Araith gan Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Rhoddwyd yr araith yn y Gynhadledd Addysg Genedlaethol.
Bore da. Yn gyntaf, hoffwn ddweud pa mor falch ydw i o fod yma heddiw, yn fy Nghynhadledd Addysg Genedlaethol gyntaf fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
Mae’n dda bod yma yn Stadiwm Swalec. Fel llawer ohonoch dwi’n siwr, rwyf wedi bod yma o’r blaen i gefnogi Morgannwg, a mwynhau Gêm Brawf yng Nghyfres y Lludw.
Wedi dweud hynny, dydw i ddim yn arbenigwr ar griced. Yn sicr, rwy’n ei chael hi’n anodd deall sut y gall gêm bara pum diwrnod a dal gorffen yn gyfartal ….
A gallai rhai ofyn cwestiwn tebyg ynglyn â datganoli.
Pam nad yw addysg yng Nghymru, ar ôl dwy flynedd ar bymtheg, yn bencampwr cyffredinol y gallwn oll fod yn falch ohono?
Gadewch i mi fod yn hollol glir. Rwyf yn ymrwymedig, a byddaf yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddatganoli democrataidd a hunanlywodraethu.
Mae’n caniatáu i ni wneud ein penderfyniadau ein hunain, sy’n gweddu i’n hamgylchiadau ni ac i bennu ein huchelgeisiau a’n dyheadau ein hunain.
Ond mae hynny’n golygu cyfrifoldeb hefyd. Cyfrifoldeb i’w dweud hi fel y mae, a wynebu’r heriau. Ac osgoi’r cysur ffug o feio eraill am ein penderfyniadau.
Y gwir yw, er gwaetha llafur, gwaith a dycnwch cymaint o bobl ymroddedig dros y blynyddoedd, nid yw addysg yng Nghymru wedi cyrraedd ble y dylai fod ac mae hynny’n wir o hyd. Mae’r dystiolaeth ryngwladol yn dyst i hynny.
Ond roeddwn yn falch o weld bwlch cyrhaeddiad TGAU rhwng disgyblion tlotach a’u cymheiriaid yn lleihau unwaith eto eleni. Mae hynny oherwydd eich gwaith caled chi.
Ond a dweud y gwir, dydy hynny ddim yn ddigon da o hyd. Y bwlch cyrhaeddiad hwnnw yw’r anghyfiawnder parhaus yn ein system addysg.
Drwy wella cyfleoedd a chodi safonau i’n disgyblion tlotaf, rydym yn gwella uchelgais pawb.
Dydw i ddim yn credu eich bod yn dod yn athro a hynny ddim ond er mwyn gweithio gyda’r rhai sydd â digon ac sy’n cyflawni llawer.
Na – gwn eich bod yn dod yn athrawon oherwydd eich awydd i wneud gwahaniaeth.
I newid bywydau. I greu dyfodol gwell. I chwarae eich rhan dros eich cyd-ddinasyddion, eich cymunedau ac ie, eich gwlad.
Dyna pam rwy’n disgrifio’r diwygiadau addysg hyn fel ein cenhadaeth genedlaethol – ie, ein cenhadaeth genedlaethol ni.
Gwn fod y newidiadau hyn yn digwydd yn gyflym. Gall hynny godi ofn arnoch. Ond rwy’n ymddiried ynoch chi – ein gweithwyr proffesiynol.
Ac mae’n rhaid i chi ymddiried ynof i hefyd. Gyda’n gilydd, gyda brwdfrydedd ac argyhoeddiad, gallwn sicrhau y caiff pob person ifanc gyfle cyfartal i gyrraedd y safonau uchaf.
Dydw i ddim yn ymddiheuro am y ffaith bod y genhadaeth genedlaethol hon yn eithaf syml o ran yr hyn rydym am ei gyflawni.
Syml, ond nid hawdd. A heb benderfyniadau anodd neu rwystrau ar hyd y ffordd.
Mae a wnelo â mynd i’r afael â hanfodion system addysg fodern. A chyflawni canlyniadau i’n dinasyddion ifancaf.
