Neidio i'r prif gynnwy

Penderfyniad yn ofynnol

Gofynnir i'r Cabinet gytuno mewn egwyddor ar y camau nesaf yn ein taith tuag at ein gweledigaeth o ddarpariaeth Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar gyffredinol.

Crynodeb

1. Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi'r camau nesaf allweddol i wella mynediad i ddarpariaeth blynyddoedd cynnar a ariennir o ansawdd uchel yng Nghymru. Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarpariaeth blynyddoedd cynnar sy'n cwmpasu datblygiad ac addysg plant, gan gydnabod bod angen i ni sicrhau cynnig o'r safon uchaf bosibl fel eu bod yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.

2. Er mwyn cefnogi cynnydd tuag at Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar (ECEC) cyffredinol, byddwn yn cymryd nifer o gamau i gynyddu cyrhaeddiad ein rhaglenni ECEC presennol a ariennir gan y llywodraeth dros dymor y Senedd hon, gan ganolbwyntio ar gyflawni'r ymrwymiadau o fewn y Rhaglen Lywodraethu. Mae manylion y camau arfaethedig yn y papur hwn a'r atodiadau cysylltiedig.

3. Yn ystod y tair blynedd gyntaf, byddwn yn ehangu'r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar yn raddol, gan gynnwys pob plentyn dwyflwydd oed, gyda phwyslais arbennig ar sicrhau mynediad cyfartal i'n cymunedau mwy difreintiedig a'n nod cyffredin o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Amcan y papur

4. Ym mis Chwefror 2019 cytunodd y Cabinet (CAB 19-20-33) ar ein gweledigaeth o system ECEC integredig, a fyddai'n dwyn ynghyd ddarpariaeth addysg a gofal yn y blynyddoedd cynnar (0-7), gan ganolbwyntio i ddechrau ar ddarpariaeth cyn-ysgol (0-5). Mae ein gweledigaeth gytûn yn nodi y bydd system ECEC i Gymru yn adlewyrchu ein huchelgais i gymdeithas fod yn fwy cyfartal, fel a ganlyn:

  • mae datblygiad plant wrth wraidd ein dull gweithredu, a'n hegwyddorion ECEC
  • effaith tlodi ar gyfleoedd bywyd plant ddylai fod ein prif egwyddor wrth ystyried blaenoriaethau, ac yn arbennig torri'r cylch tlodi
  • dylem adeiladu system gofal plant i Gymru sy'n seiliedig ar gyffredinoliaeth gynyddol, gan ehangu'n raddol y ddarpariaeth â chymhorthdal ar draws yr ystod oedran 0-5.

5. Erys yr uchelgais polisi hwn. Mae system ECEC gyffredinol yn dangos y pwyslais y mae Cymru yn ei roi ar gymorth yn y blynyddoedd cynnar a'n hymrwymiad i fynediad teg. Bydd datblygu system o'r fath yn gofyn am ffocws penodol ar ehangu gofal plant yn y Gymraeg, sy'n hanfodol er mwyn gwneud cynnydd tuag at darged 2050. Bydd hefyd yn ein galluogi i sicrhau bod darpariaeth addas ar gyfer plant anabl ac ar gyfer plant o grwpiau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig – roedd mynediad at ddarpariaeth gofal plant sy'n briodol yn ddiwylliannol yn thema yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad diweddar ar y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol.

6. Mae'r weledigaeth gyffredinol ar gyfer ECEC, y cytunodd y Cabinet arni'n flaenorol, yn uchelgeisiol a bydd angen mwy o leoliadau, gweithlu llawer mwy, mwy o ffocws ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau addysg a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth, am ddim ar y pwynt defnydd i deuluoedd. Gan nodi y bydd angen graddio'r ddarpariaeth dros y tair blynedd nesaf yn unol â setliad y gyllideb. Mae ein Rhaglen Lywodraethu wedi'i diweddaru yn cynnwys tri ymrwymiad sy'n ymwneud â'n gweledigaeth ar gyfer ECEC, a dechrau ein taith, fel a ganlyn:

  • Parhau i gefnogi ein rhaglenni Dechrau'n Deg blaenllaw
  • Ariannu gofal plant i fwy o deuluoedd lle mae rhieni mewn addysg a hyfforddiant neu ar gyrion gwaith
  • Mynd ati’n raddol i ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar er mwyn cynnwys pob plentyn dwyflwydd oed, gan roi pwyslais penodol ar gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg.

7. Mae'r trydydd o'r rhain yn adlewyrchu'r Cytundeb Cydweithredu yn benodol, ac er mwyn cyflawni yn eu herbyn byddwn yn:

  • ehangu'r Cynnig Gofal Plant i rieni mewn addysg a hyfforddiant, fel cam cyntaf tuag at ehangu'r Cynnig i garfan ehangach o deuluoedd
  • darparu gofal plant a ariennir i bob plentyn dwyflwydd oed drwy Dechrau'n Deg gan ganolbwyntio ar amddifadedd ac ehangu'r ddarpariaeth Gymraeg
  • darparu pob un o bedair elfen Dechrau'n Deg fel rhan o'r gwaith o ehangu gofal plant a ariennir yn 2022/23 a bydd y profiad yn llywio penderfyniadau uniongyrchol ar sut i fynd ati i ddarparu gofal plant a ariennir i bob plentyn dwyflwydd oed yn ystod y ddwy flynedd ganlynol. Bydd hefyd yn llywio'r gwaith o ddatblygu cynllun tuag at ddarpariaeth gyffredinol Dechrau'n Deg, dros gyfnod hwy fwy na thebyg, a goblygiadau hynny i'r rhaglen a darpariaeth ehangach y blynyddoedd cynnar
  • datblygu cynllun gweithredu wedi'i gostio i gyflawni ein gweledigaeth ECEC ymhellach dros y deng mlynedd nesaf, gan gydnabod y bydd angen ystyried hyn yng nghyd-destun blaenoriaethau ehangach fel rhan o gylchoedd cyllideb dilynol, gan ystyried hefyd yr angen i gynyddu capasiti o fewn sector a gweithlu ECEC, gan ganolbwyntio'n benodol ar ehangu capasiti cyfrwng Cymraeg.

8. Ceir rhagor o wybodaeth am fanylion pob un o'r camau a gynigir o dan ein Rhaglen Lywodraethu wedi'i diweddaru, gan gynnwys o fewn y tair blynedd nesaf, yn Atodiad B. Ceir gwybodaeth ychwanegol am weledigaeth ehangach ECEC, y camau sy'n ofynnol dros y deng mlynedd nesaf a'r egwyddorion sylfaenol yn Atodiad C.

9. Gofynnir i'r Cabinet nodi'r cynlluniau hyn, yr angen i sicrhau dull gweithredu trawslywodraethol a'r bwriad i adrodd yn ôl i'r Cabinet o fewn 12 mis ar gynnydd o ran cyflawni'r ymrwymiad hwn.

10. Yn y tymor hwy, er mwyn cyflawni ein gweledigaeth ar gyfer ECEC yn llawn, bydd angen i ni ystyried opsiynau pellach i ehangu gwasanaethau a allai gynnwys yr opsiynau canlynol a amlinellir yn fanylach yn Atodiad D:

  • ehangu'r Cynnig Gofal Plant ymhellach
  • safoni darpariaeth addysg gynnar naill ai am 12.5 awr neu 15 awr yr wythnos
  • darparu cymorth gyda chostau gofal plant ar gyfer plant o dan 2 oed.

11. Gofynnir i'r Cabinet nodi'r bwriad i barhau i gwmpasu'r gweithgareddau hyn fel rhan o'r gwaith o ddatblygu cynllun deng mlynedd ar gyfer ein gweledigaeth ECEC ehangach. Gan nodi y bydd angen ystyried camau gweithredu yn y cynllun yng nghyd-destun cylchoedd cyllideb y dyfodol a'r setliad tair blynedd presennol.

