Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol: Deddf Cydraddoldeb, 2010

Pan gafodd Deddf Cydraddoldeb 2010 ei deddfu, roedd y Ddyletswydd yn segur ar y llyfr statud, gan fod Llywodraeth y DU wedi dewis peidio â’i dechrau. Roedd Deddf Cymru 2017 yn deddfu ar gyfer model newydd o ddatganoli yng Nghymru, a oedd yn cynnwys y pŵer i Weinidogion Cymru ddechrau’r Ddyletswydd yng Nghymru.

Mae Adran 45 o Ddeddf Cymru 2017, yn diwygio Rhan 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i gyflawni hyn. Mae Gweinidogion Cymru wedi defnyddio’r pŵer hwn i ddechrau Adrannau 1 i 3 o Ddeddf 2010 yng Nghymru y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol.

Adran 1: Pa gamau gweithredu y mar Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Mae’n nodi’r Ddyletswydd ei hun, sy’n mynnu bod cyrff cyhoeddus, y mae’r ddyletswydd yn berthnasol iddynt:

Wrth wneud penderfyniadau strategol ynghylch sut byddant yn cyflawni eu swyddogaethau, yn ystyried pa mor briodol yw eu harfer mewn ffordd sydd wedi cael ei dylunio i leihau anghydraddoldebau canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol.

Mae’n rhestru’r cyrff a ddaw dan y Ddyletswydd, a gofyniad sy’n golygu, wrth benderfynu sut i gyflawni’r Ddyletswydd, bod yn rhaid i’r cyrff cyhoeddus yng Nghymru y mae’r ddyletswydd yn berthnasol iddynt ystyried canllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.

Adran 2

Mae’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru lunio rheoliadau i ddiwygio adran 1(3) o Ddeddf 2010. Mae hyn yn cynnwys y pŵer i ychwanegu cyrff cyhoeddus yng Nghymru y bydd y Ddyletswydd yn berthnasol iddynt.

Adran 3

Mae’n egluro na fydd y Ddyletswydd yn creu unrhyw hawliau traddodadwy newydd i unigolion.

Yn gryno, mae’r Ddyletswydd yn rhoi cyfrifoldeb cyfreithiol ar gyrff pan fyddant yn gwneud penderfyniadau strategol i roi sylw dyledus i’r angen i leihau’r anghydraddoldebau canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol.

Mae’r wybodaeth uchod yn egluro’r gallu i wneud newidiadau o ganlyniad i’r asesiad effaith hwn.

Y Mater a’r sail resymegol ar gyfer y Ddyletswydd

Mae nodweddion anfantais economaidd-gymdeithasol yn gymhleth ac yn aml yn gysylltiedig â’i gilydd. Er enghraifft, mae canlyniadau iechyd yn mynd yn waeth ac yn waeth ar draws y graddiant economaidd-gymdeithasol; mae dim cyfoeth i lefel isel o gyfoeth yn golygu nad oes gan aelwydydd unrhyw fynediad llawer o fynediad at nwyddau a gwasanaethau sylfaenol fel trafnidiaeth, addysg a gwasanaethau gofal iechyd; diffyg symudedd cymdeithasol o ran addysg uwch a rhagolygon gyrfa; ac mae rhai unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig yn wynebu gwahaniaethu.

Roedd 23% o’r holl bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol rhwng 2016 i 2017 a 2018 i 2019. Mae’r ffigur hwn wedi aros yn eithaf sefydlog dros yr 16 cyfnod amser diwethaf. Mae’r ffigur o 23% fymryn yn is na ffigur y llynedd. Plant oedd y grŵp oedran mwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol (ar 28%), ac mae hyn yn wir ers cryn amser.

Mae ansicrwydd enfawr o hyd o ganlyniad i’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn enwedig o ran hawliau dynol a chydraddoldeb. Mae bod yn aelod o’r UE ers degawdau wedi esgor ar fanteision lu sy’n cyffwrdd â nifer o agweddau ar fywyd bob dydd yng Nghymru, er enghraifft hawliau cyflogaeth ac amgylcheddol, a rheoliadau iechyd a diogelwch.