Ond y symlrwydd a’r eglurder hwnnw o ran diben a pholisi yw fy egwyddor arweiniol.
Fel y dywedodd Issac Newton “Truth is ever to be found in simplicity, and not in the multiplicity and confusion of things.”
Y gwir yw bod gennym lawer o waith eto i’w wneud.
Ond gwn nad yw bod yn yr ystafell ddosbarth byth yn syml. Gall fod yn gymhleth, yn anodd ac yn heriol.
Ond gwn hefyd – gan eich bod yn dweud wrtha i – mai hwn yw’r proffesiwn sy’n rhoi’r mwyaf o foddhad.
Ac oherwydd hynny, rwyf am iddo fod yn broffesiwn sy’n cael y parch mwyaf hefyd.
Er mwyn cyflawni hyn, bydd y Llywodraeth yn eich cefnogi.
- Byddwn yn eich cefnogi i fod y gorau y gallwch, gan godi safon y proffesiwn yn gyffredinol.
- Byddwn yn eich cefnogi drwy sicrhau cyfleoedd i ddatblygu’n gyson, gan weithio gyda chi fel y myfyrwyr pwysicaf yn yr ystafell ddosbarth.
- Byddwn yn eich cefnogi drwy’r Safonau Addysgu Proffesiynol newydd, gan hyrwyddo uchelgais, dyhead a pherchenogaeth.
- Byddwn yn eich cefnogi drwy ddiwygio hyfforddiant i athrawon, a chael mwy o’n pobl ifanc gorau i weithio gyda chi fel ein cenhedlaeth newydd o athrawon; a
- Byddwn yn eich cefnogi drwy gyflwyno Academi Arweinyddiaeth Cymru, gan gydnabod talent, cyflawniad ac uchelgais.
Mae’n gyfres uchelgeisiol o gyfleoedd. Mae pob un yn gysylltiedig â’n diwygiadau ehangach o gyflwyno’r cwricwlwm newydd, lleihau maint dosbarthiadau babanod, ymestyn y grant amddifadedd disgyblion a chyflwyno system hunanwella wirioneddol.
Byddaf yn sicrhau fy mod yn cyflawni fy ymrwymiad i’r diwygiadau hyn – yr ymrwymiad i ddarparu cyfleoedd i’r proffesiwn dyfu, datblygu a chydnabod rhagoriaeth.
Gwn na all ysgol fod yn well na’i hathrawon. Dyna’r gwir plaen.
Felly, os nad yw ysgol na’i myfyrwyr yn llwyddo, gwyddom nad yw ei hathrawon ychwaith, er gwaethaf eu hymdrechion, yn llwyddo fel yr hoffent.
Dydw i ddim yn credu bod hwnnw’n ddatganiad dadleuol i’w wneud.
Rwyf am weithio gyda chi, eich cydweithwyr, y consortia, cyngor y gweithlu addysg, Estyn, awdurdodau lleol, rhieni ac eraill i ymdrin yn onest â’r materion hynny.
A byddaf hyd yn oed yn fwy gonest a dweud nad oes gen i amynedd â chynrychiolwyr y proffesiwn sy’n cyhuddo’r consortia o weithredu fel yr Heddlu Cudd.
Ie, yn anffodus, gwnaed cyhuddiad gwirion o’r fath mewn cyfarfod yn ddiweddar â swyddogion. Gwarthus.
Cyfaddefaf fod y Consortia wedi cael rhai problemau cychwynnol – rhai yn sownd yn niwtral, rhai yn mynd i gyfeiriadau gwahanol.
Ond rwy’n argyhoeddedig – ac mae’r gwerthusiad yn dweud wrtha i – eu bod wedi helpu i greu ymdeimlad gwell o ddiben a meddylfryd gwell sef ‘yn gryfach gyda’n gilydd’.
Caf fy nghalonogi gan fwy o gydweithio rhwng fy swyddogion a’r consortia, ac ar draws consortia. Rydym ran o’r ffordd drwy raglen ddiwygio sylweddol a bydd partneriaeth yn hanfodol wrth symud ein system addysg ymlaen.
