Neidio i'r prif gynnwy

Nodau’r ymchwil, y fethodoleg a’r derminoleg

Dyma grynodeb o'r prif ganfyddiadau a'r argymhellion a luniwyd yn sgil Asesiad Cyflym o’r Dystiolaeth, gyda'r nod o ystyried a gwerthuso'r dystiolaeth sydd ar gael mewn perthynas ag effeithiau diwygio calendrau ysgolion, a chalendrau amgen. Mae'r Asesiad yn dilyn ffurf adolygiad o lenyddiaeth, ac yn ystyried tystiolaeth sy'n deillio o 33 o adnoddau, gan gynnwys astudiaethau o Gymru, y DU yn ehangach, ac UDA.

Nod yr Asesiad Cyflym o’r Dystiolaeth oedd ystyried p’un a yw newid y calendr ysgolion a chalendrau amgen yn effeithio ar broses ddysgu myfyrwyr, iechyd a lles plant, y ddarpariaeth gofal bob pen i’r diwrnod, a bywyd teuluol (ac os oes yna effeithiau, beth yn union ydyn nhw). Roedd yr Asesiad hefyd yn ystyried unrhyw effeithiau cymdeithasol eraill sy’n deillio o newidiadau i’r calendr ysgolion.

Cynhaliwyd yr Asesiad Cyflym o’r Dystiolaeth gan y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi fel rhan o interniaeth PhD, a'i fwriad yw cefnogi Llywodraeth Cymru yn ei gwaith o gasglu gwybodaeth ynghylch y calendrau ysgolion gorau a newidiadau posibl.

Roedd yr astudiaethau a werthuswyd yn yr adolygiad hwn yn canolbwyntio ar un o dri ymyriad i’r calendr ysgolion: addysg gydol y flwyddyn, darpariaeth gwyliau haf, neu flynyddoedd ysgol estynedig.

Defnyddir y term 'addysg gydol y flwyddyn' i gyfeirio at galendrau ysgolion sydd wedi’u newid i greu tymhorau a gwyliau mwy cyson drwy gydol y flwyddyn. O dan galendr addysg gydol y flwyddyn ‘un trywydd’, byddai pob plentyn yn mynychu'r ysgol ar yr un pryd dros gyfnod y flwyddyn academaidd (gan ddilyn yr un ‘trywydd’). O dan galendr addysg gydol y flwyddyn 'aml-drywydd', byddai gwahanol grwpiau o fyfyrwyr yn mynychu'r ysgol ar wahanol adegau dros gyfnod y flwyddyn academaidd (gan ddilyn 'trywydd’ gwahanol i’w gilydd).

Prif ganfyddiadau

Canfu’r adolygiad nad oedd yn bosibl, yn aml iawn, ateb y cwestiynau ymchwil gan nad oedd yna astudiaethau a oedd wedi ymchwilio i’r pynciau hyn. Mae’r argymhellion, felly, yn canolbwyntio ar sicrhau bod proses o gasglu tystiolaeth benodol o ansawdd ac o werthuso yn rhan annatod o unrhyw gynllun i newid calendr rhaglen ysgolion yng Nghymru o’r dechrau’n deg.

Pa dystiolaeth sydd ar gael sy'n dangos effeithiau diwygio’r calendr ysgolion, yn enwedig mewn perthynas â dysgu, iechyd meddwl plant, iechyd a lles corfforol, gofal bob pen i’r diwrnod a bywyd teuluol?

Mae’r dystiolaeth yn gymysg ynghylch p’un a yw addysg gydol y flwyddyn neu ddarpariaeth gwyliau haf wedi cael effaith gadarnhaol ar gyrhaeddiad myfyrwyr. Yn gyffredinol, roedd yr ymchwil a werthuswyd yn yr adolygiad hwn yn dynodi nad oedd blynyddoedd ysgol estynedig yn arwain at effeithiau cadarnhaol ar gyrhaeddiad.