Hefyd, mae'r anghydraddoldebau presennol yng Nghymru yn cynyddu oherwydd COVID-19. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod cysylltiad pendant rhwng anghydraddoldeb ac anfantais economaidd-gymdeithasol (rydym yn defnyddio’r term anfantais economaidd-gymdeithasol i olygu byw mewn amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd llai ffafriol na phobl eraill yn yr un gymdeithas).

Mae COVID-19 wedi dod â heriau enfawr i’n cymunedau. Mae wedi dod yn amlwg y bu mwy o effaith ar rai grwpiau nag eraill er enghraifft, cymunedau lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, menywod a phobl ifanc. Yn ei adroddiad diweddaraf am gyflwr y wlad, Tlodi yng Nghymru 2020, mae Sefydliad Joseph Rowntree yn dweud y canlynol:

Cyn y coronafeirws, roedd bron i chwarter pobl Cymru yn byw mewn tlodi. Ar ôl degawd o ddiffyg cynnydd cyson, heb unrhyw newid bron yn y gyfran honno, mae Cymru nawr yn wynebu cynnydd mewn lefelau tlodi wrth i’r dirwasgiad yn sgil Covid gyflymu. Mae’r pandemig wedi cael effaith fawr ar weithwyr yng Nghymru sy’n cael cyflog isel mewn diwydiannau sydd â chyfran fawr o swyddi sy’n talu cyflog isel, fel y sector Llety, Bwyd a Diod, mae 78% o swyddi wedi cael eu rhoi ar ffyrlo. Yr un sectorau hynny sydd fwyaf tebygol o weld swyddi’n diflannu ar raddfa eang, ac mewn rhai ardaloedd mae dros 40% o'r swyddi yn y diwydiannau risg uchel hyn, sy’n talu cyflogau isel.

Bydd effaith cau ysgolion ar addysg plant, ac effeithiau’r dirwasgiad dyfnaf mewn hanes ar ragolygon swyddi a chyflog i bobl ifanc sy’n ymuno â’r farchnad lafur eleni yn siŵr o fod yn niweidiol, yn hirdymor ac yn fwy dwys o lawer i’r rheini sydd eisoes yn wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol, hy, mae gweithwyr ar gyflogau is dair gwaith yn fwy tebygol o fod wedi colli eu swydd neu wedi cael eu rhoi ar ffyrlo na gweithwyr ar gyflogau uchel, a ddwywaith yn fwy tebygol o fod mewn swydd sy’n golygu eu bod yn dod ar draws peryglon iechyd.

Bydd cychwyn y Ddyletswydd yn gam allweddol i gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, ac yn rhywbeth pwysig dros ben wrth i ni barhau i ymateb i COVID-19, a fydd yn ein galluogi i symud tuag at ailadeiladu Cymru decach a mwy ffyniannus.

Y Camau

Drwy gychwyn y Ddyletswydd, bydd newidiadau’n cael eu cyflwyno a fydd yn:

  • mynnu bod cyrff cyhoeddus perthnasol, wrth wneud penderfyniadau strategol, yn ystyried yr angen i leihau'r anghydraddoldebau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol
  • cefnogi camau ehangach i ddiogelu hawliau dynol a chydraddoldeb
  • ategu ac yn cyd-fynd â deddfwriaethau presennol sy’n ceisio gwella cydraddoldeb yng Nghymru, gan gynnwys Deddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Drwy wella’r ffordd mae penderfyniadau’n cael eu gwneud, nod cyffredinol y Ddyletswydd yw gwella canlyniadau i’r rheini sy’n dioddef anfantais economaidd-gymdeithasol.

Bydd cychwyn y Ddyletswydd yn mynnu bod Gweinidogion Cymru yn cychwyn Rhan 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac yn gwneud rheoliadau o dan Adran 2(4) o i restru’r cyrff cyhoeddus perthnasol y bydd y Ddyletswydd yn berthnasol iddynt yng Nghymru.

