Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, fod rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn mynd i gael ei ehangu i gynnwys colegau addysg bellach a'r sectorau dysgu seiliedig ar waith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwnaed y cyhoeddiad wrth i Ysgrifennydd y Cabinet dderbyn yn ffurfiol argymhellion yr adolygiad o weithgareddau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Daeth yr adolygiad i'r casgliad bod y Coleg yn gwneud cyfraniad allweddol i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg uwch ac y dylid ehangu ei gylch gwaith.

Roedd sefydlu'r adolygiad yn rhan allweddol o'r Cytundeb Blaengar rhwng Prif Weinidog Cymru a Kirsty Williams.

Gofynnir i'r Coleg nawr weithio gyda Llywodraeth Cymru i greu cynllun gweithredu ffurfiol i ddatblygu darpariaeth ôl-16 cyfrwng Cymraeg dros y tair blynedd nesaf, a sefydlu bwrdd cynghori ôl-16 o arbenigwyr yn y maes i roi cyngor ar ddatblygu'r cynllun ac unrhyw ymyriadau yn y dyfodol.

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

“Nod Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr, a lansiwyd yn yr haf, yw datblygu darpariaeth addysg ôl-orfodol i helpu pawb, beth bynnag yw eu gafael ar yr iaith, i ddatblygu sgiliau Cymraeg i'w defnyddio'n gymdeithasol ac yn y gweithle.

“Mae hwn yn gam pwysig ymlaen i ddatblygu cyfleoedd i bob dysgwr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.  Rwy'n falch y bydd y Coleg yn gallu gweithredu ar yr argymhellion hyn a'i fod eisoes mewn cysylltiad â'r sector ôl-16 ac yn datblygu ei weithgareddau ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Delyth Evans, a gadeiriodd y grŵp gorchwyl a  gorffen a gynhaliodd yr adolygiad:

“Rwy’n falch bod yr adroddiad wedi cael ei groesawu a bod yr argymhellion i gyd wedi eu derbyn.   Bydd yn gyfnod cyffrous i’r Coleg yn y dyfodol ac rwy' wrth fy modd bod y grŵp gorchwyl a gorffen wedi gallu cyfrannu i’r datblygiad ac wedi creu sylfaen ar gyfer newidiadau i'r dyfodol.”