Mae yna rywfaint o dystiolaeth yn dynodi bod addysg gydol y flwyddyn yn cael effeithiau cadarnhaol bach ar iechyd plant, er nad oedd llawer o'r effeithiau hyn yn parhau drwy gydol y flwyddyn ysgol. Ceir tystiolaeth gymysg o ran effeithiau rhaglenni gwyliau haf, gan fod sawl astudiaeth yn y DU (dwy yng Nghymru) yn nodi cysylltiadau rhwng y rhaglenni a archwiliwyd a iechyd a lles plant, ond canfu dwy astudiaeth o'r Unol Daleithiau nad oedd rhaglen ysgol haf yn arwain at effeithiau cadarnhaol ymhlith plant yn gymdeithasol-emosiynol, ar ôl un neu ddwy flwyddyn. Ni chanfu’r adolygiad dystiolaeth ynghylch effaith blynyddoedd ysgol estynedig ar iechyd a lles plant.

Roedd yna rywfaint o dystiolaeth yn dynodi bod teuluoedd plant sy'n mynychu ysgolion addysg gydol y flwyddyn un trywydd yn hapus ar y cyfan â'r calendr a'r broses bontio. Dangosodd pum astudiaeth yn y DU (dwy o Gymru) fod rhaglenni gwyliau haf yn gysylltiedig â gwell lefelau lles, lleihau straen a phwysau ariannol i rieni, a mwy o amser o ansawdd i deuluoedd. Ni chanfu’r adolygiad hwn unrhyw astudiaethau a oedd yn ystyried effeithiau blynyddoedd ysgol estynedig ar fywyd teuluol. Ni chanfuwyd unrhyw astudiaethau a oedd yn ymchwilio i effaith newidiadau i’r calendr ysgolion ar ddarpariaeth gofal bob pen i’r diwrnod.

A yw effeithiau penodol ar grwpiau difreintiedig a/neu grwpiau eraill o ddysgwyr yn cael eu hystyried neu eu nodi? Beth yw’r rheini? Sut mae calendrau amgen yn effeithio ar ddarpariaeth myfyrwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), a phroses ddysgu a lles y myfyrwyr hynny?

Mae'r dystiolaeth a adolygwyd yma yn dynodi’n gyffredinol nad yw addysg gydol y flwyddyn na darpariaeth gwyliau haf yn lleihau'n sylweddol y bwlch cyrhaeddiad rhwng myfyrwyr sy’n economaidd-ddifreintiedig a'u cyfoedion nad ydynt yn economaidd-ddifreintiedig. Mae yna rywfaint bach iawn o dystiolaeth yn dynodi bod mynychu ysgol haf yn cynyddu hyder myfyrwyr difreintiedig yn arbennig, yn eu paratoi ar gyfer yr ysgol ac yn eu helpu’n gymdeithasol. Prin iawn oedd y dystiolaeth o effaith ymestyn y flwyddyn ysgol ar fyfyrwyr o gefndiroedd economaidd-ddifreintiedig, ond roedd yn gadarnhaol, gan fod un astudiaeth wedi canfod effeithiau cadarnhaol ar gyrhaeddiad myfyrwyr o gefndiroedd economaidd-ddifreintiedig.

Roedd y dystiolaeth a werthuswyd yma yn dynodi, yn gyffredinol, nad oedd addysg gydol y flwyddyn un trywydd ac aml-drywydd yn effeithio'n gyson ar gyrhaeddiad academaidd myfyrwyr o gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig mewn ffordd wahanol i gyrhaeddiad academaidd myfyrwyr gwyn. Ni chanfu'r adolygiad hwn unrhyw astudiaethau a oedd yn ystyried effaith darpariaeth gwyliau haf na blynyddoedd ysgol estynedig ar fyfyrwyr o gymunedau lleiafrifoedd ethnig.