Dyma rai o’r cyrff cyhoeddus perthnasol sydd wedi’u cynnwys yn y Ddyletswydd:

  • Gweinidogion Cymru
  • Byrddau Iechyd Lleol
  • Ymddiriedolaethau’r GIG
  • Awdurdodau Iechyd Arbennig (sy’n gweithredu yng Nghymru yn unig)
  • Unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol
  • Awdurdod Cyllid Cymru
  • Awdurdodau Tân ac Achub
  • Awdurdodau Parciau Cenedlaethol

Defnyddio’r pum ffordd o weithio

Ni fydd cychwyn y Ddyletswydd yn disodli nac yn cystadlu â dyletswyddau eraill fel Deddf Cydraddoldeb 2010, Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a’r Ddyletswydd Llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Ein bwriad yw y bydd cychwyn y Ddyletswydd yn ategu’r dyletswyddau hyn drwy gyfrannu ymhellach at nodau llesiant hirdymor Cymru, yn enwedig “Cymru sy’n fwy cyfartal” a “Cymru o gymunedau cydlynus”. Bydd hyn yn cryfhau trefniadau partneriaethau cymdeithasol ymhellach ac yn hybu uchelgeisiau gwaith teg.

Y nod felly yw y bydd y Ddyletswydd yn fecanwaith allweddol arall i gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, drwy fynnu bod cyrff cyhoeddus yn gwneud penderfyniadau gwell, lle mae ystyried anghydraddoldeb canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol yn rhan gwbl ganolog o’r penderfyniad.

Mae’r saith nod llesiant a’r pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, wedi cael eu dylunio i gefnogi ac i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus sy’n diwallu anghenion y presennol, heb amharu ar allu cenedlaethau’r dyfodol. Mae’n gwneud i’r 44 corff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf feddwl mwy am yr hirdymor, gan atal problemau rhag digwydd neu waethygu drwy gynnwys pobl a gweithio mewn ffordd sy’n fwy cydgysylltiedig. Mae egwyddorion y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn cefnogi hyn drwy osod gofyniad ar y cyrff hynny sydd wedi’u cynnwys yn y Ddyletswydd i roi ‘sylw dyledus’ wrth wneud penderfyniadau strategol i'r angen i leihau anghydraddoldebau canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol.

Sicrhau bod y Ddyletswydd yn cyd-fynd â'r egwyddor datblygu cynaliadwy

Atal

Bydd y Ddyletswydd yn atal anghydraddoldeb canlyniadau, sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol, rhag cynyddu. Mae’n ofynnol i’r cyrff cyhoeddus hynny sydd wedi’u cynnwys yn y Ddyletswydd roi sylw dyledus i’r angen i leihau anghydraddoldebau canlyniadau wrth wneud penderfyniadau strategol. Anghydraddoldebau fel dirywiad mewn iechyd, lefelau cyrhaeddiad addysgol, potensial i ennill arian, ansawdd tai, a mynediad at wasanaethau.

Hirdymor

Mae’r canllawiau’n argymell bod cyrff cyhoeddus yn ystyried y dystiolaeth yn llawn er mwyn deall effaith eu penderfyniadau, gan gynnwys gwybodaeth am dueddiadau yn y dyfodol. Bydd effeithiau’r Ddyletswydd i leihau anghydraddoldebau canlyniadau yn cael eu cyflawni yn yr hirdymor, gan gyfrannu at Gymru fwy cyfartal i genedlaethau’r dyfodol.

Cyfranogiad

Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol ddechrau 2020, ynghyd â digwyddiadau ymgysylltu rhyngweithiol â rhanddeiliaid. Mae grŵp arweiniad wedi cael ei gynnull, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r cyrff hynny sydd wedi’u cynnwys yn y ddyletswydd, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a’r Trydydd Sector. Mae’r grŵp yn cyfrannu at ddogfennau canllawiau a deunyddiau cymorth.

Mae’r canllawiau’n argymell bod cyrff cyhoeddus yn deall effaith eu penderfyniadau, gan gymryd camau i sicrhau llai o anghydraddoldeb. Dylai hyn olygu ymgysylltu â’r cymunedau a’r bobl hynny y bydd y penderfyniad yn effeithio arnynt.

