Neidio i'r prif gynnwy

Nodau a methodoleg yr ymchwil

Mae’n uchelgais gan Lywodraeth Cymru i Gymru ddod yn wlad ddiwastraff erbyn 2050, a hynny’n golygu bod unrhyw ddeunyddiau a waredir yn cael eu hailgylchu a’u hailgylchredeg o fewn economi Cymru. Nodwyd bod Cynllun Dychwelyd Ernes (CDE) yn ffordd bwysig i gyflawni’r uchelgais hwn. Mae’r Cynllun Dychwelyd Ernes) wedi’i fwriadu’n benodol i gynyddu’r casglu ac ailgylchu ar gynwysyddion diodydd, gan helpu yn y pen draw i leihau maint y sbwriela o’r math hwn o ddeunydd pacio, sy’n cael ei daflu’n aml fel sbwriel. Er ei bod yn bwysig bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno CDE fel modd i gyrraedd ei tharged ar gyfer Cymru ddiwastraff, mae angen iddi roi ystyriaeth hefyd wrth wneud hynny i’r effaith ehangach bosibl. 

Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod angen deall a oes risg y byddai’r newidiadau mewn prisiau yn y man prynu wrth gyflwyno CDE yn gallu gwrthweithio yn erbyn nodau ei deddfwriaeth bresennol ar Isafbris am Alcohol, sy’n pennu Isafbris Uned ar gyfer prynu alcohol. Y risg ddichonol a nodwyd oedd y byddai’r newid yn y pris yn y man prynu o ganlyniad i gyflwyno CDE, o’i gymhwyso fesul cynhwysydd diod, yn gallu peri bod cynhyrchion uchel eu cryfder mewn pecyn sengl yn ymddangos yn fwy deniadol o safbwynt y pris manwerthu nag aml-becynnau o gynhyrchion is o ran alcohol ar adeg prynu.

Amcanion yr ymchwil

Nod craidd yr ymchwil oedd edrych ar yr effaith bosibl o’r Cynllun Dychwelyd Ernes (CDE) ar ymddygiadau prynu alcohol yng Nghymru a sut byddai cyflwyno CDE yn gallu effeithio ar nodau’r polisi Isafbris am Alcohol.

Y ddau grŵp a nodwyd fel y rhai a allai wynebu’r risg fwyaf o newid ymddygiadau prynu alcohol oedd yfwyr mewn perygl ac yfwyr a niweidir, a’r rheini sydd ar incwm is. Felly, roedd angen penodol i ddeall yr ymddygiadau dichonol ymysg y grwpiau hyn.

Methodoleg yr ymchwil

Defnyddiwyd cymysgedd o ddulliau (ymchwil ansoddol a meintiol), ar ôl cwblhau adolygiad llenyddiaeth. Pwrpas yr ymchwil ansoddol oedd deall sut, a pham, y gwneir dewisiadau mewn cysylltiad â phrynu alcohol, a’r ffordd y mae hyn yn ymwneud â chyflwyno CDE. Yn ogystal â hyn, bydd yr ymchwil ansoddol yn rhoi gwell dealltwriaeth o’r rhesymau y byddai rhai mathau o ymddygiad yn gallu codi wrth gyflwyno CDE, er mwyn rhag-weld yn well sut bydd ymddygiadau penodol yn debygol o ddatblygu wrth roi’r polisi ar waith. Pwrpas yr ymchwil feintiol oedd rhoi prawf ar ganfyddiadau o’r ymchwil ansoddol gyda sampl fwy a dynnwyd o boblogaeth Cymru er mwyn darparu tystiolaeth ychwanegol ar gyfer gwneud penderfyniadau.

Ar gyfer yr ymchwil ansoddol, cynhaliwyd 22 o gyfweliadau manwl, a’r sampl wedi’i strwythuro ar sail lefelau yfed alcohol (9 yfwr cymedrol, 7 yfwr mewn perygl, a 6 yfwr a niweidir) a chyfoeth (incwm uchel, canolig ac isel).

Cynhaliwyd yr ymchwil feintiol drwy arolwg ar-lein, a’r sampl yn cynnwys sampl graidd, a chyfres o ychwanegiadau i’n cynorthwyo i ddadansoddi ar sail is-grwpiau allweddol (e.e., lefel yfed ac incwm). Mae crynodeb isod o feintiau’r sylfeini:

Tabl 1: Cyfansoddiad sampl astudio
Math o samplProffilNifer
Sample GraiddSampl gynrychiadol o yfwyr alcohol yn byw yng Nghymru (18+ oed)1011
Ychwanegiad 1Yfwyr mewn perygl (yn cynnwys yr ychwanegiad)313
Ychwanegiad 2Yfwyr a niweidir (yn cynnwys yr ychwanegiad)200
Ychwanegiad 3Yfwyr mewn perygl neu yfwyr a niweidir ar incwm is (yn cynnwys yr ychwanegiad)208
Ychwanegiad 4Yfwyr ar incwm is (yn cynnwys yr ychwanegiad)559

