Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog dros Blant, fod saith o awdurdodau lleol ychwanegol ar fin treialu cynnig gofal plant newydd, arloesol Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r cynnig yn cael ei gyflwyno'n raddol ledled Cymru, ac erbyn mis Medi 2020 bydd yn darparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth ar gyfer rhieni plant tair a phedair oed sy'n gweithio, a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Heddiw, mae'r Gweinidog yn cyhoeddi bod y cynnig yn cael ei ehangu i gynnwys ardaloedd yr awdurdodau lleol canlynol o fis Medi 2018:

  • Caerdydd - cyflwynir y cynnig gam wrth gam
  • Casnewydd - cyflwynir y cynnig gam wrth gam
  • Torfaen - y sir gyfan
  • Castell-nedd Port Talbot - cyflwynir y cynnig gam wrth gam 
  • Ceredigion - y sir gyfan
  • Conwy - cyflwynir y cynnig gam wrth gam
  • Wrecsam - cyflwynir y cynnig gam wrth gam
Ar hyn o bryd, mae'r cynnig ar gael yn Ynys Môn, Gwynedd, Caerffili, Sir y Fflint, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Blaenau Gwent. 

Mae'r cyhoeddiad heddiw'n golygu y bydd nifer yr awdurdodau sy'n cyflwyno'r cynnig yn dyblu erbyn mis Medi, gan ddangos cynnydd a momentwm go iawn. Disgwylir y bydd y cynnig yn cael ei gyflwyno mewn o leiaf rhai rhannau o'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol Cymru erbyn mis Medi 2019.

Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol:

"Mae ein cynnig gofal plant arloesol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i rieni ledled Cymru, gan leihau'r straen ar incwm teuluoedd a helpu i sicrhau nad yw gofal plant yn eu rhwystro rhag derbyn swydd neu gynyddu eu horiau.

"Mae'n bleser mawr gennyf gadarnhau bod y cynnig yn cael ei ehangu i saith o awdurdodau lleol eraill ledled Cymru, wrth inni barhau i weithio i gyflwyno'r cynnig yn raddol drwy Gymru gyfan erbyn mis Medi 2020."