Byddaf yn cyfarfod â chonsortiwm Canolbarth y De y pnawn 'ma, am sgwrs adeiladol gobeithio. Mae wedi gwneud cynnydd da o ran Cyfnod Allweddol 4 ac mae’n galonogol bod cymaint o ysgolion bellach yn gweithio mewn partneriaethau cydweithredol.
Gwn fod ymddiriedaeth yn galw am gryn ymdrech, ond credaf fod y Consortia – sy’n cysylltu ag ysgolion, prifysgolion a phob rhan o’r sector – yn gwneud cyfraniad cryf i wella canlyniadau i fyfyrwyr, ysgolion a’n system addysg.
Ac felly... fel y gwyddom, roedd profion PISA yn rhybudd eithaf clir ein bod ar ei hôl hi. Gofynnodd y Llywodraeth i’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) dynnu sylw at ein system.
Datgelodd gryfderau Cymru, ond hefyd ein gwendid. Ymatebodd Llywodraeth Cymru yn briodol, yn 2014, gyda’i chynllun gwella, Cymwys am Oes.
Roedd yn cynnwys pedwar prif amcan ac rwyf yn cefnogi pob un. Yr amcanion hyn oedd:
- cael gweithlu proffesiynol rhagorol
- cwricwlwm diddorol
- cymwysterau a berchir yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
- ac arweinwyr yn cydweithio mewn system hunanwella.
Y mae pob un o’n diwygiadau yn seiliedig arnynt. Gwnaed llawer i gyflawni’r amcanion hyn ac wrth gwrs mae mwy i’w wneud.
Ond heddiw, rwy’n cyhoeddi i chi y byddaf yn ychwanegu pumed amcan a’r un olaf yn y fersiwn nesaf o Cymwys am Oes. Rhywbeth sy’n bersonol i fi: sef Lles ein plant.
Pryd bynnag yr af heibio Ysbyty Great Ormond Street, mae ei arwyddair bob tro yn fy nharo: “The Child First and Always”. Dyma’r weledigaeth glir sy’n aros yn y cof.
Rhaid i les plentyn fod wrth wraidd ein system addysg gynhwysol.
Er bod llesiant yn ymhlyg yn Cymwys am Oes, heddiw rwyf am ei wneud yn benodol. Dim ond os gall pob un o’n pobl ffynnu y gall ein cenhadaeth genedlaethol fod yn wirioneddol llwyddiannus.
Fel y gwyddoch, yn y Cynulliad diwethaf, roedd angen cymorth pleidiau eraill ar Lywodraeth Cymru er mwyn pasio ei chyllideb. Galluogodd hyn y gwrthbleidiau i ymladd dros eu blaenoriaethau. Ers pum mlynedd, mae fy mhlaid i wedi ymladd dros yr union un peth: cefnogaeth i’n disgyblion mwyaf difreintiedig.
Roedd arwyddair Great Ormond yn fy meddwl bryd hynny, fel y mae nawr.
Y tu hwnt i lywodraeth, sicrhaodd fy mhlaid y Grant Amddifadedd Disgyblion. Byddaf yn ei ddefnyddio fel adnodd allweddol i wella cyfleoedd bywyd pob un o’n plant o fewn y llywodraeth. Rhaid i les pob plentyn fod wrth wraidd popeth a wnawn.
Dyna pam roeddwn mor falch – fel y soniais yn gynt – ein bod ni, am yr ail flwyddyn yn olynol, wedi gweld y bwlch cyrhaeddiad ystyfnig rhwng y disgyblion tlotaf a’u cymheiriaid yn lleihau.
Yn ddi-au, mae’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn gweithio. Dyna pam fel Ysgrifennydd y Cabinet, y byddaf nid yn unig yn sicrhau cyllid ar ei gyfer, ond hefyd yn ei godi o £300 i £600 ar gyfer ein dysgwyr ifancaf.
