Effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, cymorth, darpariaeth a phontio ar gyfer addysg gynnar: ymateb y llywodraeth
Yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud mewn ymateb i adroddiad ac argymhellion Estyn.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Manylion yr adroddiad
Mae’r adolygiad thematig hwn yn canolbwyntio ar blant yn y blynyddoedd cynnar y mae tlodi ac anfantais yn cael effaith andwyol arnynt, a’r effaith a gaiff hyn ar eu cyrhaeddiad addysgol cynnar. Mae’n ystyried effeithiolrwydd y cymorth a’r ddarpariaeth a gynigir gan ddarparwyr addysg y blynyddoedd cynnar, effeithiolrwydd y trefniadau pontio ar gyfer plant yn y blynyddoedd cynnar o’r cartref i’r lleoliad, a rhwng lleoliadau addysg a ariennir a’r ysgol.
Mae’r adolygiad yn ystyried yr arfer fwyaf effeithiol a lle nad yw arfer yn ddigon effeithiol. Mae hefyd yn gwerthuso pa mor dda y mae awdurdodau lleol, a gwasanaethau gwella ysgolion, yn cefnogi ac yn herio darparwyr ac ysgolion nas cynhelir a ariennir i wella deilliannau ar gyfer plant sy’n byw mewn tlodi.
Crynodeb o'r prif ganfyddiadau
Mae prif ganfyddiadau Estyn fel a ganlyn:
- Mae yna amrywiad o ran sut y ceir mynediad at addysg gynnar ledled Cymru, yn dibynnu ar sut mae awdurdodau lleol yn darparu addysg feithrin. Mae’r amrywiad hwn yn arwain at ddarpariaeth annheg ledled Cymru. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod rhieni yn aml yn cael ychydig iawn o ddewis, neu ddim dewis o gwbl, ynglŷn â ble y gallant gael addysg feithrin ar gyfer eu plentyn.
- Roedd amrywiad mewn hygyrchedd dysgu proffesiynol yn y blynyddoedd cynnar ar gyfer y sector, gydag arweinwyr yn y sector nas cynhelir yn fwy tebygol o fod wedi cael mynediad at ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel yn y blynyddoedd cynnar gan eu hawdurdodau lleol a sefydliadau ymbarél nag ymarferwyr mewn ysgolion. Fodd bynnag, dywedodd llawer o arweinwyr ysgolion fod dysgu proffesiynol cyfyngedig i gefnogi addysgeg effeithiol y blynyddoedd cynnar yn cael ei gynnig gan awdurdodau lleol a gwasanaethau gwella ysgolion.
- Dywedodd arweinwyr o leoliadau ac ysgolion nas cynhelir fod llawer o deuluoedd yn profi effaith negyddol tlodi ac anfantais ar lefel waeth o lawer na’r hyn a welwyd yn y gorffennol. O ganlyniad, roedd cyfran fawr o’u hamser a’u hadnoddau yn cael eu defnyddio i fynd i’r afael â’r anghenion hyn. Bron ym mhob achos, roedd lleoliadau ac ysgolion yn treulio amser yn dod i adnabod y plant a’u teuluoedd yn dda. Roeddent yn treulio amser yn meithrin perthnasoedd cefnogol ac ymddiriedus. Er nad oedd arweinwyr wedi cael hyfforddiant na gwybodaeth benodol gan awdurdodau lleol am sut orau i ddiwallu anghenion cymdeithasol, emosiynol a datblygiadol plant yn y blynyddoedd cynnar y mae tlodi ac anfantais yn cael effaith andwyol arnynt, roeddent yn gwybod ac yn deall pwysigrwydd cynorthwyo teuluoedd a’r gwahaniaeth yr oedd hyn yn ei wneud i’w bywydau. Roedd hyn yn aml ar ffurf cymorth ymarferol fel cydweithio â’r trydydd sector i ddarparu bwydydd, teganau, gwisg ysgol, a chymorth ymarferol â materion fel tai.
- Mae’r Grant Datblygu Disgyblion Blynyddoedd Cynnar (GDDBC) yn darparu cyllid i ysgolion a lleoliadau i gynorthwyo plant 3 i 4 oed â’u hanghenion cyfathrebu, lles a chorfforol. Canfu’r adolygiad fod annhegwch o ran cyllid ar draws y sectorau nas cynhelir yng Nghymru, oherwydd cymhlethdodau fformiwlâu cyllido ac anhawster casglu data ar y grŵp oedran hwn. O ganlyniad i hyn, mae awdurdodau lleol nad ydynt yn ariannu addysg gynnar yn y sector nas cynhelir yn derbyn cyllid, ac awdurdodau lleol â lefelau uchel o amddifadedd yn derbyn cyllid cyfyngedig.