Cydweithio

Drwy gydweithio â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Swyddfa Cenedlaethau’r Dyfodol, mae canllaw mapio wedi cael ei baratoi i helpu cyrff cyhoeddus i ystyried cyfleoedd i ddefnyddio’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol, Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a dyletswyddau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol mewn ffordd gyson, gan leihau’r baich a manteisio ar gyfleoedd i ystyried anfantais economaidd-gymdeithasol yn y prosesau presennol. Bydd bwrw ymlaen â dull gweithredu mwy integredig yn y pen draw yn gwella sut mae sefydliad yn ystyried cydraddoldeb. Drwy wneud hyn, bydd cyrff cyhoeddus perthnasol yn deall effaith eu penderfyniadau’n well, gan gynyddu eu cyfraniad at fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ehangach ac, o’r herwydd, nodau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, gan helpu i ddiwallu eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a chyfraith hawliau dynol ryngwladol.

Integreiddio

Ni fydd y Ddyletswydd yn disodli nac yn cystadlu â dyletswyddau eraill fel Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, deddfwriaeth tlodi plant na'r Ddyletswydd Llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Bwriedir iddi ategu’r dyletswyddau hyn drwy gyfrannu ymhellach at nodau llesiant hirdymor Cymru. Y nod felly yw y bydd y Ddyletswydd yn fecanwaith arall i gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, drwy fynnu bod cyrff cyhoeddus yn gwneud penderfyniadau gwell, lle mae ystyried anghydraddoldeb canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol yn rhan gwbl ganolog o’r penderfyniad.

Mae’r canllawiau’n argymell bod cyrff cyhoeddus, er mwyn bodloni gofynion y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol, yn defnyddio’r prosesau presennol sydd wedi’u sefydlu ar gyfer dyletswyddau eraill, fel asesiadau effaith, defnyddio’r pum ffordd o weithio, ymgysylltu’n well a chasglu gwybodaeth.

Adran 3.1 Beth fydd yr effaith ar lesiant diwylliannol a'r gymraeg?

3.1 Llesiant Diwylliannol

O ran y nod yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i greu ‘Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden.’ Mae diwylliant yn cynnwys amgueddfeydd, archifdai, llyfrgelloedd a’r celfyddydau. Mae treftadaeth yn cynnwys yr amgylchedd hanesyddol adeiledig yn ogystal â threftadaeth anniriaethol fel traddodiadau; mae’r celfyddydau yn cynnwys sectorau creadigol a pherfformio, gan gynnwys cerddoriaeth, llenyddiaeth, theatr a chelfyddyd; ac mae chwaraeon a gweithgareddau hamdden yn cynnwys chwaraeon elît a chymunedol, yn ogystal â chyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden ehangach yn yr awyr agored.

3.1a Sut gall y cynnig gyfrannu at y nod i hyrwyddo a gwarchod diwylliant a threftadaeth, ac i annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, ac mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden? 

Mae cychwyn y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn debygol o gael effaith gadarnhaol ar gymryd rhan mewn gweithgareddau llesiant diwylliannol. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod y bobl hynny sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol yn annhebygol o gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol, ac o gyfranogi yn y celfyddydau ac mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden. Drwy sicrhau bod y cyrff cyhoeddus perthnasol yn ystyried sut gallant leihau amddifadedd cymdeithasol, mae hynny’n debygol o gael effaith gadarnhaol ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol, ynghyd â chynyddu llesiant diwylliannol. Er nad yw cyrff sy’n cynrychioli diwylliant wedi’u rhestru yn y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol fel cyrff perthnasol at ei gilydd, byddant yn cael eu hannog i weithredu’n unol ag ysbryd y Ddyletswydd. Ond bydd gan Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Ddyletswydd i roi’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol ar waith, gan adeiladu ar eu dyletswydd i hybu llesiant cymdeithasol sydd, ar hyn o bryd, yn dod o dan adran 11A o Ddeddf 1949, a fewnosodwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 a.62. Mae hyn yn mynnu bod Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn ceisio meithrin llesiant economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol yn y Parc Cenedlaethol, ond heb achosi gwariant sylweddol wrth wneud hynny, ac yn cydweithio ag awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus y mae eu swyddogaethau’n cynnwys hybu datblygiad economaidd neu gymdeithasol yn ardal y Parc Cenedlaethol. Mae Awdurdodau Lleol wedi'u cynnwys yn y Ddyletswydd, ac er nad yw diwylliant yn cael ei ystyried yn swyddogaeth statudol o bosibl, mae llawer o awdurdodau lleol yn cyflawni swyddogaethau o’r fath. Felly, bydd y Ddyletswydd yn berthnasol i benderfyniadau strategol fel hyn.

