrth galon ein gwaith.

“Mae FuZe yn enghraifft wych o hyn; prosiect dan law’r gymuned sydd wedi newid y gymuned y mae’n ei gwasanaethu. Un o brif amcanion y tasglu yw grymuso cymunedau ac mae’n rhaid i ni barhau i wrando a dysgu.”

Sefydlwyd y tasglu flwyddyn yn ôl i weithio gyda chymunedau a busnesau lleol ledled Cymoedd y De i gyflawni newidiadau economaidd parhaus yn y rhanbarth; creu swyddi o safon yn nes at gartrefi pobl, gwella lefelau sgiliau a dod â ffyniant i bawb.

Bydd y tasglu’n ceisio sicrhau’r cyfleoedd gwaith mwyaf yn yr economi leol – busnesau fel manwerthu, gofal a’r diwydiant bwyd. Hefyd, bydd yn annog ac yn darparu cymorth i entrepreneuriaid hen a newydd.

Byddant hefyd yn ystyried y cydsyniad o sefydlu Parc Tirweddau’r Cymoedd er mwyn helpu cymunedau lleol i adeiladu ar eu hasedau naturiol niferus, gan gynnwys y potensial i gynhyrchu ynni cymunedol a’r diwydiant ymwelwyr.