Ffocws ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg

12. Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn ein hymrwymo i gryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg fel rhan o'n gwaith i ehangu'r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar i blant dwyflwydd oed. Mae hyn yn cyd-fynd â'n hymrwymiadau yn Cymraeg 2050 mewn perthynas â chynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn gyffredinol, a chamau gweithredu mewn perthynas ag ECEC a'r blynyddoedd cynnar yn benodol. Os ydym am sicrhau'r manteision mwyaf posibl o'n buddsoddiad mewn perthynas â'r ddwy set o ymrwymiadau, mae angen i ni gysoni'r camau a gymerwyd, a cheisio cynyddu nifer y lleoedd gofal plant cyfrwng Cymraeg yn gyffredinol. Dylid defnyddio hwn fel sbardun i helpu mwy o blant i fynd ymlaen a chael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg.

13. Mae cynyddu capasiti o ran lleoedd a staff yn fater sy'n wynebu'r sector gofal plant ehangach, sy'n gofyn am fuddsoddiad gan y llywodraeth mewn lleoliadau newydd, hyfforddiant, ac o ran recriwtio a chadw staff. Fodd bynnag, mewn perthynas â darpariaeth cyfrwng Cymraeg, ceir gofynion ychwanegol o ran sicrhau cydbwysedd rhwng cymwysterau gofal plant gofynnol a sgiliau iaith priodol, ynghyd â chynnal buddsoddiad mewn cymunedau Cymraeg presennol a sbarduno'r galw'n rhagweithiol mewn ardaloedd lle nad oes llawer o gymunedau Cymraeg eu hiaith, os o gwbl. Bydd angen gwneud hyn yng nghyd-destun ein gwaith ar Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg a gwaith ehangach ar gynllunio ieithyddol.

14. Ar hyn o bryd mae tua 3,300 o leoliadau gofal plant a chwarae wedi'u cofrestru gydag AGC, sy'n darparu dros 76,000 o leoedd i blant 0-12 oed. O'r rhain, mae 14 y cant o leoliadau yn nodi mai Cymraeg yw eu prif iaith weithredu, gan gynnig tua 15 y cant o'r holl leoedd. Mae data o gasgliad data Hunanasesu Gwasanaeth AGC (SASS) o 2021 yn awgrymu bod tua 15 y cant o'r staff sy'n gweithio yn y sector gofal plant yn siarad Cymraeg. Bydd angen i'r gyfran hon o'r sector gynyddu, ond nid yw mor syml â phennu un targed cenedlaethol, neu'r canlyniad a ddymunir. Gwyddom fod y ddarpariaeth eisoes wedi'i hystumio'n sylweddol tuag at gymunedau Cymraeg presennol, a'r hyn y mae angen i ni ei wneud yw cynyddu capasiti mewn rhannau eraill o Gymru os ydym am weld yr iaith yn ffynnu.

15. Gan weithio gyda Mudiad Meithrin, y corff arweiniol ar gyfer darpariaeth ECEC cyfrwng Cymraeg, bydd angen i ni wneud y canlynol:

  • Parhau â'r gwaith o agor cylch meithrin newydd o dan ein rhaglen Sefydlu a Symud. Rydym wedi ymrwymo i agor 60 o gylchoedd newydd yn ystod tymor y Senedd hon, ond byddwn yn archwilio'r cyfle i fynd ymhellach, ac i gysoni hyn ag ehangu gofal plant Dechrau'n Deg yn benodol
  • Denu mwy o siaradwyr Cymraeg i'r sector gofal plant. Gan weithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru bydd angen i ni ddatblygu elfen benodol i'r Ymgyrch Gofalwn sydd wedi'i hanelu at siaradwyr Cymraeg, gan dynnu sylw at gyfleoedd a manteision gweithio mewn gofal plant cyfrwng Cymraeg
  • Ehangu ein rhaglenni hyfforddi presennol i gynnig cyfres ehangach o opsiynau. Yn ogystal â chymwysterau gofal plant craidd, bydd angen i ni ystyried cefnogi staff sy'n symud o sectorau eraill, gan gynnwys addysg a gofal cymdeithasol, a ffyrdd o gynyddu'r ddarpariaeth dysgu seiliedig ar waith a chefnogi hyfforddeion i ennill y nifer o oriau o brofiad gwaith sydd eu hangen i ddod yn ymarferwyr;
  • Buddsoddi mewn cyrsiau uwchsgilio. Bydd hyn yn angenrheidiol i gefnogi darparwyr presennol i ennill y cymwysterau uwch sydd eu hangen i ddarparu gofal plant Dechrau'n Deg, ond bydd angen rhaglenni cymorth penodol arnom hefyd i helpu ymarferwyr gofal plant i ddysgu Cymraeg a gwella sgiliau Cymraeg presennol.

16. Yn dilyn trafodaethau gydag aelod dynodedig Plaid Cymru rydym yn gweithio gyda Mudiad Meithrin i gwmpasu model Academi, a fyddai'n gweld y Mudiad yn arwain y gwaith o gydlynu a sbarduno llawer o'r cyfleoedd dysgu a datblygu yn y gofod hwn. Byddai hyn hefyd yn golygu bod lleoliadau rhanbarthol y Mudiad yn dod yn lleoliadau hyb, yn hyfforddi ymarferwyr gofal plant sy'n siarad Cymraeg ac yn cefnogi dysgwyr Cymraeg i wella eu sgiliau. Mae angen gwneud rhagor o waith i fodelu costau yn ystod tymor y Senedd hon a chaiff ei ariannu o'r dyraniadau presennol. Byddai'r ddarpariaeth hon yn hygyrch i blant iau a hŷn na'r rhai a gwmpesir gan yr ymrwymiad i ddarparu gofal plant a ariennir i bob plentyn dwyflwydd oed, a bydd yn hanfodol bod hyn yn cael ei wneud ar y cyd â datblygu cynllun cyflawni ar gyfer Dechrau'n Deg i sicrhau bod digon o leoliadau a staff ar gael yn yr ardaloedd lle caiff y ddarpariaeth ei hehangu.

17. Gofynnir i'r Cabinet nodi'r heriau sy'n gysylltiedig â chynyddu capasiti cyfrwng Cymraeg, o ran nifer y lleoedd a maint a sgiliau'r gweithlu a'r bwriad i weithio gyda Mudiad Meithrin fel y corff arbenigol mewn perthynas â darpariaeth ECEC cyfrwng Cymraeg i fynd i'r afael â'r materion hyn.

Cynyddu capasiti

18. Bydd symud tuag at gynnig ECEC cyffredinol yn arwain at gynnydd yn y galw am leoedd. Mae'r cyllidebau cyfalaf presennol ar gyfer Dechrau'n Deg a gofal plant yn rhan o'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Gan adeiladu ar ein hymrwymiad i ysgolion cymunedol rydym am weld mwy o fuddsoddiad mewn cyfleusterau aml-ddefnydd, sy'n cynnig lle i ddarpariaeth Dechrau'n Deg ac ECEC, gydag opsiynau i gynnal gweithgareddau ar ôl ysgol hefyd Dylai hyn gynnwys darpariaeth o leoedd chwarae cynhwysol, sydd ar gael y tu allan i oriau ysgol craidd.

