Rebecca Evans, yn cyhoeddi bydd effeithiolrwydd ynni yn rhan o’r ‘gyfrifiannell’ fforddiadwyedd benthyciadau ecwiti ar gyfer ymgeisiwyr Cymorth i Brynu - Cymru.
Llywodraeth Cymru yw’r sefydliad cyntaf yn y Deyrnas Unedig i roi hyn ar waith.
Gan siarad yng Nghinio Blynyddol Morgeisi Cymru a gynhelir gan ‘UK Finance’, bydd y Gweinidog yn esbonio sut y bydd ymgeiswyr am fenthyciadau ecwiti Cymorth i Brynu - Cymru yn gallu benthyg mwy o arian am dŷ sy’n fwy ynni-effeithlon.
Dywedodd Rebecca Evans:
“O fis Mehefin ymlaen, bydd y gyfrifiannell Cymorth i Brynu - Cymru yn cynnwys elfen yn ymwneud ag effeithlonrwydd ynni. Gyda hyn, pan fydd pobl yn edrych i weld beth gallan nhw ei fforddio, byddan nhw’n cael gwahanol opsiynau’n ddibynnol ar effeithlonrwydd ynni’r eiddo. Bydd y benthyciadau’n newid ar sail sgôr effeithlonrwydd ynni’r cartref dan sylw.
“Mae cartref mwy ynni-effeithlon yn costio llai i’w redeg o ran biliau, felly gallai prynwyr fforddio benthyg mwy. Gwyddwn fod gwariant ar ynni’n rhan sylweddol o wariant aelwyd, felly rydym am wneud effeithlonrwydd ynni’n rhan o’r ystyriaeth pan fydd pobl yn ceisio prynu cartref yng Nghymru.
“Ry’n ni wedi cydweithio ar brosiect ‘LENDERS’ gyda’r Sefydliad Ymchwil Adeiladu i fodelu’r gwaith hwn, ac yn awr ni yw’r llywodraeth gyntaf, yn wir y sefydliad cyntaf, yn y Deyrnas Unedig i roi hyn ar waith.
“Er nad oes unrhyw ofynion ar fenthycwyr morgeisi i newid eu harferion cyfredol neu eu hasesiadau fforddiadwyedd, rydym yn gobeithio eu gweld yn dilyn ein hesiampl ac yn cynnwys effeithlonrwydd ynni wrth ystyried morgeisi, a hynny er budd holl brynwyr Cymru.”
Dywedodd Andrew Sutton, Cyfarwyddwr Cysylltiol BRE Cymru:
“Dyma gam gwych i brosiect ‘LENDERS’. Mae’n newyddion da iawn i bobl yng Nghymru sy’n prynu cartref am y tro cyntaf. Bydd y rhagamcanion cywirach a ganiateir gan hyn yn helpu llawer i gael morgais a phrynu cartref na fyddai wedi gallu fel arall. Bydd yr ymchwil y parhawn i’w wneud wrth weithredu hyn yn help i sefydliadau ariannol eraill ddeall sut i roi hyn ar waith yn ymarferol.
“Rwyf yn falch iawn o weld y prosiect yn dwyn ffrwyth, a gobeithio’n fawr y gwnaiff benthycwyr eraill ddilyn ein hesiampl.”