Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ymchwil wedi sefydlu effaith gwelliannau seilwaith mawr cludiant ar y ffordd ar ddatblygiad economaidd yng Nghymru gyda'r nod o lywio'r broses o arfarnu prosiectau yn y dyfodol.

Methodoleg

Adolygu'r ymchwil bresennol a chynnal ymchwiliad empeiraidd ar effaith gwelliannau i drafnidiaeth ffyrdd ar draws o leiaf un coridor allweddol.

Prif gasgliadau'r Uned Ymchwil Economaidd

1. Diben yr ymchwil oedd archwilio effaith economaidd y gwelliannau i'r seilwaith trafnidiaeth a graddfa'r gwelliannau a wnaed. Cafodd hyn ei wneud trwy gyfuno canlyniadau ymchwil flaenorol a chynnal asesiad eang o berfformiad economaidd nifer o goridorau (yng Nghymru yn bennaf). Yn benodol, cymharwyd coridorau lle gwnaed gwelliannau sylweddol â choridorau lle na wnaed gwaith o'r fath.

2. Dyma rai o'r prif gasgliadau:

  • Er bod yr arbedion yn gymharol fach o'u cymharu â chyfanswm y costau cynhyrchu, gall busnesau unigol weld cynnydd arwyddocaol yn eu heffeithlonrwydd yn sgil gwella ffyrdd gan y byddai teithio o le i le yn haws. Nid yw hyn yn syndod, gan fod manteision o'r fath yn un o brif elfennau'r achos economaidd o blaid gwelliannau i'r seilwaith ffyrdd.
  • I raddau helaeth, mae manteision o'r fath eisoes yn cael eu cymryd i ystyriaeth wrth arfarnu cynlluniau.
  • Er bod rhywfaint o dystiolaeth o effaith economaidd ehangach, maent yn ymwneud â lleoliad y gweithgarwch economaidd yn bennaf, yn hytrach na lefel gyffredinol y gweithgarwch (er y gall cyfeirio gweithgarwch i leoliad difreintiedig gael ei gyfrif fel mantais).
  • Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'r effaith ar leoliad yn digwydd ar raddfa leol ac ychydig iawn o dystiolaeth, os o gwbl, sydd yn y cynlluniau a archwiliwyd bod hyn yn dod â budd economaidd cyffredinol ar lefel is-ranbarthol (awdurdodau lleol).

3. Un o'r goblygiadau mwyaf yw y bydd yr achos economaidd o blaid cynlluniau unigol yn dibynnu'n fawr ar fanylion y cynlluniau dan sylw, ac yn benodol ar raddfa a natur y gwelliannau a gyflawnwyd eisoes. Yn aml, mae'n anodd profi unrhyw honiadau cyffredinol a wneir am wella ffyrdd gan aelodau'r ddwy ochr o'r ddadl gyhoeddus - mae'n amlwg bod gwella ffyrdd yn gallu dod â budd economaidd, ond nid yw'r gwelliannau'n "fwledi arian" a fydd yn gweddnewid perfformiad economaidd.

4. Cynhaliwyd adolygiad annibynnol o'r ymchwil gan uwch-economegydd academig ym maes trafnidiaeth o Brifysgol Leeds ac economegydd yn yr Adran Drafnidiaeth. Cadarnhaodd y ddau bod y casgliadau cyffredinol yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn.

5. Mae'r casgliadau hefyd yn cyd-fynd â'r ymchwil a wnaed gan Berkeley Hanover Consulting ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Drafnidiaeth i effeithiau economaidd ehangach gwella'r A40 yng Ngorllewin Cymru. Bu ymgynghorwyr y ddwy astudiaeth yn cydweithio'n agos ac yn rhannu data.

Adroddiadau

Economic effects of transport infrastructure improvements: roads (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 264 KB

PDF
264 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.