19. Bydd cynyddu nifer y lleoedd hefyd yn gofyn am weithlu mwy. Mae'r sector gofal plant, sy'n rhan o'r economi sylfaenol, yn cyflogi tua 17,000 o bobl yn uniongyrchol ac yn cyfrannu £1.2bn i economi Cymru. Rydym yn gweld pryderon eang ynghylch recriwtio a chadw staff, gyda heriau penodol mewn perthynas â darpariaeth cyfrwng Cymraeg lle mae'n anodd mynd i'r afael â'r cydbwysedd gofal plant a sgiliau iaith ar sail gynaliadwy. Cyn bo hir, byddwn yn lansio hyfforddiant iaith Gymraeg ychwanegol fel rhan o'n rhaglen hyfforddi Cynnydd ar gyfer Llwyddiant gwerth £11m a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a ddylai fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn.

20. Gan adeiladu ar y gwaith sydd ar y gweill drwy'r cynllun datblygu 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu gofal plant, gwaith chwarae a'r blynyddoedd cynnar, rydym yn gwneud gwaith cwmpasu ar gyfer rhaglen i gymryd lle Cynnydd ar gyfer Llwyddiant. Mae swm blynyddol o £2m wedi'i ddyrannu i hyn yng nghylch cyfredol y gyllideb, gan ddechrau yn 2023/24, a bydd angen gwaith pellach i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd o raglenni buddsoddi presennol mewn addysg, hyfforddiant a dysgu seiliedig ar waith ar draws portffolios Addysg a'r Economi o fewn yr amlen hon.

21. Bydd angen i ni hefyd adeiladu ar y gwaith sy'n cael ei wneud ar y Ddeddf Staff Nyrsio wrth ystyried capasiti'r sector ymwelwyr iechyd; dulliau o wella gweithlu'r Therapyddion Lleferydd ac Iaith; y gwaith sydd ar y gweill i wella statws proffesiynol y gweithlu rhianta.

22. Gofynnir i'r Cabinet nodi'r heriau sy'n gysylltiedig â chynyddu capasiti, o ran nifer y lleoedd ECEC a maint a sgiliau'r gweithlu ECEC a gweithlu ehangach y blynyddoedd cynnar. Gofynnir i'r Cabinet gefnogi dull trawslywodraethol o fynd i'r afael â'r heriau hyn.

Effaith

23. Bwriad y papur Cabinet hwn yw ystyried ehangu gofal plant a ariennir yn ystod tymor y Senedd hon ac yn ei dro gefnogi ein gweledigaeth tymor hwy o ECEC i Gymru drwy raglenni sy'n bodoli eisoes gan gynnwys Dechrau'n Deg, y Cynnig Gofal Plant a'n darpariaeth addysg gynnar.

Cyfathrebu a chyhoeddi

24. Bydd ymgysylltu'n effeithiol â rhanddeiliaid yn hanfodol er mwyn sicrhau bod unrhyw ddarpariaeth estynedig yn cael ei chyflwyno'n llwyddiannus, gan gynnwys y gweithlu ECEC a gweithlu ehangach y blynyddoedd cynnar. Bydd angen datblygu a gweithredu Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu cynhwysfawr fel rhan o'r broses gyflwyno. Gellir cyhoeddi'r papur hwn chwe wythnos ar ôl y cyfarfod.

Argymhelliad

Gofynnir i'r Cabinet gytuno mewn egwyddor ar y camau nesaf yn ein taith tuag at ein gweledigaeth o ddarpariaeth Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar gyffredinol.

Julie Morgan AS
Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol
Chwefror 2022

Atodiad A: Materion statudol, cyfreithiol, cyllid a llywodraethu

Gofynion statudol

Mae asesiadau effaith ar gael mewn perthynas â'r Cynnig Gofal Plant, Dechrau'n Deg a'r ddarpariaeth addysg gynnar, ac mae'r olaf wedi'i gynnwys yn y rhai ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru a'r gyfradd ariannu gyson ar gyfer y ddwy elfen yn y Cynnig. Mae'r rhain yn ddogfennau byw a chânt eu diweddaru i ystyried y newidiadau posibl a ystyriwyd o ganlyniad i'r papur hwn.

Mae'r holl gynigion polisi mewn perthynas ag ehangu rhaglenni blynyddoedd cynnar yn cael eu datblygu ar y cyd ag amrywiaeth o randdeiliaid gan gynnwys awdurdodau lleol, darparwyr gofal plant, ysgolion, y Comisiynydd Plant, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a Chomisiynydd y Gymraeg.

Mae cydweithwyr cyfreithiol wedi gweld a nodi'r cyngor hwn a phapur y Cabinet. Nid oes unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol yn deillio'n benodol o'r papur, fodd bynnag, gall camau gweithredu wedi hynny fod yn destun cyngor cyfreithiol.

Mae'r trosglwyddiadau ar gyfer gweithgarwch Gweinidogion Cymru yn y maes hwn yn annadleuol. Y trosglwyddiadau ar gyfer cynllun grant Dechrau'n Deg a'r Cynnig Gofal Plant yw adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Darperir addysg gynnar o dan adran 118 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

Gofynion cyllid a goblygiadau llywodraethu

Mae'r papur hwn yn ceisio cytundeb mewn egwyddor i'r camau nesaf y dylid eu cymryd yn ein taith tuag at ECEC cyffredinol, a threfn y blaenoriaethau ar gyfer ehangu. Nid yw'n ceisio cytundeb o ran pryd y dylid cymryd y camau hynny, ac mae'n cydnabod y gallai fod angen eu graddio, neu eu cyflwyno'n raddol dros gyfnodau hwy na'r rhai sydd wedi'u modelu ar hyn o bryd yn amodol ar yr adnoddau sydd ar gael y tu hwnt i 2024-25. O ganlyniad, ni ofynnir i'r Cabinet gytuno ar gyllid ychwanegol ar hyn o bryd, gydag ymrwymiadau i'w talu o'r dyraniadau a nodir yn y gyllideb ddrafft hyd at 2024-25. Gan nodi y gallai rhai o'r opsiynau hyn gael goblygiadau ariannol sylweddol y bydd angen iddynt fod yn destun cylchoedd cyllideb yn y dyfodol ac a welir yng nghyd-destun blaenoriaethau ehangach wrth ystyried trefn flaenoriaeth y camau nesaf, bydd yn bwysig ystyried y goblygiadau ariannol posibl a'r angen i raddio uchelgeisiau yn unol â'r amlen ariannu sydd ar gael.

Mae'r wybodaeth yn y paragraffau canlynol yn edrych ar gostau o fewn cyfnod y setliad presennol rhwng 2022-23 a 2024-25, ond mae'n cydnabod y gallai'r ddarpariaeth ddechrau'n ddiweddarach.

Cynnig Gofal Plant Cymru

Mae cyllideb y Cynnig Gofal Plant yn rhan o'r MEG Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r gyllideb ddrafft ar gyfer y Cynnig dros y tair blynedd nesaf fel a ganlyn:

2022-2023 2023-2024 2024-2025
88.5m 92.5m 95m

Yn ogystal â'r gyllideb sylfaenol o 75m yn 2021-22 o ganlyniad i'r dyraniadau a dderbyniwyd fel rhan o gyllideb 2022-23, gwneir dyraniadau pellach o fewn setliadau MEG o:

  • 4.5m-10m i ehangu'r Cynnig i rieni mewn addysg a hyfforddiant o fis Medi 2022. Mae hyn yn seiliedig ar gyfrifiadau a wnaed yn 2019 ac a rennir fel rhan o CAB(19-20)33 Mae dyraniadau dangosol yn awgrymu y bydd angen cyllid ychwanegol o £3.5m yn 22/23, £7.5m yn 23/24 a £10m yn 24/25. Er bod cynlluniau eisoes wedi gorfod cael eu graddio i'r amlen sydd ar gael ym mlwyddyn 1 (gostyngiad o £1m), dylai fod modd ymdopi â hyn os bydd y broses gyflwyno yn dechrau ym mis Medi 2022, yn hytrach nag ym mis Ebrill 2022
  • 10m bob blwyddyn i gefnogi cynnydd yn y gyfradd fesul awr ar gyfer y gofal plant a ariennir o dan y Cynnig. Mae hyn yn cynnwys yr arian sydd ei angen i gynyddu'r cyfraddau ar gyfer addysg gynnar (1.5m y flwyddyn) a gofal plant Dechrau'n Deg (3.5m y flwyddyn)

Nid yw'r gyllideb flynyddol ar gyfer y Cynnig o fewn y MEG Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynnwys y costau cyfalaf cysylltiedig, sy'n rhan o'r MEG Addysg. Mae swm o £70m wedi'i ddyrannu i dalu am y rhaglenni cyfalaf ar gyfer gofal plant a Dechrau'n Deg o fewn y gyllideb ddrafft (£20m yn 22/23, £25m yn 23/24 a £25m yn 24/25). Mae'n debygol y bydd angen graddio cynlluniau yn sgil hyn gan gydnabod y cyd-destun cyfalaf heriol ar draws pob cyllideb.

