Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen lywodraethu 2021 i 2026.

Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn nodi’r ymrwymiadau uchelgeisiol a radical y byddwn yn eu cyflawni dros y pum mlynedd nesaf er mwyn mynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu ac er mwyn gwella bywydau pobl ledled Cymru. Mae’n seiliedig ar werthoedd sy’n arbennig o Gymreig: cymuned, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Mae’n gosod cydweithio o flaen cystadleuaeth, gan ddangos sut y byddwn yn gweithredu i sicrhau tegwch i bawb a dileu anghydraddoldeb ym mhob rhan o gymdeithas. Mae pobl yng Nghymru yn gofalu am ei gilydd, ac mae’r rhaglen hon wedi’i seilio ar yr union egwyddor honno.

Mae’r Rhaglen Lywodraethu hefyd yn nodi deg amcan llesiant sy’n cyd-fynd yn uniongyrchol â’r deg pennawd yn ein maniffesto, gan sicrhau y bydd pobl yng Nghymru yn gweld yr agenda bolisi y gwnaethant bleidleisio drosti yn cael ei chyflawni’n ymarferol. Mae’r amcanion hyn wedi’u cynllunio i sicrhau bod y llywodraeth yn cyfrannu i’r eithaf tuag at gyflawni pob un o’r amcanion llesiant.