3.1b A yw’n bosibl y gallai’r cynnig gael effaith negyddol ar hyrwyddo a gwarchod diwylliant a threftadaeth, neu ar allu pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, ac mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden?  Os felly, pa gamau y gallwch chi eu cymryd i osgoi neu leihau’r effaith honno (er enghraifft, drwy ddarparu cyfleoedd eraill)?

Nid yw cychwyn y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn debygol o gael effaith negyddol ar hyrwyddo na gwarchod diwylliant a threftadaeth, na’r gallu i gyfranogi yn y celfyddydau, ac mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden.

Adran 7 Casgliad

7.1 Sut mae’r bobl sydd fwyaf tebygol o deimlo effeithiau’r cynnig wedi bod yn rhan o’r gwaith o’i ddatblygu?

Cafodd ymgynghoriad ar gychwyn y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol ei lansio ar 22 Tachwedd 2019, a daeth i ben ar 17 Ionawr 2020. Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio cael barn rhanddeiliaid allweddol ynghylch pa gyrff cyhoeddus ddylai gael eu cynnwys yn y Ddyletswydd, a sut mae’r Ddyletswydd yn cael ei chyflawni.

Cynhaliwyd chwe digwyddiad ymgynghori ledled Cymru rhwng 12 Rhagfyr a 14 Ionawr, gyda 140 o bobl yn bresennol.

Cafwyd cyfanswm o 98 o ymatebion i’r ymgynghoriad:

  • roedd 63 o sefydliadau wedi ymateb drwy lenwi’r ffurflen ymateb
  • daeth 35 o ymatebion drwy’r porth ar-lein, ac 14 ohonynt yn gyflawn a 21 ohonynt wedi cael eu cwblhau’n rhannol
  • ar ben hynny, mae nodiadau a wnaed ym mhob un o’r digwyddiadau ymgynghori â rhanddeiliaid a gynhaliwyd ledled Cymru, lle’r oedd 140 o unigolion yn bresennol, hefyd wedi cael eu cynnwys yn y dadansoddiad

Ar wahân i Awdurdodau Lleol roedd 14 o fudiadau’r trydydd sector, a oedd yn cynrychioli lleisiau pobl, wedi ymateb drwy e-bost, gyda thri ohonynt yn cynrychioli plant yn benodol, dau yn cynrychioli rhywedd, pump yn cynrychioli demograffeg oed benodol a thri yn cynrychioli tlodi. Hefyd, cafwyd ymatebion gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Comisiynydd y Gymraeg a Chomisiynydd Plant Cymru.

Cafodd yr ymgynghoriad lawer o gyhoeddusrwydd drwy arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru, ein rhwydweithiau cydraddoldeb, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, partneriaid yn y trydydd sector, a mudiadau ar lawr gwlad er mwyn sicrhau bod yr ymgynghoriad wedi’i anelu at fwy nad dim ond y cyrff cyhoeddus sydd wedi’u cynnwys yn y Ddyletswydd, a’i fod hefyd wedi’i anelu at aelodau o gymdeithas sydd wedi profi anfantais economaidd-gymdeithasol.