Mae cyllid ar gyfer rhaglenni hyfforddi sydd wedi'u hanelu at y gweithlu gofal plant, gwaith chwarae a'r blynyddoedd cynnar y tu allan i gyllideb y Cynnig Gofal Plant ac ar hyn o bryd mae'n gysylltiedig â'r rhaglen Cynnydd ar gyfer Llwyddiant a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, a fydd yn cau yn 2023. Mae dyraniad Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn rhan o MEG yr Economi. Gan dybio y byddai olynydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei roi ar waith, gyda chontractau'n cael eu tendro yn ystod 2023/24 wrth i ni gau Cynnydd ar gyfer Llwyddiant, mae £2m o gyllid y flwyddyn ar gyfer y MEG Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cael ei sicrhau o 2023/24 ymlaen i gyflwyno rhaglen olynol.

Dechrau'n Deg

Cynnal y rhaglen gyfredol

Mae'r gyllideb ar gyfer Dechrau'n Deg yn 2022-23 yn rhan o'r Grant Plant a Chymunedau o fewn y MEG Tai a Llywodraeth Leol. Mae gan y Grant Plant a Chymunedau gyllideb gyffredinol o £135.4m yn 2021-22.

Mae cyllid Dechrau'n Deg wedi aros yr un fath ar £2,100 y plentyn ers dechrau cyflwyno'r rhaglen yn 2007. Mae hyn, yn anochel, wedi golygu bod y gwasanaethau a ddarperir i blant cymwys a'u teuluoedd wedi'u gwasgu. Yn ystod y cylch cyllideb hwn rydym wedi sicrhau cynnydd o £40m dros dair blynedd i'r Grant Plant a Chymunedau. Mae hyn yn cynnwys dyraniad i gynyddu'r swm fesul plentyn sydd ar gael drwy'r rhaglen Dechrau'n Deg.

Nid yw'r gyllideb o fewn y Grant Plant a Chymunedau yn cynnwys y costau cyfalaf sy'n gysylltiedig â Dechrau'n Deg, sy'n rhan o'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu o fewn y MEG Addysg. Darperir y dyraniad cyfalaf o £70m o fewn y gyllideb hon ar gyfer y Cynnig Gofal Plant a Dechrau'n Deg. O ystyried y setliad cyllidebol heriol ar gyfer y tair blynedd nesaf, mae lefel y cyllid yn annhebygol o gyd-fynd â lefel yr uchelgais sy'n golygu ei bod yn debygol y bydd angen graddio cynlluniau a bydd angen iddynt fod yn destun cylchoedd cyllideb yn y dyfodol.

Ehangu'r rhaglen Dechrau'n Deg (pob un o'r 4 cydran)

Gan dybio y byddai unrhyw ehangu'n digwydd o fis Medi 2022 fel rhan o'r cyfnod a gwmpesir gan gylch presennol y gyllideb, amcangyfrifir mai £25m yw'r arian ychwanegol sydd ei angen erbyn diwedd 2024/25, gan alluogi tua 10,000 yn fwy o blant 0–4 oed i gael mynediad at Dechrau'n Deg llawn, ac o'r rhain byddai disgwyl i tua 2,500 o blant 2-3 oed fanteisio ar ofal plant Dechrau'n Deg.

Yn ogystal, byddai angen talu costau gweinyddol o £2m y flwyddyn am dair blynedd. Mae'r holl ffigurau'n seiliedig ar ein hamcangyfrifon gorau a byddai angen eu hadolygu yn ystod trafodaethau gyda rhanddeiliaid a gwaith modelu pellach yn seiliedig ar y meini prawf terfynol y cytunwyd arnynt. Byddai cynlluniau cyflwyno terfynol yn cael eu datblygu ar ôl cytuno ar y meini prawf a'r gyllideb derfynol gan nodi bod y cynlluniau hyn wedi'u datblygu i'w cynnwys o fewn setliad presennol y gyllideb.

Ehangu Gofal Plant Dechrau'n Deg yn unig

Gan dybio y byddai unrhyw ehangu'n digwydd o fis Medi 2022/23 fel rhan o'r cyfnod a gwmpesir gan gylch presennol y gyllideb, amcangyfrifir bod angen £25m erbyn diwedd 2024/25 a fyddai'n galluogi tua 2,000 i gael mynediad at Dechrau'n Deg llawn yng ngham 1 a thua 8,000 yn fwy o blant 2-3 oed i gael mynediad at ofal plant yn unig yng ngham 2 gan nodi bod y cynlluniau hyn wedi'u datblygu i'w cynnwys o fewn setliad presennol y gyllideb.

Cefnogi plant iau

Ni cheisir unrhyw gyllid ychwanegol yng nghylch presennol y gyllideb mewn perthynas â'r gwaith i gwmpasu cymorth i blant o dan 2 oed nac i gwmpasu'r amserlenni a'r camau gweithredu sydd eu hangen i symud tuag at system gofal plant yn seiliedig ar egwyddorion cyffredinoliaeth gynyddol. Os bydd y Cabinet yn cytuno i swyddogion ymgymryd â'r gwaith cwmpasu hwn, bydd cyngor pellach yn cael ei gyflwyno'n ddiweddarach, gan nodi opsiynau wedi'u costio dros gyfres o amserlenni.

Bydd unrhyw gostau staff sy'n gysylltiedig â datblygu cynigion yn cael eu talu o gyllideb Costau Rhedeg Dirprwyedig Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus.

Atodiad B: Cyflawni ein Rhaglen Lywodraethu

Mae ein Rhaglen Lywodraethu wedi'i diweddaru yn gosod agenda uchelgeisiol ar gyfer newid yn ystod tymor y Senedd hon. Mae ein huchelgeisiau ar gyfer ein plant yr un mor fawr â'n huchelgeisiau ar gyfer y wlad ehangach. Wrth geisio adeiladu Cymru gryfach, wyrddach a thecach, a mynd i'r afael ag effeithiau'r pandemig ar ein holl gymunedau, ond yn enwedig y rhai mwyaf difreintiedig, rydym yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar i gefnogi pob plentyn i gael y dechrau gorau mewn bywyd.

Mae ein Rhaglen Lywodraethu, a'r Cytundeb Cydweithredu tair blynedd gyda Phlaid Cymru, yn cynnwys nifer o ymrwymiadau yn hyn o beth ac mae cynlluniau ar y gweill i gyflawni yn eu herbyn.

Ymrwymiad

Parhau i gefnogi ein rhaglen Dechrau'n Deg flaenllaw

Mae rhaglen Dechrau'n Deg yn cyrraedd tua 36,000 o blant o dan bedair oed sy'n byw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae'r cyllid fesul plentyn wedi aros yn sefydlog ers i'r rhaglen ddechrau yn 2007. Mae hyn, yn anochel, wedi golygu bod gwasanaethau wedi'u gwasgu. Er bod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar ddarparu gwasanaethau, collwyd y targed hwn am y tro cyntaf 2020-21.

