Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi cynlluniau i ehangu addysg feddygol ledled Cymru 

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Erbyn 2019 disgwylir i drefniadau fod mewn lle i fyfyrwyr gallu wneud y cyfan o’u cwrs gradd israddedig mewn meddygaeth yn y Gogledd, yn sgil cydweithio rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor. 

Law yn llaw â hyn, bydd y ddarpariaeth addysg feddygol yng Nghymru yn cael ei hehangu ar unwaith drwy ariannu 40 o leoedd newydd ar gyfer myfyrwyr meddygol. Bydd y rhain ar gael o fis Medi ymlaen - 20 yn ysgol feddygol Caerdydd a 20 yn ysgol feddygol Abertawe. Bydd Prifysgol Abertawe hefyd yn cydweithio â Phrifysgol Aberystwyth i sicrhau mwy o gyfleoedd yn y Gorllewin.

Bydd cymaint â phosibl o astudiaethau’r myfyrwyr yn digwydd mewn lleoliadau yn y gymuned, gan adlewyrchu polisi Llywodraeth Cymru o sicrhau bod y gofal yn cael ei ddarparu mor agos ag y bo modd at gartrefi’r cleifion. 

Dywedodd Mr Gething: 

“Rwy’n falch iawn o allu cyhoeddi y bydd myfyrwyr nawr yn gallu dechrau’r daith at fod yn feddygon drwy astudio meddygaeth yn y Gogledd. Daw hyn yn sgil cydweithio rhwng prifysgolion Cymru i fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu o ran cynnal ein gweithlu meddygol yng Nghymru.  

“Rwyf wastad wedi bod yn glir mai cydweithio fyddai’r ffordd orau o ehangu addysg feddygol yn y Gogledd, yn hytrach na chreu ysgol feddygol newydd. Mae hyn yn golygu y bydd modd rhai trefniadau ar waith i fyfyrwyr allu astudio meddygaeth yn y Gogledd yn llawer cynt na phe baem yn mynd ati sefydlu ysgol feddygol newydd. 

“Mae’n bwysig cydnabod yr heriau sydd mewn rhannau eraill o Gymru hefyd, yn enwedig yn y Gorllewin. Dyna pam yr ydyn ni’n cynyddu’r niferoedd yn Abertawe ac yn eu helpu i gydweithio â Phrifysgol Aberystwyth i sicrhau bod mwy o gyfleoedd ar gael yn y Gorllewin.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams: 

“Rwy’n falch iawn ein bod yn cynyddu niferoedd y lleoedd mewn ysgolion meddygol yng Nghymru ac y bydd modd i fyfyrwyr astudio am raddau yn y Gogledd a’r Gorllewin. Rydyn ni wedi cydweithio’n agos â’r prifysgolion i wneud yn siŵr bod y lleoedd hyn ar gael cyn gynted â phosibl, ac rwy’n ddiolchgar iddyn nhw am fynd ati i sicrhau bod y cynllun ehangu pwysig hwn yn cael ei wireddu.”


Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes: 

“Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous dros ben, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â Phrifysgol Caerdydd  â’r Byrddau Iechyd i addysgu llawer yn rhagor o feddygon yn y Gogledd dros y blynyddoedd nesaf.

“Bydd y datblygiad hwn, fydd yn dechrau yn 2019, yn ein galluogi i fynd ati’n gyflym i ehangu’r addysg feddygol sy’n cael ei darparu ym Mangor ac i ddod â rhagor o fyfyrwyr meddygol i’r Gogledd. Bydd hyn o fantais i gleifion ac i’r cyhoedd, yn ddiamau. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod ynghlwm wrth y gwaith o wireddu’r cynllun. Mae llawer o waith caled o’n blaenau, ac rwy’n siŵr y bydd pawb yn gwneud eu gorau i sicrhau bod y cynllun yn llwyddiant mawr.”


Dywedodd Dr Stephen Riley, Deon Addysg Feddygol Prifysgol Caerdydd: 

“Rydyn ni’n croesawu cyhoeddiad y Gweinidog, sy’n hybu ein hymdrechion i ddarparu addysg feddygol arloesol  mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae’n rhoi cyfle gwych i adeiladu ar y berthynas sy’n bodoli’n barod rhyngom a Phrifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth, yn ogystal â’r Byrddau Iechyd Prifysgol cysylltiedig. Bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn yn caniatáu inni fwrw ymlaen â’r gwaith o ehangu mynediad at feddygaeth a chynyddu amrywiaeth o fewn y proffesiwn meddygol yng Nghymru, gan fynd i’r afael ag anghenion iechyd y boblogaeth.”