Neidio i'r prif gynnwy

Eich helpu chi i berchen ar gartref

Rydyn ni'n gwybod y byddai llawer o bobl yng Nghymru'n hoffi berchen ar eu cartref eu hunain, ond nad ydynt yn gallu fforddio gwneud hynny. Bydd ein cynlluniau ni'n helpu mwy o bobl yng Nghymru i berchen ar eu cartref eu hunain.

Pa gynllun sy'n iawn i mi?

Bydd ateb ein cwestiynau yn ffordd syml i'ch helpu i ddod o hyd i'r cynllun(iau) y gallwch chi fod yn gymwys i fanteisio arnyn nhw.

Gallwch weld y meini prawf sy'n rhaid eu bodloni i fod yn gymwys yn y canllawiau ar gyfer pob cynllun.

Rhentu i Berchnogi – Cymru
Cynllun sy'n sicrhau bod eiddo newydd ar gael i'r rhai hynny sydd am gynilo i gyfrannu at flaendal morgais – gan fydd 25% o'r rhent y byddwch wedi'i dalu yn cael ei rhoi yn ôl ichi i'ch helpu i brynu'r cartref.
Rhanberchnogaeth – Cymru
Cynllun rhanberchnogaeth sy'n caniatáu ichi brynu rhwng 25% a 75% o gyfran eiddo, a thalu rhent ar y gyfran sy'n weddill.
Cymorth i Brynu – Cymru
Cynllun benthyciadau ecwiti a rennir ar gyfer cartrefi gwerth hyd at £300,000. Mae'r cynllun hwn ar gyfer pobl sy'n prynu cartref am y tro cyntaf a'r rhai hynny sy'n symud tŷ - cyhyd â bod ganddynt flaendal sy'n 5% o werth yr eiddo.
Prynu Cartref – Cymru
Cynllun benthyciadau ecwiti ar gyfer y rhai hynny sy'n bodloni meini prawf penodol. Rhoddir benthyciad o rhwng 30% a 50% i helpu pobl i brynu eiddo.
Hunanadeiladu Cymru
Cynllun i helpu pobl i gael cyllid i adeiladu eu cartref eu hunain yw Hunanadeiladu Cymru.

A allwch chi fforddio prynu cartref?

Mae'n bosibl mai prynu cartref yw'r buddsoddiad unigol mwyaf y byddwch erioed yn ei wneud. Mae'n gyfnod cyffrous, ond mae llawer o bethau i'w hystyried. Felly, bydd angen ichi neilltuo amser i edrych ar y costau.

Gallwch ddod o hyd i gyngor ar gynilo am flaendalcael morgais, a llawer mwy ar wefan Helpwr Arian. Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell ar-lein hyd yn oed, i amcangyfrif faint y gallai ad-daliadau eich morgais fod.

I gael gwybod mwy am y broses, y prif gamau, a'r ffioedd y gallwch eu disgwyl, argymhellwn eich bod yn edrych ar eu llinell amser ar gyfer prynu cartref yn y lle cyntaf.
 

Image
money helper logo