Mae yna rywfaint bach iawn o dystiolaeth i ddynodi cysylltiad rhwng rhaglenni ysgolion haf a pharodrwydd mwy ar gyfer yr ysgol ymhlith myfyrwyr sy'n derbyn gofal. Ni chanfu'r adolygiad unrhyw astudiaethau a oedd yn ystyried p’un a oedd addysg gydol y flwyddyn neu flynyddoedd ysgol estynedig yn effeithio’n benodol ar fyfyrwyr sy'n derbyn gofal.

Roedd rhywfaint bach iawn o dystiolaeth yn dynodi nad oedd darpariaeth gwyliau haf yn helpu myfyrwyr sy'n ei chael yn anodd yn academaidd i ddal i fyny. Ni chanfu'r adolygiad unrhyw astudiaethau a oedd yn ystyried p’un a oedd addysg gydol y flwyddyn neu flynyddoedd ysgol estynedig yn effeithio ar fyfyrwyr sy'n ei chael yn anodd yn academaidd mewn ffordd wahanol i fyfyrwyr eraill.

Ni chanfu'r adolygiad unrhyw astudiaethau a oedd yn ystyried p’un a oedd newid y calendr ysgolion yn effeithio'n wahanol ar fyfyrwyr yn ôl eu rhyw.

Roedd y canfyddiadau yn gymysg o ran effeithiau addysg gydol y flwyddyn ar fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Prin iawn oedd y dystiolaeth ynghylch effaith darpariaeth gwyliau haf ar fyfyrwyr ag ADY. Nododd astudiaeth o Gymru fod y ddarpariaeth yn gysylltiedig â llai o straen ymhlith plant ag ADY. Ni chanfu'r adolygiad hwn unrhyw astudiaethau a oedd yn ystyried effaith blynyddoedd ysgol estynedig ar fyfyrwyr ag ADY.

Pa dystiolaeth sydd ar gael o ddefnyddio neu ystyried calendrau amgen mewn cyd-destunau lle mae trochi ieithyddol, neu ddysgu ieithyddol dwys, yn elfen o’r ddarpariaeth addysg? Sut aethpwyd ati i roi sylw i’r elfen hon wrth gynllunio a chyflwyno'r calendrau amgen? Beth yw effeithiau calendrau amgen ar yr elfen hon o’r ddarpariaeth?

Nid oedd yr un o'r astudiaethau a adolygwyd yma yn ystyried effaith newidiadau i’r calendr ysgolion ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn addysg, nac ar systemau addysg sy'n cynnwys trochi ieithyddol neu ddysgu ieithyddol dwys. Dywedodd rhieni mewn un astudiaeth fod darpariaeth haf wedi helpu eu plentyn i ddal gafael ar ei sgiliau Cymraeg. Ni chanfu'r adolygiad unrhyw astudiaethau a oedd yn ystyried effeithiau addysg gydol y flwyddyn na blynyddoedd ysgol estynedig ar fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith.

Nid oedd yr astudiaethau a adolygwyd yma yn dynodi bod myfyrwyr sy'n dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol, yn arbennig, wedi profi effaith gadarnhaol ar eu cyrhaeddiad academaidd o ganlyniad i addysg gydol y flwyddyn neu ddarpariaeth gwyliau haf.

Pa effeithiau eraill sydd wedi cael eu dangos neu eu hawgrymu?

Roedd rhywfaint o dystiolaeth o effeithiau cadarnhaol addysg gydol y flwyddyn a rhaglenni haf/gwyliau ar athrawon a staff eraill rhaglenni ysgolion. Ni chanfu’r adolygiad unrhyw astudiaethau a oedd yn ystyried effeithiau blynyddoedd ysgol estynedig ar athrawon neu staff eraill.

Prin a chymysg oedd y dystiolaeth ynghylch effaith addysg gydol y flwyddyn a darpariaeth gwyliau haf ar ymddygiad myfyrwyr. Roedd rhywfaint o dystiolaeth bod blynyddoedd ysgol estynedig yn effeithio’n negyddol ar ymddygiad myfyrwyr 13 i 14 oed, ond nad oeddent yn effeithio ar ymddygiad plant 9 i 10 oed.