Gwnaf hyn am fy mod wir yn credu bod pob plentyn a pherson ifanc yn dda, yn emosiynol ac yn gorfforol. Credaf hefyd fod gan bawb gyfrifoldeb i chwalu rhwystrau i ddysgu.
Ac felly fy her i chi yw edrych ar yr hyn rydych eisoes yn ei wneud wrth ofalu am les pob plentyn, a meddwl wedyn am beth yn fwy y gallech ei wneud.
A gan ein bod ynghanol Wythnos Gwrth-fwlio, mae’n adeg dda felly i feddwl o ddifrif am sut y mae’r broblem gynyddol hon yn effeithio ar lesiant a beth yn rhagor y gallwn ei wneud i godi ymwybyddiaeth.
Eleni, byddwn yn parhau i gefnogi ymdrechion gydag amrywiaeth o ddeunydd ac adnoddau gwrth-fwlio wedi’u hanelu at ddisgyblion, rhieni ac athrawon. Mae’n bwysig ein bod yn parhau i gydweithio â rhanddeiliaid allweddol i ledaenu’r neges fod bwlio yn fater i bawb ac na chaiff ei dderbyn. Dylai ein Dysgwyr deimlo’n ddiogel ac yn werthfawr.
Mae’n hollbwysig ein bod yn cydweithio i hyrwyddo goddefgarwch a dealltwriaeth, mae angen i ni feithrin amgylchedd cynhwysol i bob person ifanc sy’n mynd drwy gatiau’r ysgol.
Ac mae hyn yn dod â fi nôl at y rheswm pam mae’n rhaid i ddiwygiadau addysg weithio i bawb, ni waeth beth fo’u hanghenion fel unigolion.
Dyma pam mae’n Rhaglen Trawsnewid uchelgeisiol i wella deilliannau i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn rhan mor bwysig o’n gweledigaeth gyffredinol ar gyfer diwygio addysg.
Byddwn yn cyflwyno Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol eleni, ond dim ond un rhan o’r hyn rydym yn ei wneud yw hyn i greu system addysg gynhwysol a theg lle y cefnogir pob dysgwr i oresgyn rhwystrau i gyflawni ei botensial.
Bydd ein cwricwlwm newydd yn hanfodol wrth baratoi ein pobl ifanc fel y gallant fyw bywydau dinesig a phroffesiynol boddhaus a phersonol yn ein byd modern.
Rwy’n hyderus y gwelwn wahaniaeth mawr, dros yr ychydig flynyddoedd nesaf – bydd ein cwricwlwm ni, wedi’i wneud yng Nghymru ond wedi’i lunio gan y gorau o bob rhan o’r byd, yn rhan hanfodol o’n cenhadaeth genedlaethol.
Rwyf i, fel unrhyw riant, am sicrhau’r gorau posibl i’m merched. Dylai pob rhiant fod yn hyderus fod ei blentyn yn mynd i ysgol sy’n ei helpu i dyfu fel dinesydd galluog, iach a chyflawn.
Fy nod yw sicrhau bod y cwricwlwm a’r trefniadau asesu newydd ar gael i leoliadau ac ysgolion o fis Medi 2017 ac y cânt eu defnyddio i gefnogi dysgu ac addysgu o fis Medi 2021.
Rwy’n falch o ddweud ein bod yn gwneud cynnydd gwirioneddol dda i ddatblygu’r cwricwlwm.
A rhaid diolch yn y fan hon i’r Ysgolion Arloesi sy’n neilltuo amser i feddwl drwy gwestiynau allweddol, cynnal ymchwil a sicrhau bod gennym sail dystiolaeth gadarn cyn i ni ddechrau cynnal llawer o weithgareddau.
Mae’r ysgolion hyn eisoes wedi gwneud cynnydd da wrth ddatblygu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, cefnogi dysgu rhwng cyfoedion, a pharhau i wella a rhannu syniadau.
Ynghyd â’u gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm newydd, bydd gan y Rhwydwaith Arloesi rôl ganolog hefyd i ddatblygu’r trefniadau asesu newydd yng Nghymru.
