Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthuso dwy ffrwd waith allweddol i atal caethwasiaeth yng Nghymru: hyfforddiant ar atal caethwasiaeth a’r Llwybr Gofal Goroeswyr.

Amcanion y gwerthusiad

Dyma amcanion y gwaith ymchwil hwn:

  • asesu’r gwaith o gyflwyno’r hyfforddiant ar atal caethwasiaeth a’r Llwybr Gofal Goroeswyr
  • gwerthuso i ba raddau y mae’r hyfforddiant a’r llwybr gofal yn cyfrannu at amcan Llywodraeth Cymru o wneud Cymru yn elyniaethus i gaethwasiaeth a darparu’r cymorth gorau posibl i oroeswyr
  • nodi sut y gellid cryfhau neu newid yr hyfforddiant a’r llwybr gofal yn y dyfodol er mwyn eu gwneud yn fwy effeithiol.

Mae’r gwerthusiad yn archwilio’r broses o ddatblygu a chyflwyno’r hyfforddiant a’r Llwybr Gofal Goroeswyr. Mae’n ceisio cymharu’r trefniadau presennol a blaenorol ar gyfer hyfforddiant a chymorth i oroeswyr. Os oes modd, mae’n archwilio effaith y ddwy ffrwd ar waith atal caethwasiaeth hefyd.

Crynodeb o ganfyddiadau

Daeth y gwerthusiad o hyd i dystiolaeth bod amrywiaeth o waith o ansawdd uchel yn mynd rhagddo yn ymwneud â hyfforddiant ar atal caethwasiaeth a’r Llwybr Gofal Goroeswyr. Dywedodd llawer o randdeiliaid fod Cymru yn arwain y DU wrth ymateb i gaethwasiaeth fodern a bod pobl sy’n gweithio y tu allan i Gymru yn cydnabod y ffaith hon. Hefyd, nodwyd bod llawer o’r gwaith sy’n mynd rhagddo yng Nghymru yn ymgais i ddatblygu arfer da yn absenoldeb arweiniad a chynsail.

Adroddiadau

Effeithiolrwydd hyfforddiant ar atal caethwasiaeth a’r llwybr gofal goroeswyr , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.