Y prif ganfyddiadau

Adolygiad llenyddiaeth

Roedd astudiaethau’n dangos, os yw CDE wedi’i gynllunio a’i weithredu’n effeithiol, na ddylai gael effaith ar ymddygiad defnyddwyr gan fod yr ernes yn ad-daladwy. Os yw defnyddwyr yn gallu cymryd rhan yn llawn yn y cynllun a’i bod yn hawdd iddynt hawlio’r ernes yn ôl, cafwyd ei bod yn llai tebygol y bydd canlyniadau anfwriadol yn codi wrth weithredu CDE. Yn Croatia ac Estonia, cafwyd newid i brynu mathau mwy o gynhwysydd ar gyfer cwrw, ond ni fu cynnydd yng ngwerthiant cyffredinol cwrw mewn cynwysyddion PET (plastig), gwydr a chaniau yn ystod cyfnod yr adolygiad.

Ymddygiadau ailgylchu presennol

Cafwyd bod ailgylchu cynwysyddion diodydd alcoholaidd yn arfer sefydledig i’r rhan fwyaf o’r cyfranogwyr yn yr ymchwil ansoddol a’r ymchwil feintiol. Nododd naw ym mhob deg (87%) o’r rheini a gymerodd ran yn yr arolwg eu bod yn ailgylchu eu holl gynwysyddion drwy ailgylchu wrth ochr y ffordd ac roedd 9% ychwanegol yn gwneud hynny’n rhannol. Hefyd roedd y rhan fwyaf o’r diodydd alcoholaidd a brynwyd oddi wrth fanwerthwyr yn cael eu hyfed yn y cartref (88%).

Fodd bynnag, cafwyd bod tuedd is o lawer i ailgylchu cynwysyddion diodydd pan yfir diodydd alcoholaidd y tu allan i’r cartref, ac roedd llai na hanner (42%) y rheini a gymerodd ran yn yr arolwg yn dweud eu bod bob amser yn dod â chynwysyddion adref i’w hailgylchu.

Oedolion iau (18-34 oed) sy’n lleiaf tebygol o ailgylchu yn y cartref (78%) a’r tu allan i’r cartref (30%) ac roeddent hefyd yn fwy tebygol o yfed diodydd alcoholaidd y tu allan i’r cartref nag yr oedd grwpiau oedran hŷn.

Ymwybyddiaeth o’r CDE ac Agweddau Meddwl tuag ato

Ymysg ymatebwyr yr arolwg, roedd 37% yn ymwybodol o’r CDE. Fodd bynnag, roedd rhai gwahaniaethau amlwg rhwng is-grwpiau. Rhai dan 35 oed oedd yn lleiaf tebygol o fod yn ymwybodol o’r cynllun (27%, o gymharu â 46% ar gyfer y rheini dros 55 oed), tra oedd yfwyr a niweidir hefyd yn ychydig yn fwy tebygol o fod yn ymwybodol o’r CDE (42%, o gymharu â 36% o yfwyr cymedrol).

Y rhesymau a roddwyd amlaf yn ddigymell dros deimlo’n gadarnhaol am y CDE oedd y byddai’n hybu ailgylchu (47%), y byddai’n helpu’r amgylchedd yn gyffredinol (14%), ac atal sbwriela (14%). Yn gyffredinol, ‘er mwyn cael yr ernes yn ôl’ oedd y prif reswm a roddwyd gan ymatebwyr dros ddweud y byddent yn dychwelyd cynwysyddion (y prif sbardun dros gymryd rhan).

O blith y rheini a deimlai’n niwtral neu’n negyddol tuag at y CDE, y prif resymau a roddwyd oedd eu bod eisoes yn ailgylchu cynwysyddion (22%), y byddai’n achosi trafferth (17%), y gost ychwanegol yn y man prynu (13%), a’i bod yn well ganddynt cael arian parod yn hytrach na thalebau wrth ddychwelyd cynwysyddion (8%).

