Neidio i'r prif gynnwy

Bydd 12 o gwmnïau technoleg yn cyflwyno eu syniadau busnes gerbron Dug Caerefrog a gwahoddedigion yng Nghaerdydd yr wythnos hon yn y digwyddiad Pitch@Palace cyntaf yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Pitch@Palace yn cynnig cyfle i entrepreneuriaid ddangos eu syniadau ar gyfer busnesau technoleg i gynulleidfa ryngwladol a dylanwadol a all ei ddatblygu i'r lefel nesaf.

Sefydlwyd Pitch@Palace gan Ddug Caerefrog yn 2014 i gefnogi entrepreneuriaid i chwyddo a datblygu eu syniadau busnes drwy eu cysylltu â chefnogwyr posib gan gynnwys Prif Swyddogion Gweithredol, buddsoddwyr, anogwyr a phartneriaid busnes allweddol.

Mae Pitch@Palace On Tour yn dod i Tramshed Caerdydd ddydd Gwener 24 Chwefror yn sgil gwahoddiad gan Cardiff Start, canolfan gymorth gymunedol ar gyfer busnesau technoleg newydd a gweithwyr proffesiynol ym myd busnes yng Nghaerdydd  a’r cyffiniau. Llywodraeth Cymru yw prif noddwr y Pitch@Palace cyntaf yng Nghymru sydd hefyd yn cael ei gefnogi gan Innovation Point.

Bydd entrepreneuriaid dethol yn cyflwyno eu syniadau busnes gerbron Ei Uchelder Dug Caerefrog a gwahoddedigion ac yn cystadlu i symud ymlaen i'r cam nesaf sef Bŵtcamp Pitch@Palace. Bydd y rhai mwyaf llwyddiannus yna'n gwneud cyflwyniad ym Mhalas St James o flaen cynulleidfa o bobl o'r byd entrepreneuriaeth, technoleg, cyfryngau a buddsoddi.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

"Mae gan fusnesau technoleg sydd â syniadau gwych y potensial i gael effaith gadarnhaol go iawn ar ein bywydau a'n heconomi. Maent yn gweithredu mewn amgylchedd cystadleuol iawn a gall busnesau newydd elwa'n sylweddol o gefnogaeth ac arbenigedd ar lefel uchel er mwyn symud ymlaen i'r lefel nesaf.

"Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiaeth eang o gymorth busnes i'r mentrau hyn ac mae ein nawdd i Pitch@Palace yn creu cyfleoedd a phrofiadau newydd i gwmnïau technoleg Cymru. Hoffwn ddymuno pob lwc i'r holl gyfranogwyr."

Roedd Robert Lo Bue, sy'n cynnal Pitch@Palace a chyd-sefydlydd Cardiff Start yn cefnogi barn Ysgrifennydd yr Economi. Dywedodd: 

"Mae'r maes dechrau busnes technoleg newydd ym mhrifddinas Cymru a'r cyffiniau wedi ehangu'n fawr yn y blynyddoedd diwethaf. Mae gan ein cymuned ni yn unig dros 2100 o aelodau yn rhannu cyfleoedd a phrofiadau bob dydd.

"Rydym yn ffodus iawn yng Nghymru i gael Llywodraeth gefnogol ac amgylchedd cydweithredol lle mae mentrau unigol yn cyd-weithio i greu ecosystem ddelfrydol i ddarpar-entrepreneuriaid.

"Mae denu Pitch@Palace i Gymru yn gyfle gwych ac yn gydnabyddiaeth o'r twf cyflym a'r llwyddiant yn y sector yng Nghymru."

Mae dau brif ddigwyddiad Pitch@Palace yn cael eu cynnal yn y DU bob blwyddyn, ac mae gan bob un thema wahanol. Maent yn canolbwyntio ar feysydd amrywiol o ddiwydiant Technoleg y DU. Y thema bresennol yw Technoleg Ddynol a'r effaith bosib y mae technoleg yn ei chael ar ein bywydau bob dydd. Mae ffocws ar dri maes:

  • Technoleg i gefnogi ein hanghenion bob dydd - Iechyd, Addysg, Amgylchedd
  • Technoleg sy'n gwneud ein bywydau'n fwy effeithlon - Cysylltu tai drwy'r Rhyngrwyd o Bethau, Gwella Cyfathrebu, Technoleg Wisgadwy a Roboteg
  • Technoleg sy'n ymestyn ein profiad o'r byd - trwy Rhith-wirionedd a Deallusrwydd Artiffisial.

Mae Pitch@Palace wedi helpu dros 

  • 247 o fusnesau i dyfu a chreu 643 o swyddi hyd yn hyn:
  • Mae gan 66% o fusnesau newydd fwy o gyfleoedd cyflogaeth;
  • Llwyddodd 65% o’r busnesau newydd sy'n cystadlu godi arian wedi hynny;
  • Mae gwerth dros £247miliwn o weithgarwch economaidd wedi cael ei gofnodi.

Mae panel beirniaid Pitch@Palace Caerdydd yn cynnwys: David Buttress, Prif Swyddog Gweithredol Just Eat, Yasmin Crawford, perchennog Tramorgan a James Henderson, Rheolwr y Gronfa Inspire Wales.

Y cwmnïau a ddewiswyd i gyflwyno yw: 

  • Kraydel
  • Salubrious Ltd
  • Helpfulpeeps
  • BrainWaveBank Limited
  • Learnium
  • Harness
  • Paperclip
  • Alkosens
  • Medivation Limited
  • Vision Game Labs Ltd
  • Volunteer Space
  • Recall Alert CIC.