Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno casgliadau dadansoddiad o effaith maint y chweched dosbarth ar gyrhaeddiad addysgol disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 5.

Canfu’r dadansoddiad fod graddau’r effaith a nodir ar berfformiad addysgol yn y chweched dosbarth yn amrywio yn ôl y dull a ddefnyddir o fesur perfformiad, hy Sgoriau Pwyntiau Safon Uwch, graddau A*i C Safon Uwch, neu raddau A* i A Safon Uwch. 

Yn sgil dadansoddiad atchweliad, ni chanfuwyd tystiolaeth gadarn bod sgoriau pwyntiau Safon Uwch yn lleihau nac yn cynyddu o ganlyniad i ddosbarth mwy o faint. Astudiwyd lleoliadau chweched dosbarth o bob maint yng Nghymru, gan ddefnyddio llawer o ddulliau asesu. Diffiniwyd chweched dosbarth fel cyfanswm disgyblion Blwyddyn 12, Blwyddyn 13 a Blwyddyn 14.

Mae’r un peth yn wir ar gyfer tri gradd A* i C Safon Uwch; pan fydd niferoedd Blwyddyn 12 yr un fath â niferoedd Blwyddyn 13, nid yw maint y chweched dosbarth yn effeithio ar berfformiad y disgyblion.

Fodd bynnag, yn achos canlyniadau A* i A Safon Uwch, o astudio lleoliadau chweched dosbarth o bob maint yng Nghymru ar hyn o bryd, mae’n ymddangos bod chweched dosbarth mwy o faint yn fanteisiol. Mae’r tebygolrwydd y bydd disgybl yn cyrraedd y graddau hyn yn dyblu fwy neu lai rhwng chweched dosbarth o ryw 100 (tebygolrwydd o 5%) i 500 (tebygolrwydd o 11%). Y nifer uchaf yn y gyfres ddata o ddosbarthiadau oedd 492 o ddisgyblion, a’r nifer cyfartalog oedd 226 o ddisgyblion. Dylid nodi mai arbrawf yw’r dull hwn o fesur cyrhaeddiad, a’r dangosydd tri gradd A* i C, gan eu bod yn dal i gael eu datblygu’n fewnol gan Lywodraeth Cymru, ac nad ydynt yn cael eu defnyddio gan ysgolion ar hyn o bryd.

Adroddiadau

Effaith maint y chweched dosbarth ar gyrhaeddiad addysgol disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 5 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Effaith maint y chweched dosbarth ar gyrhaeddiad addysgol disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 5: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 403 KB

PDF
403 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Faye Gracey

Rhif ffôn: 0300 025 7459

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.