- Roedd y rhan fwyaf o leoliadau nas cynhelir sy’n derbyn cyllid GDDBC dirprwyedig yn gwneud defnydd da o’r arian hwn i brynu adnoddau a oedd yn helpu datblygu anghenion cyfathrebu a lles plant, fel offer awyr agored ac adnoddau lleferydd ac iaith. Roeddent yn mynychu hyfforddiant buddiol a oedd yn eu cynorthwyo â’u rolau, yn enwedig wrth gefnogi medrau cyfathrebu plant. Yn ychwanegol, roeddent yn cyfoethogi profiadau plant trwy amrywiaeth o ymweliadau, yn ogystal â gwahodd ymwelwyr i’r lleoliad. Fodd bynnag, yn yr awdurdodau lleol hynny lle roedd yr arian grant yn cael ei gadw’n ganolog, nid oeddent bob amser yn targedu hyfforddiant yn ddigon da at fynd i’r afael ag anfantais neu’n targedu’r lleoliadau mwyaf difreintiedig yn ddigon da.
- Yn y rhan fwyaf o ysgolion, roedd arweinwyr yn aml yn defnyddio’r cyllid hwn i gynnal y ddarpariaeth bresennol. Er enghraifft, roeddent yn cyflogi oedolion ychwanegol i ddarparu cymhareb oedolyn / disgybl addas yn nosbarthiadau’r blynyddoedd cynnar. Mewn ychydig o enghreifftiau, roedd yr ymarferwyr hyn yn cyflawni ymyriadau lleferydd ac iaith ac iechyd a lles emosiynol. Mewn lleiafrif o ysgolion, nid oedd arweinwyr yn gallu gwahanu eu cyllid GDDBC oddi wrth eu cyllid ehangach o’r GDD, ac felly, nid oeddent yn gallu dyrannu eu cyllid mewn ffordd dargedig yn ddigon da.
- Mae llawer o arweinwyr yn darparu cyfleoedd buddiol i blant a’u teuluoedd ddod i adnabod ymarferwyr a’r lleoliad neu’r ysgol cyn dechrau yno. Mae hyn yn cynnwys pan fydd plant yn pontio o’r cartref i leoliad neu ysgol, neu rhwng lleoliad ac ysgol.
Argymhellion
Cyflwynir cyfanswm o 7 argymhelliad yn yr adroddiad. Mae'r rhain yn argymhellion ar wahân ar gyfer Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol/gwasanaethau gwella ysgolion, ac arweinwyr mewn ysgolion a lleoliadau.
Bydd swyddogion yn ysgrifennu at awdurdodau lleol i dynnu sylw at yr adroddiad a'r cyfrifoldeb rydym yn ei rannu i weithio tuag at gyflawni'r argymhellion.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal deialog barhaus gyda rhanddeiliaid perthnasol, gan ofyn am ddiweddariadau rheolaidd ar eu cynnydd yn erbyn yr argymhellion.
Argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru
Argymhelliad 1
Sicrhau bod cyllid y GDDBC yn cael ei ddyrannu’n deg i awdurdodau lleol sy’n ariannu lleoliadau nas cynhelir.
Ymateb Llywodraeth Cymru: derbyn yn rhannol
Mae swyddogion yn ystyried dulliau amgen o ddyrannu Grant Datblygu Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer lleoliadau nas cynhelir fel y gellir targedu'r grant llawn yn y ffordd fwyaf effeithiol i sicrhau tegwch i ddysgwyr.
Fodd bynnag, nid yw CYBLD yn cynnwys data ar gyfer plant 3 a 4 oed mewn lleoliadau a ariennir nas cynhelir, ac nid oes gennym ddata cadarn nac wedi’u dilysu ar gyfer y disgyblion hyn. Felly ar hyn o bryd mae’r dyraniad Grant Datblygu Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer lleoliadau nas cynhelir yn cael ei amcangyfrif ar sail cyfuniad o ddata sydd ar gael o amcangyfrifon poblogaeth a CYBLD. Mae Grant Datblygu Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer lleoliadau nas cynhelir yn 2024 i 2025 yn cyfrif am 0.8% o gyfanswm y gyllideb Grant Datblygu Disgyblion.
Mae swyddogion ar hyn o bryd yn edrych i weld os yw awdurdodau lleol o bosibl yn cadw data a allai helpu i wella'r fethodoleg hon, fel y gellir gwneud y dyraniad Grant Datblygu Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer lleoliadau nas cynhelir yn fwy cywir.
Argymhelliad 2
Darparu arweiniad gwell ar sut caiff y cyllid ei ddosbarthu a’i ddefnyddio mewn lleoliadau ac ysgolion.