Cafwyd cefnogaeth gadarnhaol i’r cynnig, gyda dros 70% o’r ymatebwyr yn cytuno â’r cynnwys. Cytunwyd y byddai’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn ychwanegu gwerth at y dyletswyddau presennol. Roedd cydgynhyrchu yn thema amlwg, gydag ymatebwyr yn awgrymu y dylai hynny fod wrth galon y Ddyletswydd. Galwodd y sefydliadau am fwy o gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus a mudiadau’r trydydd sector.

Cafodd grŵp arweiniad ei gynnull, ac mae wedi bod yn weithgar drwy gydol oes y prosiect. Mae cynrychiolwyr o’r cyrff hynny sydd wedi’u cynnwys yn y Ddyletswydd, y trydydd sector, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi gweithio gyda’i gilydd i gyfrannu at ganllawiau a deunyddiau cymorth.

7.2 Beth yw’r effeithiau mwyaf arwyddocaol – cadarnhaol a negyddol?

Ochr yn ochr â’r costau a’r manteision a gyflwynir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol drafft, mae nifer o effeithiau posibl eraill wedi cael eu hystyried, ac mae asesiad effaith integredig wedi cael ei gynnal. Ceir crynodeb isod o’r canfyddiadau.

Drwy gychwyn y Ddyletswydd, bydd newidiadau’n cael eu cyflwyno a fydd yn:

  • mynnu bod cyrff cyhoeddus perthnasol, wrth wneud penderfyniadau strategol, yn ystyried yr angen i leihau'r anghydraddoldebau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol
  • cefnogi camau ehangach i ddiogelu hawliau dynol a chydraddoldeb
  • ategu ac yn cyd-fynd â deddfwriaethau presennol sy’n ceisio gwella cydraddoldeb yng Nghymru, gan gynnwys Deddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Drwy wella’r ffordd mae penderfyniadau’n cael eu gwneud, nod cyffredinol y Ddyletswydd yw gwella canlyniadau i’r rheini sy’n dioddef anfantais economaidd-gymdeithasol.

Felly, bydd cychwyn y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn cael effaith sylweddol, gadarnhaol ar bobl ac ar gymunedau. Bydd gwella’r ffordd o wneud penderfyniadau yn gwella canlyniad cyffredinol y rheini sy’n dioddef anfantais economaidd-gymdeithasol, yn gwella lefelau cyrhaeddiad a sgiliau ym myd addysg i bawb, yn lleihau’r siawns o ddioddef trosedd ac yn cynyddu’r disgwyliad oes iach i'r bobl hynny o gymunedau difreintiedig, yn gwella mynediad at wasanaethau ac yn gwella’r gallu i gymryd rhan. Yn y pen draw, bydd yn hybu cadernid a ffyniant ledled Cymru.

Pwrpas y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yw lleihau anghydraddoldebau canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol, felly mae’r Ddyletswydd yn cael yr effaith fwyaf ar y grwpiau hynny sy’n dioddef anfantais economaidd-gymdeithasol. Ni fydd y canllawiau’n nodi anghydraddoldebau sy’n cael blaenoriaeth. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod rhai grwpiau’n fwy tebygol o ddioddef anghydraddoldeb canlyniadau yn sgil anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae tlodi yng Nghymru yn arwain at hyd yn oed mwy o fwlch ym mhrofiadau a chyfleoedd pobl sy’n cael eu geni mewn cefndiroedd economaidd-gymdeithasol gwahanol. Mae ein canfyddiadau’n dangos bod y bwlch hwn wedi ehangu i fenywod, i bobl anabl ac i rai grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn benodol.

Mae Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant wedi dod i’r casgliad nad yw cychwyn y Ddyletswydd yn effeithio’n uniongyrchol ar Erthyglau’r Cenhedloedd Unedig, nac yn cael effaith negyddol ar hawliau plant. Mae’n well mynd i’r afael â chylchoedd tlodi a chyfle / dyhead yn gynharach mewn bywyd. Felly, drwy sicrhau bod cyrff cyhoeddus perthnasol yn ystyried y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau strategol, disgwylir y bydd hawliau plant a’u cyfleoedd mewn bywyd yn gwella.