Er mai dim ond dwy astudiaeth a ystyriodd effeithiau economaidd, daeth y ddwy i'r casgliad bod yna effeithiau economaidd negyddol bach (ond sylweddol) i addysg gydol y flwyddyn. Canfuwyd bod prisiau tai a chyfraddau cyflogaeth mamau yn is o fewn dalgylchoedd ysgolion â chalendrau addysg gydol y flwyddyn. Ni chanfu'r adolygiad unrhyw astudiaethau a oedd yn ystyried effeithiau economaidd darpariaeth gwyliau haf na blynyddoedd ysgol estynedig.

Pa ffactorau sydd wedi arwain at y diwygiadau hyn? A wnaed newidiadau ehangach ochr yn ochr â’r diwygiadau hyn (e.e. newidiadau i nifer yr athrawon, neu newidiadau i'r cwricwlwm)? Os felly, beth yw’r newidiadau hyn? A wnaed y diwygiadau hyn yn benodol mewn ymateb i bandemig COVID-19?

Nid oedd yr astudiaethau a gynhwyswyd yn yr adolygiad hwn yn nodi ffactorau a oedd wedi ysgogi ysgolion neu ardaloedd penodol i ddiwygio eu calendrau. Fodd bynnag, dywedodd nifer o ymchwilwyr, er bod addysg gydol y flwyddyn un trywydd yn cael ei mabwysiadu'n gyffredinol i wella cyrhaeddiad academaidd ac i wneud iawn am gyfleoedd dysgu a gollir dros yr haf, fod addysg gydol y flwyddyn aml-drywydd yn cael ei mabwysiadu fel rheol er mwyn mynd i'r afael â phroblem ysgolion gorlawn.

Roedd ymchwilwyr a oedd yn ystyried darpariaeth gwyliau haf yn tueddu i nodi amcanion y rhaglenni hyn, yn hytrach na’r ffactorau y tu ôl i’r penderfyniad i’w gweithredu. Nod y rhan fwyaf o'r rhaglenni hyn oedd cynnal neu wella iechyd a lles plant, yn enwedig y rhai o gefndiroedd difreintiedig.

Wrth ystyried effeithiau newid hyd y flwyddyn ysgol, ni wnaeth yr ymchwilwyr nodi ffactorau penodol a oedd y tu ôl i’r newidiadau mewn ysgolion neu ardaloedd penodol. Fodd bynnag, nododd rhai ymchwilwyr mai nod estyn y flwyddyn ysgol, yn aml, oedd gwella cyrhaeddiad academaidd.

Nid oedd y rhan fwyaf o'r astudiaethau yn yr adolygiad hwn yn nodi p’un a gyflwynwyd newidiadau ehangach mewn ysgolion ochr yn ochr â diwygio’r calendr.

Nid oedd yr un astudiaeth yn yr adolygiad hwn yn dynodi bod diwygio’r calendr ysgolion wedi'i wneud mewn ymateb i bandemig COVID-19.

Sut mae’r diwygiadau wedi'u rhoi ar waith? Yn benodol, pa newidiadau i drefniadau ariannu, maint a strwythur y gweithlu, cymhellion neu ofynion statudol sydd wedi'u gweithredu neu eu hystyried?

Er bod rhai o'r astudiaethau a gynhwyswyd yn yr adolygiad hwn yn rhoi rhai manylion ynghylch sut y gweithredwyd calendrau amgen, ni chanfu'r adolygiad unrhyw astudiaethau a oedd yn nodi newidiadau manwl i faint neu strwythur y gweithlu, nac unrhyw gymhellion neu ofynion statudol a ddefnyddiwyd neu a ystyriwyd.

Roedd rhai astudiaethau yn rhoi manylion am rai agweddau ar weithredu, yn enwedig yr astudiaethau a oedd yn ystyried darpariaeth gwyliau haf. Roedd yr agweddau hyn yn cynnwys costau gweithredu, y strwythurau a'r sefydliadau a oedd yn rhan o’r gwaith o gynllunio a chyflwyno’r ddarpariaeth, a hyd y ddarpariaeth.