Ac felly rwy’n argyhoeddedig y bydd y diwygiadau’n llwyddo, ond rhaid i ni gydweithio er mwyn sicrhau bod yr hanfodion yn gywir, gan godi ein safonau fel y gall pob disgybl, myfyriwr ac athro gyflawni rhagoriaeth.
Dyma pam mae’r diwygiadau hyn yn cael eu datblygu a’u cyflwyno mewn partneriaeth ag ysgolion ac athrawon ledled y wlad.
Mae disgwyliadau’n uchel, fel y mae disgwyl iddynt fod. Ond unwaith eto, rwyf am bwysleisio bod gen i ffydd yng ngweithwyr proffesiynol Cymru i gyflawni ar gyfer ein pobl ifanc. Ydy, mae’n dasg enfawr, ond yn un y byddwch yn ei chyflawni, mi wn.
Ond, wrth gwrs, nid yw cwricwlwm ar ei ben ei hun yn ddigon: mae dal angen athrawon gwych ar gwricwlwm da.
Rwy’n siarad yn ddi-flewyn-ar-dafod: does gen i ddim amser i’r rhai sy’n meddwl eu bod yn berffaith. Nad oes angen datblygiad proffesiynol arnynt. Bod cyffredin yn ddigon da. Os felly, wedyn edrychwch rywle arall, gan nad yw addysgu yng Nghymru yn addas i chi.
Nid bod yn gosbol yw hyn. I mi, y myfyriwr pwysicaf un yn yr ystafell ddosbarth yw’r athro.
Mae pob addysgwr da yn gwybod y byddant yn addysgu gwersi gwell yfory na ddoe, yn syml am eu bod yn dysgu drwy’r amser. Mae athrawon yn fyfyrwyr gydol oes. Maent yn dysgu oddi wrth ei gilydd, yn gwella’n barhaus, ac yn astudio arfer gorau boed yn yr ystafell ddosbarth, yn y wlad neu ar y cyfandir.
O’m rhan i, addysgu yw’r swydd bwysicaf yn y byd. Yn bendant. Rwyf am sicrhau bod addysgu yn broffesiwn dewis cyntaf. Rwyf am ddenu’r gorau i fyd addysgu a’i gwneud yn yrfa gydol oes. A dyna pam rwy’n parhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod cynnig Cymru ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon yn iawn.
Fodd bynnag, gwyddom nad addysgu rhagorol yn unig fydd yn codi safonau mewn ysgolion – ond arweinyddiaeth ragorol hefyd.
Mae arweinyddiaeth yn un maes yn sicr lle y teimlaf nad yw Cymru wedi gwneud digon o gynnydd – ac nid ydym wedi datblygu yn ddigon cyflym.
Rwyf wedi sôn o’r blaen am fy mwriad i sefydlu academi arweinyddiaeth, a heddiw cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig yn cadarnhau’r cynlluniau hyn.
Byddwn yn sefydlu corff cenedlaethol i Gymru er mwyn sicrhau y gall pob arweinydd yn ein system addysg gael budd o gyfleoedd dysgu proffesiynol o ansawdd uchel, sy’n dwyn ynghyd y wybodaeth orau am arweinyddiaeth ysgolion a newid system.
Mae partneriaid allweddol o Gymru a thu hwnt wedi bod yn rhan o drafodaethau wedi’u hanelu at gynllunio’r corff hwyluso hwn, a fydd, yn ddi-au, yn helpu i ddatblygu ein hagenda diwygio a darparu arweinwyr y dyfodol yng Nghymru gyda chyfleoedd dysgu rhagorol.
Byddaf hefyd yn ffurfio bwrdd cynghori ar gyfer yr Academi, ac fel rhan o’r trefniadau hyn rwyf wedi gofyn i Ann Keane gadeirio cam cychwynnol y gwaith hwn.
Mae hwn yn benodiad cyffrous a gwn y bydd yn rhoi her newydd i arweinyddiaeth a ffordd newydd o feddwl gan y gorau yn y maes hwn.