Er mwyn cyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i gefnogi'r Rhaglen Dechrau'n Deg bresennol, mae £11.95m ychwanegol o gyllid wedi'i ddyrannu dros y tair blynedd nesaf fel rhan o'r cynnydd yn y Grant Plant a Chymunedau ac mae angen cytuno ar unrhyw gynnydd chwyddiant pellach ar gyfer blynyddoedd olaf tymor y Senedd.

Ymrwymiad

Ariannu gofal plant i fwy o deuluoedd lle mae rhieni mewn addysg a hyfforddiant neu ar gyrion gwaith

Mae cynyddu'r cymorth a roddir i rieni mewn addysg a hyfforddiant i dalu costau gofal plant yn adlewyrchu pa mor bwysig ydyw i gefnogi'r rheini sy'n ceisio gwella eu rhagolygon cyflogaeth drwy ennill cymwysterau, ailhyfforddi neu newid llwybr gyrfa. Daeth adolygiad annibynnol a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021 i'r casgliad, er bod lefel uchel o gymorth presennol gyda chostau gofal plant i rieni mewn addysg, y gallai nifer o grwpiau fod ar eu colled neu'n cael eu cefnogi'n annigonol.

Er i'r adolygiad argymell y dylid mynd i'r afael â'r bylchau drwy ehangu cynlluniau presennol yn y sectorau addysg bellach ac uwch, mae lle i ehangu'r Cynnig Gofal Plant fel cam cyntaf i ddiwallu anghenion y teuluoedd hyn yn well a chyflawni ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu. Bydd yr ehangu hwn, sydd wedi'i drafod a'i gytuno o dan delerau'r Cytundeb Cydweithredu, yn dechrau o fis Medi 2022 ar gyfer rhieni mewn addysg bellach ac uwch, gyda charfannau ychwanegol o ddysgwyr yn cael eu hychwanegu dros amser.

Mae angen cyflwyno'r cynnig yn raddol i'r gwahanol garfanau o rieni mewn addysg a hyfforddiant er mwyn sicrhau bod capasiti ar gael o fewn y sector i ddarparu'r gofal, a chysoni â'r rhaglenni cymorth ehangach sydd ar gael i rieni.

Ochr yn ochr â'r ehangu hwn, byddem yn parhau â'r gwaith sydd eisoes ar y gweill i gwmpasu'r cymorth sydd ar gael neu sydd wedi'i gynllunio drwy ein rhaglenni cymorth AU/AB a'n rhaglenni cyflogadwyedd, megis Cymunedau am Waith, Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth a ReAct gan raddio gweithgareddau yn unol â dyraniadau'r gyllideb. Ein barn ar hyn o bryd yw y gallai'r rhaglenni hyn, ynghyd â sicrhau'r cymorth sydd ar gael gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, fod yn fwy priodol o ran cefnogi'r rhai sydd ar gyrion cyflogaeth na'r Cynnig Gofal Plant, er y bydd hyn yn parhau i gael ei adolygu. Cynhelir ymgyrch gyfathrebu i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael.

Ymrwymiad

Mynd ati’n raddol i ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar er mwyn cynnwys pob plentyn dwyflwydd oed, gan roi pwyslais penodol ar gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg.

Yn dilyn trafodaethau gyda'r Aelod Arweiniol Dynodedig, cytunwyd y byddwn yn cyflawni'r ymrwymiad hwn drwy ehangu ein rhaglen Dechrau'n Deg, gan symud tuag at ddarpariaeth gyffredinol o bob un o'r pedair elfen gymorth. Gwneir hyn fesul cam fel a ganlyn:

Cam 1

Yn y cam hwn, wedi'i lywio gan waith ymgysylltu â rhanddeiliaid, byddwn yn diffinio'r meini prawf a'r cynlluniau i ehangu'r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar yn raddol, i gynnwys pob plentyn dwyflwydd oed, gyda phwyslais arbennig ar sicrhau mynediad cyfartal i'n cymunedau mwyaf difreintiedig a'n nod cyffredin o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.Yn y cam cyntaf, gwneir hyn drwy ehangu Dechrau'n Deg, gan gynnwys ehangu'r elfen gofal plant i blant dwyflwydd oed, a fydd yn dechrau o fis Medi 2022. Bydd y meini prawf cyffredinol ar gyfer ehangu yn canolbwyntio ar amddifadedd, cynyddu'r ddarpariaeth sydd ar gael yn ôl yr angen ac ehangu'r ddarpariaeth Gymraeg – bydd yr union fanylion ar gyfer cam 1 yn cael eu datblygu dros yr wythnosau nesaf.

Cam 2

Yn y cam hwn byddwn yn canolbwyntio ar ehangu gofal plant a ariennir drwy Dechrau'n Deg. Bydd angen gwneud penderfyniadau ar gydbwysedd ehangu'r elfen gofal plant yn unig o Dechrau'n Deg neu bedair elfen Dechrau'n Deg cyn y pwynt hwn. Caiff cynlluniau manylach eu datblygu dros y misoedd nesaf.

Cam 3

Yn y cam hwn byddwn yn parhau i gyflwyno Dechrau'n Deg yn raddol hyd nes y bydd gofal plant a ariennir ar gael i bob plentyn dwyflwydd oed. Ein bwriad clir ac uchelgeisiol ar y cyd fydd bod hyn yn cael ei gyflawni o fewn cyfnod y Cytundeb Cydweithredu. Gall y ffordd y mae'r rhaglen yn edrych ac yn teimlo mewn ardaloedd llai difreintiedig fod yn wahanol iawn i ardaloedd mwy difreintiedig.

Mae ein gwaith modelu rhagarweiniol yn dangos y byddai dechrau'r daith hon gyda buddsoddiad ychwanegol o £5m yng ngham 1 yn golygu y byddai tua 2,000 o blant 0-4 oed yn gallu cael mynediad at Dechrau'n Deg llawn, ac o'r rhain byddai disgwyl i tua 500 o blant rhwng 2 a 3 oed fanteisio ar ofal plant Dechrau'n Deg. Yn ystod cam 2 byddai buddsoddiad pellach o tua £20m yn golygu y byddai tua 8,000 yn fwy o blant 0-4 oed yn gallu cael mynediad at Dechrau'n Deg llawn, ac o'r rhain byddai tua 2,000 o blant 2-3 oed yn manteisio ar ofal plant Dechrau'n Deg neu tua 4,500 o blant 2-3 oed yn cael mynediad at ofal plant Dechrau'n Deg yn unig. Gallai cynnydd graddol pellach mewn cyllid y tu hwnt i'r dyddiad hwn adeiladu tuag at ddarpariaeth gyffredinol. Yn ogystal, byddai angen oddeutu £2m y flwyddyn i dalu am gostau gweinyddu.

Dylid nodi bod materion capasiti, o ran amgylcheddau ffisegol yn ogystal â'r gweithlu sydd ar gael i ddarparu'r rhaglen, yn golygu y caiff gwasanaethau eu hehangu'n raddol yn ystod y flwyddyn gyntaf, ac o bosibl yn ystod blynyddoedd dilynol. Bydd angen cyfnod trosiannol i alluogi partneriaid cyflawni i gyrraedd y safonau a ragnodir gan ganllawiau rhaglen Dechrau'n Deg. Bydd hyn yn cael ei drafod gyda rhanddeiliaid fel rhan o'r broses ymgysylltu.

Ochr yn ochr â hyn byddwn yn gwneud gwaith manylach, ar draws y Llywodraeth i benderfynu sut y gellid sicrhau darpariaeth gyffredinol o bob un o bedair elfen Dechrau'n Deg, gan gynnwys sefydlu costau cadarn, i lywio'r broses o wneud penderfyniadau yn y dyfodol.