Pa elfennau y daethpwyd ar eu traws a rwystrodd ac a hwylusodd y broses, a beth fu eu heffeithiau?

Ychydig yw’r dystiolaeth a ganfu'r adolygiad hwn o ran yr hyn a rwystrodd ac a hwylusodd y broses o weithredu addysg gydol y flwyddyn. Argymhellodd athrawon mewn un astudiaeth y dylid creu dosbarthiadau llai o faint, gan sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu haddysgu gan eu hathrawes/athro arferol, a bod gwersi 'adferol' a gyflwynir yn ystod wythnosau rhyngsesiynol yn ddiddorol ac yn wahanol i wersi 'bob dydd’. Hoe yw’r wythnosau rhyngsesiynol rhwng tymhorau academaidd traddodiadol pan fydd myfyrwyr yn ymgymryd â gweithgareddau addysgol yn yr ysgol. Efallai y bydd y gweithgareddau hyn yn canolbwyntio ar feysydd dysgu allweddol er mwyn helpu myfyrwyr i ‘ddal i fyny’ â’u cyfoedion, neu gallent fod yn weithgareddau anacademaidd.

Roedd llawer o astudiaethau a ystyriodd ddarpariaeth gwyliau haf yn adrodd ar yr hyn a oedd yn rhwystro ac yn hwyluso rhaglenni effeithiol. Ymhlith y rhwystrau a gofnodwyd roedd lefelau presenoldeb isel, anhawster nodi a thargedu myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig, costau a diffyg staff. Nodwyd arbenigedd a phrofiad staff, cynllunio cynnar, a chydweithio effeithiol ag ysgolion a sefydliadau eraill fel elfennau a hwylusodd y ddarpariaeth.

Ychydig o dystiolaeth a ganfu'r adolygiad ynghylch yr elfennau a rwystrodd ac a hwylusodd y broses o weithredu blynyddoedd ysgol estynedig. Dywedodd cyfarwyddwyr addysg arbennig yn Texas mai anhawster dod o hyd i staff cymwysedig a fyddai'n gweithio dros gyfnod yr haf oedd y rhwystr mwyaf cyffredin i ddarparu gwasanaethau blwyddyn ysgol estynedig i fyfyrwyr ag ADY. Roedd yn ymddangos bod hyn yn fwy o broblem mewn ardaloedd gwledig. Rhwystrau eraill a nodwyd gan gyfarwyddwyr oedd asesu cymhwysedd myfyrwyr i gael gwasanaethau blwyddyn ysgol estynedig, diffyg cefnogaeth rhieni, a diffyg adnoddau ariannol. Nododd cyfarwyddwyr mewn ardaloedd gwledig lawer mwy o rwystrau na chyfarwyddwyr mewn ardaloedd nad oeddent yn wledig.

Ystyriodd astudiaeth arall effaith yr heriau o ran asesu cymhwysedd myfyrwyr ag ADY i gael gwasanaethau blwyddyn ysgol estynedig. Roedd y dadansoddiad yn awgrymu bod y ffordd yr oedd cymhwysedd yn cael ei benderfynu yn atal myfyrwyr ag ADY rhag gallu manteisio ar ddarpariaeth blwyddyn ysgol estynedig briodol.

Roedd effeithiau'r elfennau a gofnodwyd o ran rhwystro a hwyluso yn amrywio ar draws yr astudiaethau; nid oedd pob ymchwilydd yn manylu'n benodol ar effeithiau'r elfennau hyn.

Beth yw natur y gweithgareddau a ddarperir mewn calendrau amgen, y tu hwnt i addysgu yn y dosbarth? Beth yw'r cydbwysedd rhwng addysgu yn y dosbarth, gweithgareddau cymorth dysgu, hyfforddiant unigol, gweithgarwch corfforol a gweithgarwch creadigol/diwylliannol mewn calendrau amgen, a beth yw effeithiau'r gweithgareddau hyn? Pwy sy'n eu darparu?