Tystiolaeth o’r mathau o effeithiau dichonol a geir ar ymddygiadau drwy gyflwyno’r CDE

Mae’r ymchwil yn awgrymu y byddai lleiafrif o ddefnyddwyr sy’n prynu cwrw neu seidr yn gallu newid i brynu mathau o alcohol cryfach (yn rhannol neu’n llwyr) wrth gyflwyno CDE, gyda llai na 10% o yfwyr cwrw neu seidr yn yr ymchwil feintiol yn nodi y byddent yn gwneud hynny. Roedd hyn yn wir hefyd am yfwyr a niweidir ac yfwyr mewn perygl, ac am y rheini ar incwm is yng nghyd-destun yr holl yfwyr (dim gwahaniaethau arwyddocaol). Er hynny, roedd y gyfran yn fwy ar gyfer yfwyr a niweidir neu yfwyr mewn perygl a oedd hefyd ar incwm is yn achos CDE 30c, o gymharu ag yfwyr cymedrol (ar unrhyw lefel incwm) e.e. 14% o gymharu â 7% ar gyfer seidr (gwahaniaeth o arwyddocâd ystadegol). Ar lefel ernes o 30c, roedd yfwyr seidr 18-34 oed a ymatebodd i’r arolwg hefyd yn fwy tebygol o gredu y byddent yn newid i fath cryfach o alcohol mewn fformat sengl yn lle seidr (yn rhannol neu’n gyfan gwbl), sef 14% o rai 18–34 blwydd oed o gymharu â 7% o rai 35–54 blwydd oed (gwahaniaeth o arwyddocâd ystadegol). Felly hefyd yr oedd yfwyr seidr benywaidd o gymharu ag yfwyr seidr gwrywaidd yn y sampl (14% o gymharu â 4%, gwahaniaeth o arwyddocâd ystadegol).

Roedd yr ymchwil wedi canfod nifer o resymau allweddol dros gymryd mai dim ond lleiafrif o ddefnyddwyr sy’n prynu cwrw neu seidr a fyddai’n newid i brynu mathau cryfach o alcohol (yn rhannol neu’n gyfan gwbl) wrth gyflwyno CDE:

  • Bod hoff fath o ddiod alcoholaidd gan oddeutu pedwar ym mhob pump (82%) o ymatebwyr yr arolwg a’u bod yn ei hyfed yn amlach na diodydd eraill, fel y byddai newid i fath arall wrth gyflwyno’r CDE yn galw am newid ychwanegol yn eu harferion. Roedd yr ymchwil ansoddol hefyd yn dangos bod ymlyniad emosiynol cryf wrth hoff fathau o ddiod. Roedd graddau’r hoffter o un math o ddiod yn fwy ymysg yfwyr mewn perygl ac yfwyr a niweidir nag ymhlith yfwyr cymedrol (85% a 87%, yn y drefn honno, o gymharu â 79%). Yn achos yfwyr mewn perygl ac yfwyr a niweidir sy’n yfed cwrw o leiaf 3 i 4 gwaith yr wythnos, roedd y ffafriaeth hon yn codi i 90%. 
  • Bod mathau o ddiod alcoholaidd yn cael eu cysylltu ag achlysuron penodol (e.e., yfed cwrw wrth wylio gêm bêl-droed neu yfed gwin gyda phryd o fwyd). Byddai newid mathau o alcohol ar gyfer achlysuron sydd â chysylltiadau cryf â nhw yn galw eto am newid normau presennol.
  • Wrth siopa am alcohol, yr ymddygiad a geir amlaf ar hyn o bryd yw siopa o fewn mathau o alcohol yn hytrach na rhyngddynt.

Ategir y casgliad hwn gan y ffaith nad oedd yr adolygiad llenyddiaeth wedi canfod tystiolaeth o effeithiau anfwriadol sylweddol mewn perthynas ag yfed alcohol, er bod nifer o CDEau ar waith o gwmpas y byd. 

Fodd bynnag, roedd yr ymchwil yn dangos mai ymysg rhai 18–34 blwydd oed roedd y duedd isaf i ailgylchu ar hyn o bryd ac mai ymhlith y rhain hefyd yr oedd y bwriad lleiaf i ddychwelyd cynwysyddion drwy’r CDE. Roedd hyn yn neilltuol o wir lle’r oedd alcohol a brynwyd oddi wrth fanwerthwyr yn cael ei yfed y tu allan i’r cartref. Os na fydd ernesau’n cael eu hawlio’n ôl, gellid cael mwy o risg ddichonol yn y grŵp oedran hwn o newid o fathau alcohol llai cryf mewn aml-becynnau i ddiodydd cryfach.
Argymhellion am gamau y gellid eu cymryd i hwyluso’r gallu i ddychwelyd cynwysyddion

Roedd yfwyr mewn perygl ac yfwyr a niweidir wedi mynegi pryder y gallai pobl eu beirniadu ar sail nifer y cynwysyddion diodydd a ddychwelir (35% a 43%, yn y drefn honno). Drwy ddarparu peiriannau a oedd yn cynnig modd i adael cynwysyddion yn ddisylw, gellid cymell y grŵp hwn i ddychwelyd cynwysyddion.