Atodiad C: Gweledigaeth ECEC

Yng Nghymru rydym yn diffinio'r blynyddoedd cynnar fel y cyfnod o 0-7, sy'n cwmpasu'r blynyddoedd cyn-ysgol pwysig a'r blynyddoedd cychwynnol yn yr ysgol. Mae'r profiadau a gaiff plant yn ystod y cyfnod hwn yn gosod y sylfeini ar gyfer bywyd – gan lywio'r canlyniadau tebygol ar gyfer pob plentyn yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hwy. Os cânt eu colli, ni fydd llawer o blant byth yn gallu ennill y galluoedd hynny'n llawn, gan effeithio ar eu cyfleoedd bywyd tymor hwy.

Mae anfantais ddatblygiadol yn amlwg cyn eu bod yn dair oed ac erbyn iddynt ddechrau yn yr ysgol mae plant o'r teuluoedd incwm isaf 16 mis ar gyfartaledd y tu ôl i'r rhai o deuluoedd incwm uwch. Mae'r bwlch cyrhaeddiad hwn yn cynyddu dros amser, gyda'r effeithiau cymdeithasol, emosiynol ac economaidd yn para oes. Mae angen buddsoddi mewn ystod eang o gymorth ar draws y blynyddoedd cynnar er mwyn mynd i'r afael â'r bylchau hyn a chefnogi'r broses o drosglwyddo i addysg ffurfiol. Mae darpariaeth Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar (ECEC) yn elfen bwysig o'r cymorth hwnnw.

Ar ei ffurf symlaf, byddai system ECEC yn ein gweld yn cynnig addysg a gofal cynnar wedi'u hariannu i bob plentyn yn ystod ei flynyddoedd cynnar. Er mwyn darparu hawl gyffredinol i bob plentyn rhwng naw mis a phum mlwydd oed, byddai angen i ni weithredu'n raddol, dros o leiaf ddeng mlynedd, gan sicrhau ein bod yn:

  • Datblygu ac adeiladu'r sector i sicrhau bod digon o leoedd ECEC, gan gynnwys darpariaeth Gymraeg
  • Buddsoddi yn y gweithlu ECEC i sicrhau bod nifer y staff yn ddigonol a bod staff yn ymarferwyr hyderus a gwybodus, gan gynnwys datblygu cymhwysedd diwylliannol a sefydlu arferion gwrth-hiliol
  • Cynyddu nifer yr ymarferwyr ECEC sy'n hyderus yn gweithio gan ddefnyddio'r Gymraeg
  • Gwella ansawdd y ddarpariaeth drwy sicrhau bod yr addysgeg sy'n sail i'r Cyfnod Sylfaen yn cael ei lledaenu drwy gydol darpariaeth y blynyddoedd cynnar
  • Sicrhau bod y twf a'r buddsoddiad yn y sector yn ysgogi arferion Gwaith Teg.

Egwyddorion ECEC: yr hyn a fydd gennym mewn 10 mlynedd

Mae gweledigaeth ECEC yn cynnwys nifer o egwyddorion. Mae'r rhain wedi'u grwpio isod yn themâu. Mae pob nod wedyn wedi'i drosi o weledigaeth i realiti, gan amlinellu'r pwynt terfyn posibl mewn 10 mlynedd, os gwireddir y weledigaeth ar ei ffurf lawnaf.

Nodau sy'n gysylltiedig ag ansawdd

  • Dylai pob plentyn gael profiad dysgu a gofal ysgogol o ansawdd uchel ym mhob lleoliad addysg a gofal y mae'n ei fynychu, yn seiliedig ar dystiolaeth ryngwladol o ansawdd ECEC;Rhaid inni gadw a chryfhau'r hyn y gwyddom sy'n gweithio'n dda, yn enwedig addysgeg uchel ei pharch y Cyfnod Sylfaen, ac archwilio sut yr ydym yn adeiladu ar y cryfderau hyn sy'n bodoli eisoes
  • Dylid cael continwwm dysgu a darpariaeth o 0–16, gydag ECEC yn cydblethu â'r cwricwlwm newydd a mwy o ffocws ar bontio er mwyn sicrhau parhad a chynnydd drwy daith y dysgwr.

Nodau o ran Mynediad a Chymorth i Rieni

  • Dylid darparu cymorth mewn ffordd hyblyg sy'n ymateb i amgylchiadau unigol gan ganolbwyntio ar leoliadau sydd yn y sefyllfa orau i sicrhau canlyniadau ECEC o ansawdd i blant, gan symud oddi wrth ffiniau artiffisial i system niwtral o ran darparwyr – dylai pob darparwr ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector allu darparu pob agwedd ar ECEC
  • Bydd sicrhau bod ECEC yn cael ei ddarparu mewn ffordd fwy hyblyg yn rhoi mwy o gymorth a dewis i rieni er mwyn eu cefnogi i ddilyn llwybrau i gyflogaeth gynaliadwy ac allan o dlodi
  • Dylai fod yn haws i rieni a theuluoedd ddeall yr ystod gymhleth ac eang o gymorth sydd ar gael iddynt (sy'n benodol i'r DU a Chymru) fel bod ganddynt ddewis ac fel y gallant fanteisio ar yr hyn sydd ar gael iddynt.

Y gweithlu/darparwyr

  • Dylai pob gweithiwr proffesiynol sy'n gweithio o fewn ECEC gael ei werthfawrogi'n gyfartal gyda phecyn dysgu a chymorth i adlewyrchu hyn
  • Dylem archwilio un model ariannu ar gyfer pob darparwr ECEC sy'n adlewyrchu eu bod i gyd yn cael eu gwerthfawrogi'n gyfartal.

Atodiad D: Cyfleoedd pellach i ehangu ECEC yn y tymor hwy

Rydym yn canolbwyntio'n uniongyrchol ar gyflawni ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu fel yr amlinellir uchod ond rydym hefyd yn datblygu ein syniadau ar gyfer cyflawni gweledigaeth ECEC yn y tymor hwy. Amlinellir y camau nesaf posibl yn yr adrannau canlynol. Ar hyn o bryd, meysydd i'w harchwilio ymhellach yw'r rhain, nid ymrwymiadau, a bydd angen iddynt fod yn destun cylchoedd cyllideb pellach.

Sefydlwyd Cynnig Gofal Plant Cymru i gefnogi rhieni sy'n gweithio, gyda meini prawf cymhwysedd cysylltiedig. Ar y pen isaf, mae angen i rieni ennill swm sy'n cyfateb i 16 awr yr wythnos ar yr isafswm cyflog perthnasol. Ar y pen uchaf, ni all rieni ennill mwy na £100,000 y flwyddyn fesul rhiant. Rydym wedi ystyried nifer o opsiynau i addasu paramedrau'r Cynnig dros amser gan nodi nad yw'r opsiynau hyn wedi ystyried y pwysau chwyddiant a ragwelir ar hyn o bryd ac y bydd angen eu hailystyried sy'n debygol o arwain at gostau uwch yn dibynnu ar pryd y byddai'r costau hyn yn codi:

  • Gallai lleihau'r cap enillion is i'r hyn sy'n cyfateb i 12 awr yr wythnos gwmpasu tua 1,000 o deuluoedd ychwanegol am gost ychwanegol o tua £1m y flwyddyn. Byddai dileu'r cap enillion is yn golygu y byddai tua 32,000 o deuluoedd/plant ychwanegol yn gymwys am gost ychwanegol o tua £27m y flwyddyn
  • Gellid dadlau bod symud o gap uchaf fesul rhiant o £100,000 i gap aelwyd o £120,000, yn hytrach na chap fesul rhiant, yn decach i aelwydydd un rhiant a byddai'n creu arbedion o tua £1m y flwyddyn
  • Gallai cyfyngu'r Cynnig i raglen yn ystod y tymor drwy ddileu naw wythnos y ddarpariaeth gwyliau a chysoni â darpariaeth Dechrau'n Deg ac addysg gynnar arwain at arbedion o tua £14m y flwyddyn Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd angen talu llawer o leoliadau am y gwyliau o hyd a rhieni fyddai'n ysgwyddo'r gost hon, p'un a oeddent yn defnyddio'r ddarpariaeth ai peidio. Gallai'r gost ychwanegol hon atal rhieni, yn enwedig y rhai ar incwm is, rhag manteisio ar y cynnig. Byddai unrhyw ostyngiad yn denu beirniadaeth a byddai angen cyfnod cyflwyno hir er mwyn galluogi rhieni i gynllunio. Gallem ystyried hyn ochr yn ochr â'r gwaith ar ddiwygio'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol.

