Effaith gwarchod ar unigolion agored i niwed: asesiad o’r effaith ar hawliau plant
Crynodeb o effaith gwarchod ar y grŵp eithriadol o agored i niwed yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc
Ystyriwyd yr effeithiau y gall y cynigion ar gyfer Gwarchod Unigolion eu cael ar blant a phobl ifanc.
Mae’r rhestr o unigolion yn y grŵp a warchodir yn cynnwys plant a phobl ifanc. Mae plant a gynghorir i warchod eu hunain yn cael cynnig yr un cymorth a gwasanaethau ag oedolion a warchodir. Gallai rhiant neu warcheidwad ddefnyddio’r slotiau cyflenwi â blaenoriaeth i dderbyn bwyd. Yn yr un modd gall rhiant ofyn am focs bwyd ar ran plentyn a warchodir os nad oes ganddynt fath arall o gymorth / modd o gael bwyd, h.y. ar yr un telerau ag oedolion
Mewn achosion lle cynghorir i riant warchod ei hun, byddai’r rhiant hwnnw yn cael hawlio bocs bwyd a fyddai’n cynnwys digon o fwyd i’r unigolyn hwnnw yn unig. Yn yr un modd gellid defnyddio slot cyflenwi bwyd â blaenoriaeth os yw’r rhiant yn methu cael bwyd i’r plant. Fel arall efallai y gall awdurdodau lleol fod o gymorth yn yr achosion hyn, drwy ddefnyddio gwirfoddolwyr a allai siopa ar eu rhan gan ddefnyddio talebau siopa. I’r rhai sy’n cael trafferth fforddio bwyd, mae cymorth banciau bwyd ar gael.
Gall effaith gwarchod gael ei dwysáu os yw’r plentyn neu’r unigolyn ifanc yn perthyn i deulu sy’n cynnwys aelodau eraill sydd wedi cael cyngor i warchod. Gall plant sy’n byw mewn tlodi ac sy’n anabl ddioddef effeithiau niweidiol ychwanegol ffactorau eraill sy’n gysylltiedig â’r Pandemig. Mae hefyd nifer fawr o blant a phobl ifanc ar y Rhestr o’r Cleifion a Warchodir.
Ni ddisgwylir i gyfarwyddiadau’r Pandemig a Gwarchod gael effaith niweidiol ar blant sy’n byw ar aelwyd Gymraeg neu sydd mewn Addysg Gymraeg gan fod Llywodraeth Cymru wedi’i rhwymo’n statudol i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Darparwyd canllawiau a llythyrau dwyieithog.
Nid oedd y bwyd i gyd yn y bocsys bwyd yn addas i blant ifanc iawn. Gan fod y cynllun wedi ei sefydlu fel ymateb brys yn gyflym iawn, nid oedd modd diwallu’r gwahanol anghenion deietegol. Adolygwyd hyn yn rheolaidd a cheir rhagor o fanylion ym mocs bwyd IIA.
Eglurwch sut y mae’r cynnig yn debygol o effeithio ar hawliau plant
Mae angen asesiad ar yr adran hon, gan ddefnyddio dyfarniad ar sail gwybodaeth, o effaith debygol y cynnig ar hawliau CCUHP y plant. Mae’n hanfodol eich bod yn osgoi rhagdybio bod y canlyniadau a fwriadwyd ac a nodwyd uchod yr un fath â’r effaith ar hawliau plant a ragfynegwyd.
Bydd yn rhaid ichi ystyried yn ofalus beth yw’r berthynas rhwng y canlyniadau a fwriadwyd a hawliau plant a pha effaith a gânt. Efallai y ceir effeithiau a ragfynegwyd nad ydynt yn ganlyniadau a fwriadwyd o’r cynnig.
Dylech:
- Nodi pa erthyglau CCUHP yw’r rhai mwyaf perthnasol i’r cynnig.
- Egluro os, ac os felly – sut y mae’r cynnig yn sicrhau’r manteision gorau, yn cefnogi neu’n hyrwyddo hawliau CCUHP plant, gan wneud cysylltiadau rhwng y canlyniadau a nodwyd yng nghwestiwn 1 a’r hawliau yr ydych wedi’u nodi.
- Cofio bod hyrwyddo hawliau plant yn cynnwys: gwella cyfleoedd plant i sicrhau eu hawliau, neu i gael gwasanaethau a/neu adnoddau sy’n sicrhau eu hawliau, neu alluogi plant i gyfranogi a manteisio ar eu hawliau. Dylech hefyd egluro sut y mae’r cynnig yn cyflawni’r amcanion hyn, os o gwbl.
- Egluro unrhyw effaith negyddol ar hawliau plant sy’n deillio o’r cynnig, gan gynnwys unrhyw ostyngiad mewn adnoddau sydd ar gael i gefnogi polisïau neu raglenni.
- Wrth ystyried pob un o’r uchod, sicrhau eich bod yn rhoi ystyriaeth i sut y bydd y cynnig yn effeithio ar hawliau gwahanol grwpiau o blant (e.e. plant sy’n byw mewn tlodi, plant anabl ac ati).
- Cyfeirio at unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth sydd wedi llywio eich asesiad, yn cynnwys rhai gan blant neu eu cynrychiolwyr.
Disgwylir i effaith y rhaglen warchod fod yn gadarnhaol yn yr ystyr y byddant/bydd eu teuluoedd yn ei chael hi’n haws cael gafael ar fwyd, meddyginiaethau, cefnogaeth gymdeithasol/emosiynol a chefnogaeth arall. Heb hyn gallai iechyd meddwl a chorfforol a llesiant plant a warchodir ddioddef effeithiau niweidiol sylweddol.
Cydnabyddir y gall methu â diwallu anghenion deietegol rhai plant a phobl ifanc fod wedi cael effaith negyddol. Gan fod y cynllun bocsys bwyd wedi ei sefydlu ar garlam ac ar raddfa sylweddol, nid oedd yn bosibl diwallu gwahanol anghenion deietegol (gweler bocs bwyd IIA).