Er mwyn cefnogi Ann, mae’n bleser gen i gyhoeddi ein bod wedi sicrhau sawl aelod uchel eu parch ar gyfer y bwrdd cynghori.
Felly i grynhoi: credaf ein bod yn datblygu mewn ffordd lwyddiannus ond mae llawer i’w wneud o hyd!
Arhosodd canlyniadau TGAU yr haf yn sefydlog - mewn ffordd dda. Cyflawnodd 66.6% o’n pobl ifanc y radd A-C, gan gau’r bwlch rhwng Lloegr a ni. Ond nid yw’n ddigon, ydy e? Mae pob un ohonom am weld mwy na hynny.
Mae Cymru mewn sefyllfa well nag y bu ers amser maith, ac rwyf am sicrhau bod hynny’n parhau – ac yn datblygu’n gyflym.
Rhaid sicrhau ein bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir.
Roedd hi’n fraint cael fy mhenodi yn Ysgrifennydd Addysg. Yn fraint am fy mod, o ddydd i ddydd, yn cyfarfod ag addysgwyr sy’n ymroi i wneud gwahaniaeth. Gadewch i ni fod yn onest, mae ffyrdd haws o wneud bywoliaeth onid oes?
Yn gynharach y mis hwn, dywedodd un pennaeth wrtha i ei bod yn teimlo bod cyfrifoldeb mawr arni dros y plant yn ei hysgol, a sut y byddent yn llwyddo mewn bywyd ar ôl gadael.
Ond yr hyn a gododd fy ysbryd fwyaf oedd y ffordd roedd yn gweld ei hun fel rhan o’r system addysg yn gyffredinol. Nid yn unig mae am i’r plant yn ei hysgol hi wneud yn dda, ond mae hefyd am weld hyn yn digwydd mewn ysgolion ledled Cymru.
A dyna sydd wrth wraidd hyn i gyd. Nid bod yn ynysig ond cydweithio... athro i athro, ysgol i ysgol, rhanbarth i ranbarth… er lles Cymru gyfan.
Bod yn rhan o’r darlun mwy. Cenhadaeth genedlaethol.
Ers cymaint o amser, rydym wedi edrych ar wledydd eraill fel meincnod ar gyfer rhagoriaeth. Ond wir, rwy’n siwr bod y Ffindir wedi diflasu erbyn hyn ar y llif cyson o ymwelwyr rhyngwladol sy’n cerdded o amgylch eu hysgolion, yn ceisio chwilio am gyfrinach eu llwyddiant!
Ond gynadleddwyr, un diwrnod, a dywedaf hyn yn ddiffuant, un diwrnod bydd gwledydd eraill yn edrych arnom ni fel yr enghraifft orau, ac yn defnyddio ni fel y meincnod. Rwyf am weld ymwelwyr rhyngwladol yn cerdded o amgylch ein hysgolion ni, yn chwilio am ein cyfrinach ni!
Rwyf am gau drwy rannu’r syniad hwn gyda chi.... pan ddechreuais yn y swydd hon, cefais fy herio i geisio dychmygu sut olwg fyddai ar lwyddiant mewn addysg.
Gellid cynnig nifer o atebion, yn dibynnu o ba ongl yr oeddech yn ystyried hyn.
Fodd bynnag, credaf mai llwyddiant fydd meddwl, ni waeth beth fo cefndir y person ifanc, ni waeth pa ystafell ddosbarth y gwnaeth astudio ynddi, ni waeth pa ysgol - y bydd y person hwnnw yn mynd ymlaen i fyw bywyd llawn a boddhaus oherwydd ei brofiad o addysg. Dyma’r unigolyn a ragwelir yn Dyfodol Llwyddiannus.
Dyna ein her ni. Dyna ein gwaith ni.
Diolch i chi am eich amser. Gobeithio y gwnewch fwynhau gweddill y gynhadledd, ac edrychaf ymlaen at gwestiynau’r panel yn nes ymlaen heddiw. Rwy’n siwr y byddwch yn drugarog wrtha I!