Mae'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, wedi croesawu cynllun newydd i helpu pobl i oresgyn y rhwystrau sy'n eu hatal rhag gweithio.
Mae'r cynllun yn bosibl oherwydd y cyllid y mae wedi ei gael gan yr UE.
Y sefydliad trydydd sector, Cymunedau Ymlaen Môn, sy'n arwain y prosiect sydd â'r nod o leihau cyfraddau tangyflogaeth ac absenoldeb ar yr ynys. Drwy gael eu mentora un i un ac ystyried gwahanol arferion gweithio, bydd pobl yn gallu dod o hyd i atebion i broblemau, gan gynnwys problemau gofal plant a thrafnidiaeth.
Bydd Ehangu Gorwelion Môn hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr, yn benodol fusnesau bach a chanolig lleol, i addasu neu wella eu strategaethau ar gyfer y gweithle a'u harferion iechyd galwedigaethol.
Bydd y cynllun £1.2m hwn, sydd wedi cael £870,000 gan yr UE, yn cefnogi 450 o bobl a hyd at 250 o fusnesau lleol yn ystod y pedair blynedd nesaf.
Dywedodd Jeremy Miles, sydd â'r cyfrifoldeb dros oruchwylio rhaglenni a ariennir gan yr UE:
“Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i fuddsoddi'r cyllid hwn yn yr ardaloedd sydd â'r angen mwyaf, er mwyn cael gwared ar y rhwystrau sy'n atal pobl rhag gweithio, lleihau tlodi ymysg pobl sydd mewn gwaith, a helpu pobl i symud ymlaen tuag at ddyfodol mwy disglair a ffyniannus.
“Mae cyllid yr Undeb Ewropeaidd eisoes wedi golygu bod miloedd o bobl ledled Cymru wedi gallu gwella eu rhagolygon a'u gyrfaoedd, drwy ei fod yn eu galluogi i ddatrys problemau sy'n gysylltiedig â thlodi parhaus, gan sicrhau cyfle cyfartal i bawb. Dw i'n falch ein bod wedi cael cyfle i gefnogi'r fenter arloesol newydd hon ar Ynys Môn, a dw'n gobeithio y bydd y buddsoddiad hwn yn ffordd o adeiladu ar y llwyddiant a gafwyd eisoes.”
Dywedodd Rheolwr Prosiect Ehangu Gorwelion Môn, Rhys Roberts:
“Mae hwn yn brosiect cyffrous a fydd yn rhoi hwb mawr i Ynys Môn. Mae Cymunedau Ymlaen Môn wrth ei fodd o allu cynnig rhaglen gymorth arloesol a newydd i helpu'r bobl ddi-waith ar Ynys Môn sy'n awyddus i ddatblygu eu gyrfa. Rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda busnesau bach a chanolig ar yr ynys."
Yn ystod y degawd diwethaf, mae prosiectau sydd wedi eu hariannu gan yr UE wedi creu 45,000 o swyddi newydd ac 13,000 o fusnesau newydd ledled Cymru, a hefyd wedi helpu dros 85,000 o bobl i gael swyddi.