Ymateb Llywodraeth Cymru: derbyn
Mae swyddogion yn adolygu telerau ac amodau Grant Datblygu Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar yn flynyddol ochr yn ochr â'r ffrydiau grant eraill. Mae canllawiau pellach ar sut mae’r Grant hwn yn cael ei ddosbarthu'n cael eu hystyried. O ran canllawiau ar gyfer ysgolion a lleoliadau, rydym yn gweithio'n agos gyda'r Sefydliad Gwaddol Addysg a rhanddeiliaid allweddol i gynhyrchu canllawiau wedi'u diweddaru ar gyfer ysgolion a lleoliadau ar ddefnydd effeithiol o Grant Datblygu Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar, sydd i'w cyhoeddi yng Ngwanwyn 2025.
Argymhelliad ar gyfer awdurdodau lleol a gwasanaethau gwella ysgolion
Argymhelliad 3
Darparu dysgu proffesiynol penodol a gwybodaeth i ysgolion a lleoliadau am sut orau i ddiwallu anghenion cymdeithasol, emosiynol, personol a datblygiadol plant yn y blynyddoedd cynnar y mae tlodi ac amddifadedd yn cael effaith andwyol arnynt.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mater i'r awdurdodau lleol unigol yw'r argymhelliad hwn.
Rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel. Mae galluogi ymarferwyr i gael mynediad at ddysgu a gwybodaeth broffesiynol o ansawdd uchel yn hanfodol i ddiwallu anghenion datblygiad cymdeithasol, emosiynol a phersonol plant yn y blynyddoedd cynnar y mae tlodi ac amddifadedd yn effeithio'n andwyol arnynt.
Argymhelliad 4
Sicrhau bod arweinwyr mewn ysgolion a lleoliadau yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o gyllid GDDBC er mwyn iddynt allu ei dargedu’n effeithiol ar fynd i’r afael ag effaith tlodi ac anfantais ar gyfer eu disgyblion yn y blynyddoedd cynnar.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mater i awdurdodau lleol Cymru yw'r argymhelliad hwn.
Cyhoeddir dyraniadau'r Grant Datblygu Disgyblion, gan gynnwys manylion Grant Datblygu Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar yn ôl ysgol/lleoliad, yn flynyddol ac maent ar gael yn: Grant Datblygu Disgyblion a Grant Datblygu Disgyblion Blynyddoedd Cynnar: dyraniadau (dyraniadau 2024 i 2025 a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2024).
Argymhelliad 5
Sicrhau cydraddoldeb o ran darpariaeth y blynyddoedd cynnar rhwng ysgolion a lleoliadau, yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn o rôl amgylcheddau effeithiol, oedolion sy’n galluogi dysgu a phrofiadau difyr.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mater i awdurdodau lleol Cymru yw'r argymhelliad hwn.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r canllawiau Galluogi Dysgu gydag ymarferwyr, uwch arweinwyr a'r haen ganol. Datblygwyd adran 'Galluogi Dysgu' canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru i helpu uwch arweinwyr ac ymarferwyr mewn ysgolion a lleoliadau i drefnu, cynllunio a gweithredu cwricwlwm sy'n addysgegol briodol ar gyfer pob dysgwr.
Argymhellion ar gyfer arweinwyr ysgolion a lleoliadau
Argymhelliad 6
Gwerthuso’r effaith a gaiff cyllid y GDDBC ar gynnydd medrau a datblygiad plant.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mater i ysgolion a lleoliadau yw'r argymhelliad hwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r Sefydliad Gwaddol Addysg a rhanddeiliaid allweddol i gynhyrchu canllawiau wedi'u diweddaru ar gyfer ysgolion a lleoliadau ar ddefnydd effeithiol o Grant Datblygu Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar, sydd i'w cyhoeddi yng Ngwanwyn 2025. Lle bo'n berthnasol, bydd hyn yn cynnwys cyngor ynghylch gwerthuso'r grant yn effeithiol.
Argymhelliad 7
Sicrhau bod y ddarpariaeth ar gyfer plant yn y blynyddoedd cynnar yn ddatblygiadol briodol.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mater i ysgolion a lleoliadau yw'r argymhelliad hwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cwricwlwm sy'n briodol yn ddatblygiadol ac yn addysgol. Byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r canllawiau Galluogi Dysgu gydag ymarferwyr, uwch arweinwyr a'r haen ganol. Datblygwyd adran 'Galluogi Dysgu' canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru i helpu uwch arweinwyr ac ymarferwyr mewn ysgolion a lleoliadau i drefnu, cynllunio a gweithredu cwricwlwm sy'n addysgegol briodol ar gyfer pob dysgwr.
Manylion cyhoeddi
Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ar 20 Tachwedd 2024, a gellir ei ganfod ar wefan Estyn.