Gyda golwg ar gasglu ernesau wrth ddychwelyd cynwysyddion, roedd mwy o blaid cael arian parod nag a oedd o blaid cael talebau (arian mewn llaw neu arian yn ôl ar gerdyn), yn rhannol oherwydd pryder am dalebau’n mynd ar goll neu’n mynd heibio i ddyddiad dod i ben, etc. Mae’n bosibl y byddai talebau digidol yn helpu rhai i deimlo’n fwy hyderus na fyddai arian yn cael ei golli’n ddamweiniol.

Roedd yr angen i neilltuo amser i ddychwelyd cynwysyddion yn cael ei weld yn rhwystr pendant gan oedolion sydd â phlant a’r rheini sy’n 18-34 blwydd oed. Pan holwyd yn benodol am hynny, dywedodd hanner (51%) y rhai 18-34 blwydd oed y byddai diffyg amser yn ei gwneud yn anodd dychwelyd cynwysyddion yn rhan o’u bywyd pob dydd, fel a wnaeth 44% o rieni i blant dan 18 oed. Byddai cyfathrebu ynghylch y gallu i ddychwelyd cynwysyddion yn rhwydd ac yn gyflym, ynghyd â nifer helaeth o fannau dychwelyd (fel na fydd pobl yn teimlo bod angen iddynt fynd o’u ffordd) yn gallu lleddfu’r pryder hwn. Hefyd bydd sicrhau bod y mannau dychwelyd yn weithredol yn ystyriaeth bwysig.

Roedd cysylltiad clir rhwng bod â barn negyddol am y CDE a bod â chwestiynau heb eu hateb am y cynllun. O’r rheini a oedd wedi ymateb yn negyddol i’r cynllun ar y dechrau, roedd 60% a oedd â chwestiynau ynghylch sut byddai’n gweithio neu’n meddwl ei fod yn ddyrys, o gymharu â 36% o’r rheini a oedd â barn gadarnhaol amdano. Mae hyn yn awgrymu y bydd yn bwysig cael cyfathrebu clir a chynhwysfawr er mwyn cymell yfwyr i deimlo’n gadarnhaol am y cynllun, ac felly i fod yn fwy tebygol o gymryd rhan. 

Roedd nifer a lleoliad y mannau dychwelyd yn un o’r prif bryderon ymysg cyfranogwyr yn yr ymchwil ansoddol a’r ymchwil feintiol, a hynny’n amlygu pwysigrwydd lleoliad y mannau dychwelyd o ran hwyluso’r gallu i ddychwelyd cynwysyddion. Bydd yn neilltuol o bwysig cael mannau dychwelyd gweithredol mewn llawer man mewn lleoliadau y tu allan i’r cartref lle yfir alcohol a brynwyd oddi wrth fanwerthwyr, gan fod cyfraddau ailgylchu y tu allan i’r cartref yn is o lawer ar hyn o bryd. Yn ogystal â hyn, roedd yr angen i gario cynwysyddion diodydd gwag, budr oddi allan i’r cartref hefyd wedi cael ei nodi’n brif rwystr mewn perthynas â dychwelyd cynwysyddion (31%).

Argymhellion ar gyfer ymchwil bellach

Rydym yn argymell y dylid monitro ymddygiadau gwirioneddol ar ôl rhoi’r cynllun ar waith. Drwy wneud hyn oddeutu blwyddyn ar ôl ei gyflwyno, byddai defnyddwyr wedi cael amser i addasu i’r cynllun newydd a byddai digon o ddata am gategorïau wedi cael eu casglu er mwyn cynnal dadansoddiad ystyrlon. Rydym yn argymell defnyddio data am gategorïau (data EPOS neu ddata gwerthiant paneli siopwyr) ynghyd ag ymchwil ansoddol a meintiol ychwanegol ymysg defnyddwyr. 

Ar gyfer yr ymchwil ansoddol a meintiol, rydym yn awgrymu defnyddio sampl sydd â strwythur tebyg i’r un a ddefnyddiwyd ar gyfer yr ymchwil hon, ond gyda’r posibilrwydd o gynnwys ychwanegiad pellach o rai 18-34 blwydd oed, gan mai’r grŵp hwn oedd yr un lle nodwyd y bwriad dichonol isaf i gymryd rhan yn y CDE. 

Er mwyn ategu ymchwil ymhlith defnyddwyr, gellid ystyried cynnal ymchwil ansoddol hefyd ymhlith gweithredwyr y cynllun (e.e. manwerthwyr), er mwyn canfod a oes unrhyw anawsterau wrth ei weithredu o’u safbwynt nhw.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Clair Prior a Duncan Macaskill, Levercliff Associates

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Tîm Ymchwil Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
E-bost: ymchwil.iechydagwasanaethaucymdeithasol@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 79/2024
ISBN digidol 978-1-83625-803-2

GSR logo