Neidio i'r prif gynnwy

Bydd gwasanaeth sy'n rhoi cymorth i fenywod y mae risg y bydd eu plant yn cael eu rhoi mewn gofal ar gael drwy Gymru gyfan o hyn ymlaen.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd rhaglen Adlewyrchu ei datblygu gan Gyngor Dinas Casnewydd, gyda chymorth Barnardo’s Cymru, i helpu mamau ar ôl i un neu fwy o'u plant orfod cael eu symud o’u gofal yn barhaol, oherwydd pryderon yn ymwneud â diogelwch y plentyn.

Bob blwyddyn ers 2010, mae rhwng 11 ac 16 o fabanod wedi cael eu symud a'u rhoi ar gyfer eu mabwysiadu, a hynny ar ôl i faban blaenorol gael ei symud o ofal y fam honno yn y gorffennol. Mewn un teulu, roedd naw o fabanod wedi cael eu symud adeg eu geni. Mae Penaethiaid Gwasanaethau Plant yn gweld bod hwn yn batrwm cyffredin ar draws y wlad. 

Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn rhoi £8m ychwanegol i ddarparu rhagor o gymorth i blant sy'n derbyn gofal. Mae £850,000 y flwyddyn wedi ei neilltuo ar gyfer cyflwyno’r rhaglen Adlewyrchu  ar draws Cymru.

Mae Adlewyrchu yn darparu cymorth dwys un i un i famau sydd mewn sefyllfa o’r fath, yn y gobaith y gallant wella eu bywydau, gan leihau'r costau emosiynol, cymdeithasol ac ariannol sy'n gysylltiedig â symud plant i’r system ofal. Mae cymorth emosiynol yn cael ei gynnig, law yn llaw â chymorth ymarferol, gan gynnwys cyngor ar atal cenhedlu a help i gael gafael ar wasanaethau tai, addysg, a chyflogaeth.

Mae'r gwasanaethau hyn eisoes wedi helpu bron i 100 o fenywod ar draws y wlad.

Mae rhaglen Adlewyrchu yn haen o waith ataliol allweddol o fewn rhaglen waith Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau i blant sy'n derbyn gofal. 

Dywedodd y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies:

“Nod prosiect Adlewyrchu yw torri'r cylch sy'n golygu bod plant yn cael eu symud i'r system ofal, drwy roi cyfle i fenywod ddatblygu sgiliau ac ymatebion newydd sy'n gallu eu helpu i greu dyfodol gwell iddyn nhw eu hunain, eu plant ac aelodau eraill o’r teulu. 

“Os bydd camau gofal plant cael eu gweithredu dro ar ôl tro, mae hyn yn rhoi pwysau sylweddol ar famau, eu plant, a'u teuluoedd.  Dyna pam rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu ariannu rhaglen Adlewyrchu, gan sicrhau y bydd yn cael ei chyflwyno ar draws Cymru i helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd.”