Mae ein rhaglen addysg gynnar bresennol, a gyflwynir drwy Feithrinfa'r Cyfnod Sylfaen, yn darparu o leiaf 10 awr yr wythnos o ddarpariaeth a ariennir yn ystod y tymor i bob plentyn 3-4 oed. Mae rhai awdurdodau lleol yn darparu oriau ychwanegol o addysg gynnar a ariennir, ond nid pob un. Os byddwn yn darparu 12.5 awr o ofal plant Dechrau'n Deg wedi'i ariannu i bob plentyn 2-3 oed, byddai'n anghyfiawn i'r cynnig addysg gynnar cyffredinol aros ar lefel is o 10 awr yr wythnos ar gyfer plant 3-4 oed.

Byddai cynyddu'r ddarpariaeth addysg gynnar o 10 awr yr wythnos i 12.5 awr, i gyfateb i ddarpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg, yn costio tua £21m y flwyddyn. Byddai mynd ymhellach a chynyddu'r ddarpariaeth i 15 awr yr wythnos yn cynyddu'r gost honno i tua £44m.

Nid oes lle i hyn o fewn y cyllidebau addysg presennol ac er y byddai hyn yn creu rhai arbedion mewn perthynas ag elfen gofal plant y Cynnig Gofal Plant, ni fyddai'n niwtral o ran cost. Byddai gwaith modelu pellach yn digwydd, gan ystyried lefelau'r ddarpariaeth a'r effeithiau ar bolisïau awdurdodau lleol. Felly, byddai angen i unrhyw arian ychwanegol fod yn ddarostyngedig i'r cylch cyllideb perthnasol a'i ystyried yng nghyd-destun blaenoriaethau ehangach.

Yn olaf, mae'n bwysig nodi nad oes cymorth ar hyn o bryd gyda darpariaeth gofal plant i blant o dan ddwyflwydd oed. Er mwyn gwireddu ein gweledigaeth ECEC yn llawn, mae angen i ni ystyried sut y gellid ymestyn y ddarpariaeth a ariennir i'r grŵp oedran iau hwn, yn enwedig y rhai rhwng 9 mis a dwyflwydd oed, a'r camau y gellid eu cymryd tuag at hyn yn ystod tymor y Senedd hon. Nid oes unrhyw waith costio penodol wedi'i wneud mewn perthynas â hyn hyd yma.

Bydd yr opsiynau hyn yn cael eu cwmpasu ymhellach wrth ddatblygu ein cynllun gweithredu ECEC deng mlynedd. Byddai penderfyniadau ar gyflawni'r cynllun gweithredu yn dibynnu ar drafodaethau ehangach ynghylch dyraniadau cyllideb yn y dyfodol, ac yn ystyried unrhyw gostau cyfle sy'n gysylltiedig â rhaglen fuddsoddi.

Mae cynnwys partneriaid yn hanfodol i gyd-gynhyrchu cynllun gweithredu, ac mae tryloywder mewn trafodaethau gyda hwy am uchelgeisiau a dibyniaethau gan gynnwys cyfyngiadau cyllidebol yn rhan greiddiol o'r dull gweithredu hwnnw.

Atodiad E: Crynodeb o'r rhaglenni presennol

Mae tair rhaglen graidd ar gyfer y blynyddoedd cynnar eisoes ar waith yng Nghymru:

  • Dechrau'n Deg
  • y Cyfnod Sylfaen
  • y Cynnig Gofal Plant.

Datblygwyd y rhaglenni hyn ar wahanol adegau, gyda gwahanol ysgogwyr polisi. Er mwyn ehangu'r ddarpariaeth gofal plant, byddai angen ailedrych ar y rhaglenni hyn a gwneud addasiadau a/neu newidiadau a allai fod yn sylweddol. Byddai angen deall yr effaith y byddai'r newid hwn yn ei chael ar gynnydd tuag at weledigaeth ECEC hefyd.

Dechrau'n Deg

Dechrau'n Deg yw prif raglen blynyddoedd cynnar Llywodraeth Cymru. Yn hanesyddol, roedd rhaglen Dechrau'n Deg yn cynnig cymorth wedi'i dargedu'n ddaearyddol. Mae'n cefnogi plant a theuluoedd mewn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Nod y rhaglen, a ddechreuodd yn 2006, yw gwneud gwahaniaeth pendant i gyfleoedd bywyd plant o dan 4 oed yn yr ardaloedd lle mae ar waith. Mae'n cynnwys pedair elfen graidd sy'n gysylltiedig â'i gilydd ac sydd ar gael i bob rhiant a phob plentyn o dan 4 oed sy'n byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg, sef:

  • Gofal plant rhan-amser o ansawdd uchel a ariennir gan y llywodraeth i bob plentyn 2-3 oed
  • Gwasanaeth ymweliadau iechyd ychwanegol
  • Rhaglenni rhianta a chymorth rhianta
  • Cymorth ar gyfer datblygu lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Mae'r elfennau hyn yn cyfuno i ddarparu cymorth cyfannol, amlasiantaethol i blant a theuluoedd Dechrau'n Deg yn ogystal â'r rhai sy'n byw y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg sy'n derbyn gwasanaethau allgymorth. Mae gofal plant, ymweliadau iechyd, cymorth rhianta a chymorth ar gyfer iaith, lleferydd a chyfathrebu yn hanfodol er mwyn sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd ac, o'u cyflwyno drwy'r model Dechrau'n Deg presennol, maent yn cynrychioli strwythur cymorth amlasiantaethol sy'n gryfach ar y cyd na'r elfennau unigol.

Mewn ardaloedd Dechrau'n Deg, cynigir gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i bob plentyn 2-3 oed cymwys am 2.5 awr y diwrnod, 5 diwrnod yr wythnos am 39 wythnos y flwyddyn, ond mae gan Awdurdodau Lleol rywfaint o hyblygrwydd. Yn ogystal, yn ystod gwyliau'r ysgol mae tua 15 sesiwn o ddarpariaeth gofal plant ar gael. Mae canolbwyntio ar ddarpariaeth o ansawdd uchel yn sail i bob agwedd ar ofal plant Dechrau'n Deg, sydd â'r nod o fod o'r safon uchaf, ac sy'n ymdrechu i fod yn feincnod ar gyfer gofal plant o safon ledled Cymru. Mae'n bwysig nodi bod hyn yn golygu ei bod yn ofynnol i'r staff sy'n darparu gofal plant Dechrau'n Deg feddu ar lefel uwch o gymwysterau.

