mae Llywodraeth y DU wedi methu â chyflwyno gwybodaeth hanfodol na chynnig eglurder i'r gweinyddiaethau datganoledig ynghylch sut y bydd ymadael â'r UE yn effeithio ar eu heconomi a’u cyllidebau.
Yn bresennol yn y cyfarfod roedd Ysgrifennydd Cyllid yr Alban, Derek Mackay, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, David Gauke, Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford a Gweinidog Cyllid Stormont, Máirtín Ó Muilleoir.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford:
"Mae ein Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru, a drafodwyd yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn ddiweddar yn cynnwys cynllun cynhwysfawr a chredadwy ar gyfer negodi, wrth i'r Deyrnas Unedig baratoi i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n canolbwyntio ar flaenoriaethau Cymru ond mewn ffordd a fyddai'n gweithio i'r Deyrnas Unedig yn gyfan hefyd.
"Rydyn ni wedi'i wneud yn amlwg o'r dechrau y byddai Brexit caled yn niweidiol iawn i economi Cymru a'r Deyrnas Unedig. Dyna pam ein bod ni wedi galw sawl gwaith am fynediad llawn a dirwystr at y farchnad sengl yn ein trafodaethau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae ein heconomi wedi'i chysylltu'n agos â'r farchnad sengl ac mae perthynas glòs rhwng ein llwyddiant wrth ddenu buddsoddiadau o dramor a'n mynediad at y farchnad.
"Does dim amheuaeth y bydd Brexit yn digwydd, ond mae angen inni sicrhau canlyniad da i Gymru. Byddwn ni’n parhau i drafod gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ond mae angen i'r trafodaethau hyn gryfhau dros yr wythnosau nesaf wrth i'r dyddiad i danio Erthygl 50 agosáu. Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ei gwneud yn amlwg y bydd barn y gweinyddiaethau datganoledig yn cael ei ystyried fel ein bod ni’n gallu sicrhau dyfodol sy'n gweithio i Gymru, ac i weddill y DU ar ôl inni ymadael."
Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid yr Alban Mr Mackay:
"Er fy mod yn siomedig yn y diffyg cynnydd gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraethau Cymru a Gogledd Iwerddon gan ei fod yn hanfodol i'r gweinyddiaethau datganoledig fod wrth graidd unrhyw benderfyniadau a gaiff eu gwneud. Rydyn ni angen eglurder gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig gan fod gennym ni'r hawl i fynegi ein barn ynghylch sut y bydd y cyllidebau datganoledig a'n heconomi'n cael eu heffeithio yn sgil Brexit caled. Gofynnais eto heddiw i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ystyried o ddifrif y cynigion y mae Llywodraeth yr Alban wedi’u cyflwyno mewn ymateb i ganlyniad y refferendwm. Gofynnais hefyd iddyn nhw ymateb yn gadarnhaol er lles pobl yr Alban.
"Rydyn ni wedi datgan yn glir bod cadw'r Alban yn rhan o'r farchnad sengl Ewropeaidd yn hanfodol ar gyfer swyddi, buddsoddiadau a lles economaidd hirdymor ein cenedl."
Dywedodd Gweinidog Cyllid Stormont, Máirtín Ó Muilleoir:
“Rwyf wedi dweud ar goedd o’r blaen bod yna ddiffyg dealltwriaeth o’r effaith drychinebus y byddai Brexit yn ei chael ar ein heconomi leol a dydy’r angen i roi statws arbennig i Ogledd Iwerddon o fewn yr Undeb Ewropeaidd ddim wedi cael ei gydnabod ychwaith. Dydw i ddim wedi clywed dim heddiw sy’n newid fy marn.”