Nid oedd y rhan fwyaf o'r astudiaethau a gynhwyswyd yn yr adolygiad hwn yn ystyried cynnwys na natur y gweithgareddau a ddarparwyd gan ysgolion a oedd wedi mabwysiadu calendrau addysg gydol y flwyddyn, na phwy ddarparodd y gweithgareddau hyn.

Trafododd rhai ymchwilwyr gynnwys a natur y gweithgareddau yr ymgymerodd myfyrwyr â nhw wrth fynychu darpariaeth gwyliau haf. Nododd ymchwilwyr tair astudiaeth fod y myfyrwyr yn cael cyfarwyddyd mewn llythrennedd (neu gelfyddyd iaith) a rhifedd bob dydd yn ystod y ddarpariaeth, a'u bod yn treulio rhwng tua 150 munud a hanner diwrnod yn astudio'r pynciau hyn. Nododd ymchwilwyr y tair astudiaeth fod y rhaglenni a ddilynwyd hefyd yn cynnwys gweithgareddau cyfoethogi. Roedd astudiaethau eraill a werthusodd raglenni gwyliau haf yn rhoi rhywfaint o fanylion am y mathau o weithgareddau a gynigiwyd yn ystod y ddarpariaeth.

Nid oedd yr astudiaethau a gynhwyswyd yn yr adolygiad hwn yn ystyried yn benodol effeithiau'r cydbwysedd rhwng gwahanol fathau o gynnwys, a sut y dyrannwyd cynnwys o fewn darpariaeth gwyliau haf. Fodd bynnag, roedd rhai astudiaethau yn ystyried effeithiau mathau penodol o gynnwys ar y plant a fynychodd y ddarpariaeth. Nododd un adroddiad a oedd yn crynhoi'r dystiolaeth a oedd ar gael ar ysgolion haf, er mwyn i ysgol haf gael effaith gadarnhaol ar gyrhaeddiad academaidd myfyrwyr (gan gynnwys myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig), fod yn rhaid iddi gynnwys elfen academaidd. Yn ogystal, canfu astudiaeth a oedd yn edrych ar effeithiau rhaglen haf yng Nghymru fod staff y rhaglen, y rhieni a/neu’r plant o’r farn bod nifer o elfennau penodol o'r rhaglen wedi cael effaith gadarnhaol ar y plant a fynychodd, megis lefelau lles gwell a llai o straen teuluol.

Trafododd rhai ymchwilwyr pwy oedd yn gyfrifol am gyflwyno darpariaeth gwyliau haf. Fodd bynnag, nid oedd y rhan fwyaf o astudiaethau yn ystyried yn benodol sut y gallai'r personél sy'n gyfrifol am gyflwyno darpariaeth gwyliau haf ddylanwadu ar ei heffeithiolrwydd. Nododd un adroddiad, a oedd yn crynhoi'r dystiolaeth ynghylch ysgolion haf, pan gyflwynwyd ysgolion haf gan athrawon a oedd eisoes yn gyfarwydd i'r myfyrwyr, fod yr ysgolion hyn wedi gweld cynnydd dysgu o ryw bedwar mis ar gyfartaledd, gwerth mis yn fwy nag effaith ysgolion haf ar ddysgu ar gyfartaledd.

Roedd rhai astudiaethau hefyd yn manylu ar y gymhareb myfyrwyr-i-athro a/neu faint dosbarth mewn rhai rhaglenni gwyliau haf. Fodd bynnag, ychydig iawn o astudiaethau a oedd yn manylu ar effeithiau'r gymhareb myfyrwyr-i-athro neu faint grwpiau o ran effeithiolrwydd y ddarpariaeth. Nododd adroddiad a oedd yn crynhoi'r dystiolaeth ynghylch ysgolion haf fod y rhai a oedd yn cynnwys addysgu mewn grwpiau bach neu ar sail un i un yn tueddu i weld effeithiau mwy ar gyfartaledd, ac er mwyn i blant difreintiedig elwa o ysgol haf, y byddai angen iddi gynnwys addysgu mewn grwpiau bach neu ar sail un i un.

