Crynodeb o’r dystiolaeth o effeithiolrwydd ac effaith gwasanaethau cwnsela statudol ysgolion a chymunedau ar gyfer plant a phobl ifanc.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae’r dystiolaeth ymchwil yn awgrymu’n gyffredinol bod gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion ac yn y gymuned yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc. Mae’r casgliad hwn yn betrus o ystyried bod astudiaethau yn y llenyddiaeth ymchwil sydd â chynlluniau ymchwil cryfach wedi nodi llai o effeithiau cadarnhaol neu ddim effaith o gwbl gan wasanaethau cwnsela ac ni chafodd effeithiau cadarnhaol eu cynnal yn gyson wrth ddilyn i fyny. Hefyd, tra bo gwasanaethau cwnsela yn gysylltiedig â gwell sgoriau o ran llesiant seicolegol yn dilyn cyfnod o gwnsela, dylem fod yn ofalus wrth edrych ar y canfyddiadau hyn:
- Nid yw cysylltiad o reidrwydd yn dangos bod cwnsela wedi achosi’r gostyngiadau hyn mewn trallod seicolegol, oherwydd gallai ffactorau eraill fod wedi cyfrannu at hyn;
- Nid oedd yn bosibl asesu a oedd y gwelliant yn y sgoriau cyn ac ar ôl cwnsela yn ddigon mawr i gael ei ystyried yn glinigol real ac ystyrlon;
- Gall fod gwahaniaethau hefyd yn y ffordd y mae awdurdodau lleol yn defnyddio ac yn casglu sgoriau YP-CORE, a allai effeithio ar ddibynadwyedd y data.
Ni ddaeth unrhyw dystiolaeth i'r amlwg a oedd yn dangos effeithiau niweidiol gwasanaethau cwnsela.
Roedd profiadau rhanddeiliaid, gan gynnwys cyfweliadau â staff ysgol, rhieni, a phobl ifanc, yn gadarnhaol mewn perthynas ag effaith gwasanaethau cwnsela, er iddynt gydnabod yr amrywiaeth yn ansawdd y gwasanaethau ac felly eu heffeithiolrwydd.
Prin oedd y dystiolaeth i gefnogi dull penodol o gwnsela neu i ddeall effaith gwasanaethau cwnsela ar ganlyniadau plant a phobl ifanc y tu hwnt i iechyd meddwl a llesiant.
Mae mwy a mwy o alw am wasanaethau cwnsela i blant a phobl ifanc ac mae arweinwyr ysgolion ac ymarferwyr yn pryderu ynghylch pa mor ddigonol yw’r darpariaethau cwnsela sydd ar gael i gefnogi’r lefel hon o alw. Cyn y pandemig COVID-19, er bod y defnydd o ddarpariaeth gwnsela a chyfraddau atgyfeirio at CAMHS arbenigol wedi aros yn gymharol sefydlog, roedd cyfran uwch o blant a phobl ifanc yn ymgysylltu â gwasanaethau cwnsela am gyfnod hwy. Fodd bynnag, ers y pandemig, bu cynnydd amlwg yn y defnydd cyffredinol o wasanaethau cwnsela gan blant a phobl ifanc, yn ogystal â’r rhai sy’n cael cyfnodau lluosog o gwnsela.
Mae merched wedi defnyddio gwasanaethau cwnsela yn gyson yn fwy na bechgyn, gyda bwlch cynyddol rhwng y rhywiau yn y blynyddoedd diwethaf. Mae canran ychydig yn uwch o ferched yn cael sesiynau cwnsela lluosog ac yn cael eu hatgyfeirio at CAMHS arbenigol o gymharu â bechgyn. Mae hyn yn awgrymu bod mwy o alw am gymorth cwnsela ymhlith merched.
Roedd hefyd yn nodedig mai gorbryder oedd y mater mwyaf cyffredin o bell ffordd i blant a phobl ifanc ac mae ei amlder wedi cynyddu bron bob blwyddyn.
Adroddiadau
Bwletin ymchwil: effaith gwasanaethau cwnsela statudol mewn ysgolion ac yn y gymuned i blant a phobl ifanc , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 858 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.