Ar gyfartaledd, manteisiwyd ar 86% o leoedd gofal plant Dechrau'n Deg yng Nghymru yn 2019/20 (dyma'r flwyddyn ddiweddaraf y mae gennym ddata ar ei chyfer). Roedd y ganran hon yn amrywio'n sylweddol yn ôl awdurdod lleol gydag ystod o rhwng 60% a 100%. Gall awdurdodau lleol gynnig rhywfaint o hyblygrwydd o ran sut y darperir yr elfen gofal plant, fodd bynnag, nid yw mor hyblyg â'r Cynnig Gofal Plant i blant 3 oed. 

Mae gan Dechrau'n Deg darged o sicrhau bod 36,000 o blant o dan 4 oed yn defnyddio o leiaf un elfen o Dechrau'n Deg. Nid yw hyn yn golygu bod 36,000 o blant yn derbyn gofal plant Dechrau'n Deg ar unrhyw un adeg gan mai dim ond i blant 2-3 oed y mae'r elfen honno ar gael. Rhagorwyd ar y targed dros y 6 blynedd diwethaf.

Cyfnod Sylfaen

Mae cynnig cyffredinol o addysg gynnar wedi bod ar waith ers 1999. Yn seiliedig ar ddulliau Sgandinafaidd, cyflwynwyd y Cyfnod Sylfaen ar sail chwarae ar gyfer plant 3-7 oed yn dilyn cyfnod treialu yn 2010 ac ymrwymodd i gwricwlwm priodol ar gyfer plant ifanc gan ganolbwyntio'n gryf ar ddatblygiad cyffredinol pob plentyn. Mae'r Cyfnod Sylfaen yn annog plant i fod yn greadigol ac yn ddychmygus, gan wneud dysgu yn fwy hwyliog ac effeithiol wrth fynd i'r afael ag anghenion datblygu. Darperir addysg y Cyfnod Sylfaen mewn ysgolion ar draws yr ystod oedran, ac i lawer o blant 3 a 4 oed mewn tua 550 o leoliadau gofal plant nas cynhelir a ariennir.

Dylai pob dysgwr: 

  • cael y sail orau bosibl ar gyfer eu twf a'u datblygiad yn y dyfodol 
  • gallu manteisio ar ystod gynhwysfawr o addysg a dysgu
  • mwynhau'r iechyd corfforol a meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol gorau posibl
  • cael mynediad at weithgareddau chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliannol 
  • cael gwrandawiad, eu trin â pharch, a bod eu hil a'u hunaniaeth ddiwylliannol yn cael eu cydnabod
  • peidio â chael eu rhoi dan anfantais oherwydd unrhyw fath o dlodi

O'r tymor yn dilyn pen-blwydd plentyn yn 3 oed, mae gan blant 3 a 4 oed hawl i 10 awr o ddarpariaeth feithrin y Cyfnod Sylfaen yr wythnos. Yn dibynnu ar ben-blwydd y plentyn, mae'n derbyn tri, pedwar neu bum tymor o ddarpariaeth feithrin y Cyfnod Sylfaen am 39 wythnos y flwyddyn cyn oedran ysgol statudol. Bydd hyn mewn ysgol neu leoliad gofal plant nas cynhelir a ariennir. Er bod y cynnig lleiaf am 10 awr yr wythnos, a ddarperir ar sail 2 awr y dydd, mae rhai awdurdodau lleol yn cynnig mwy na hyn. Yn dibynnu ar ble y maent yn byw, gallai plant dderbyn unrhyw beth o 10 awr i ddarpariaeth feithrin lawn amser fel rhan o'r Cyfnod Sylfaen.

Nid oes yn rhaid i rieni gymryd y lle rhan-amser am ddim gan fod y plentyn o dan oedran ysgol gorfodol – ond mae data'n awgrymu bod dros 80% o blant yn mynychu.

Os bydd rhiant yn manteisio ar ddarpariaeth, mae hefyd yn penderfynu, o fewn paramedrau'r hyn sydd ar gael, ble mae'n anfon ei blentyn – i ysgol neu leoliad. Ond bydd hyn yn dibynnu ar y ddarpariaeth a gynigir gan bob awdurdod lleol gyda llawer yn llai hyblyg o ran cynnig dewis o ddarpariaeth hygyrch i rieni. Ffactorau eraill y gallai rhiant eu hystyried yw a yw eisoes yn derbyn gofal plant; lle bydd y plentyn yn mynychu'r ysgol yn ddiweddarach; ansawdd y ddarpariaeth; a logisteg y teulu ehangach.

Cynnig Gofal Plant Cymru

Mae'r Cynnig Gofal Plant, sydd wedi bod ar gael ledled Cymru ers mis Ebrill 2019, yn darparu 30 awr o addysg a gofal plant cynnar a ariennir gan y llywodraeth i rieni cymwys sydd â phlant 3 a 4 oed, am 48 wythnos y flwyddyn. Yn ystod y tymor (39 wythnos o'r flwyddyn) mae'r Cynnig yn adeiladu ar yr ymrwymiad cyffredinol presennol i addysg gynnar sy'n rhoi o leiaf 10 awr yr wythnos o ddarpariaeth i bob plentyn 3 a 4 oed. Am y 9 wythnos sy'n weddill, mae'r Cynnig yn ariannu 30 awr o ofal plant yr wythnos.

Mae rhiant cymwys sy'n gweithio yn un sy'n:

  • Byw yng Nghymru
  • Gweithio
  • Ennill yr hyn sy'n cyfateb i o leiaf 16 awr yr wythnos ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol / Cyflog Byw Cenedlaethol (gan gynnwys prentisiaid)
  • Ennill dim mwy na 100k y flwyddyn.

Mewn teulu un rhiant, mae'n rhaid i'r rhiant hwnnw fodloni'r meini prawf hyn. Ar aelwyd dau riant, rhaid i'r ddau riant fodloni'r meini prawf. Rhaid i lys-rieni neu bartneriaid rhieni sy'n byw ar yr aelwyd gyda'r plentyn / plant y gwneir cais mewn perthynas â hwy hefyd fodloni'r meini prawf. Mae'r cyfeiriad at rieni hefyd yn cynnwys gwarcheidwaid sydd â chyfrifoldeb rhiant, megis gofalwyr sy'n berthnasau, a gofalwyr maeth.

Mae gan riant sydd naill ai'n gyflogedig neu'n hunangyflogedig ac yn absennol o'r gwaith ar absenoldeb statudol, megis absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, rhiant, mabwysiadol neu salwch, hawl i'r Cynnig o hyd. Yn ogystal â hyn, mae aelwydydd â dau riant yn gymwys pan fo un rhiant yn bodloni'r gofynion gwaith a'r llall yn derbyn budd-daliadau cymwys.

Gall y gofal plant a ariennir o dan y Cynnig gael ei ddarparu gan unrhyw ddarparwr gofal plant cofrestredig. Gall rhieni ddefnyddio'r oriau ar unrhyw ddiwrnod o'r wythnos, ac ar unrhyw adeg o'r dydd (gan gynnwys dros nos). Yn yr ystyr hwn, mae'n llawer mwy hyblyg na Dechrau'n Deg a'r Cyfnod Sylfaen, sy'n adlewyrchu'r sbardun i helpu rhieni i mewn i waith – mae'r hyblygrwydd yn eu galluogi i ddod o hyd i ofal sy'n addas i'w patrwm gwaith. Caiff y Cynnig ei reoli gan awdurdodau lleol, sy'n prosesu ceisiadau gan rieni ac yn gwneud taliadau am oriau a ddarperir o dan y Cynnig yn uniongyrchol i'r darparwr gofal plant a ddewisir gan rieni cymwys.

Mae prosiect gwella digidol ar y gweill, gyda'r bwriad o gyflwyno platfform ar-lein cenedlaethol i weinyddu'r Cynnig o fis Medi 2022. Dyrennir cyllideb gyfalaf o £4m i hyn yn 21-22, ac mae'r gwaith adeiladu digidol wedi dechrau a disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Ionawr 2022.