Dod o hyd i gynllun perchen ty
Efallai y byddwch yn gymwys i fanteisio ar y cynlluniau canlynol:
![Rhanberchnogaeth – Cymru](/sites/default/files/cta-blocks/2018-02/shared-ownership_9.jpg)
Cynllun rhanberchnogaeth sy'n caniatáu ichi brynu rhwng 25% a 75% o gyfran eiddo, a thalu rhent ar y gyfran sy'n weddill.
![Cymorth i Brynu – Cymru](/sites/default/files/cta-blocks/2018-02/cta-help-to-buy_2.png)
Cynllun benthyciadau ecwiti a rennir ar gyfer cartrefi gwerth hyd at £300,000. Mae'r cynllun hwn ar gyfer pobl sy'n prynu cartref am y tro cyntaf a'r rhai hynny sy'n symud tŷ - cyhyd â bod ganddynt flaendal sy'n 5% o werth yr eiddo.
![Prynu Cartref – Cymru](/sites/default/files/cta-blocks/2018-02/homebuy_4.jpg)
Cynllun benthyciadau ecwiti ar gyfer y rhai hynny sy'n bodloni meini prawf penodol. Rhoddir benthyciad o rhwng 30% a 50% i helpu pobl i brynu eiddo.