Ni chanfu'r adolygiad hwn unrhyw astudiaethau a oedd yn ystyried cynnwys na natur y gweithgareddau a gyflwynwyd yn ystod blynyddoedd ysgol estynedig, na phwy ddarparodd y cynnwys a/neu’r gweithgareddau yn ystod blynyddoedd ysgol estynedig.

Argymhellion

Oherwydd natur gymysg ac amhendant y dystiolaeth a nodwyd yn yr adolygiad hwn, argymhellir y dylai unrhyw raglen arfaethedig i newid y calendr ysgolion yng Nghymru gynnwys proses drylwyr o gasglu tystiolaeth o ansawdd, ar bob cam, o gynllunio ac ymgynghori i’r gwaith o osod sail resymegol glir ac asesu’r gweithredu a’r effaith.

Argymhellir ymgysylltu ac ymgynghori’n llawn ac yn drylwyr. Bydd hyn yn caniatáu i'r ystod eang iawn o grwpiau yr effeithir arnynt gan y newidiadau hyn dynnu sylw at yr effeithiau posibl, bydd yn datgelu effeithiau na ragwelir gan lunwyr y polisi, a bydd yn helpu i sicrhau bod gweithgarwch monitro a gwerthuso cadarn yn archwilio'r hyn sy'n bwysig i'r grwpiau hyn. Dylai fod yn flaenoriaeth i geisio barn grwpiau nad ydynt fel arfer yn cymryd rhan yn y math hwn o weithgaredd.

Argymhellir nodi'n glir y rhesymu a'r rhesymeg y tu ôl i unrhyw newidiadau arfaethedig i'r flwyddyn ysgol. Dylai hyn gynnwys manylion y canlyniadau a ragwelir, gan gynnwys manteision megis cynnydd, cyrhaeddiad a iechyd a lles dysgwyr; iechyd a lles ymarferwyr, llwyth gwaith a bywyd teuluol; a'r economi. Dylid hefyd ystyried yn benodol a disgrifio’n glir sut a phryd y disgwylir i'r canlyniadau a'r manteision hyn amlygu eu hunain, a sut y cânt eu gwerthuso.

Argymhellir rhaglen werthuso sy'n ceisio sefydlu llinellau sylfaen mewn perthynas â'r ffactorau y bydd newidiadau yn effeithio arnynt, a chynnwys gweithdrefnau i fonitro a gwerthuso'r ffactorau hyn er mwyn deall eu heffeithiau'n hyderus. Nid oedd unrhyw dystiolaeth ddibynadwy ar gael ynghylch effeithiau newidiadau i’r calendr ysgolion ar grwpiau/meysydd o ddiddordeb allweddol, megis darparwyr gofal plant, darparu gofal bob pen i’r diwrnod, darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn addysg, a myfyrwyr Cymraeg eu hiaith. Yn ogystal, prin oedd y dystiolaeth mewn perthynas â nifer o faterion, fel yr amlinellir yn y prif ganfyddiadau. Dylai effeithiau diwygiadau ar y grwpiau/meysydd hyn fod yn gonsyrn allweddol.

Yn olaf, gan i’r adolygiad hwn ganfod nad yw llawer o erthyglau a gyhoeddwyd yn cynnwys manylion penodol am weithredu, argymhellir bod llunwyr y polisi yn ystyried p’un a fyddai swyddogion sydd wedi diwygio yn y maes hwn yn barod i ddarparu mwy o wybodaeth yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru.

Manylion cyswllt

Awdur yr Adroddiad: Siân Hughes

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Gangen Ymchwil Ysgolion
E-bost: ymchwilysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Rhif ymchwil cymdeithasol: 5/2022
ISBN digidol: 978-1-80391-562-3

Image
GSR logo