Mae cysylltiad annatod rhwng cydraddoldeb a gwahaniaethu a hawliau dynol. Mae’n bosibl i anfantais economaidd-gymdeithasol amharu ar allu rhywun i ddefnyddio ac i fwynhau’r hawliau dynol sydd ar gael iddynt yn y DU, drwy gymysgedd o gyfraith ddomestig (Deddf Hawliau Dynol 1998), cyfraith yr UE a ddargedwir a chyfraith hawliau dynol ryngwladol. Mae anfantais o’r fath yn gallu arwain at anghydraddoldebau hirdymor o ran addysg, iechyd, boddhad â bywyd, ffyniant a chymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus. Bydd mynd ati i weithredu’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn y ffordd iawn yn helpu cyrff cyhoeddus i gynyddu eu cyfraniad at fynd i’r afael ag anghydraddoldebau o’r fath, ac yn eu helpu hefyd i ddiwallu eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998, a chyfraith hawliau dynol ryngwladol.

Mae’r canllawiau’n cyflwyno dull gweithredu 5 cam fel enghraifft o sut gallai corff gyflawni’r ddyletswydd yn ymarferol. Mae cam un yn gofyn a yw’r corff wedi ymgysylltu â’r bobl hynny y mae’r penderfyniadau’n effeithio arnynt, ac a yw wedi ystyried nodweddion gwarchodedig, ynghyd â lleoedd a chymunedau buddiant. Mae’r canllawiau’n tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod yr ymrwymiad newydd hwn yn cyd-fynd ac yn gweithredu ochr yn ochr â dyletswyddau statudol eraill, fel y ddyletswydd i fynd i’r afael â thlodi plant, sy’n ofynnol o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Mae'r effaith y byddai cychwyn y Ddyletswydd yn gallu ei chael ar bobl mewn grwpiau gwarchodedig, a’r rheini sy’n byw ar aelwydydd incwm isel, wedi cael ei hystyried drwy Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb. Er y bydd y cynigion o fudd i lesiant poblogaeth Cymru gyfan, daeth yr asesiad i’r casgliad y byddai’r manteision yn effeithio ar unigolion a grwpiau sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae gwahanol raddau o dystiolaeth sy’n dangos bod cydberthynas rhwng nodweddion gwarchodedig a thlodi (rhywedd, hil, anabledd, ffydd a chred, a chyfeiriadedd rhywiol), a bydd y Ddyletswydd yn mynd i’r afael â hyn.

Roedd yr Asesiad o’r Effaith ar Brawfesur Polisïau o safbwynt Anghenion Cefn Gwlad yn ystyried effaith y Ddyletswydd ar gymunedau gwledig, ac ar unigolion sy’n byw yn y cymunedau hynny. Canfu’r Asesiad, at ei gilydd, fod disgwyl i’r cynigion gael effaith gadarnhaol net fach ar bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig. Mae’n debygol bod pobl sydd mewn tlodi mewn ardaloedd trefol ac mewn ardaloedd gwledig yn wynebu prinder adnoddau ariannol, ond mae rhywfaint o dystiolaeth yn awgrymu bod ardaloedd gwledig yn fwy tebygol o brofi ‘amddifadedd o ran cyfleoedd’ (ee, diffyg swyddi a gwasanaethau) ac ‘amddifadedd o ran symudedd’ (ee, mynediad at swyddi a gwasanaethau).

Ni fydd y Ddyletswydd yn mynnu bod y cyrff cyhoeddus perthnasol y bydd y Ddyletswydd yn berthnasol iddynt yn cadw nac yn prosesu unrhyw ddata personol newydd.

Mae’r effaith ar y Gymraeg wedi cael ei hystyried drwy Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg. Ni ddisgwylir y bydd y Ddyletswydd yn cael unrhyw effaith negyddol ar ddefnyddio’r Gymraeg nac ar gymunedau Cymraeg. Gallai’r Ddyletswydd gael effaith gadarnhaol drwy’r canllawiau sy’n awgrymu y dylid ystyried anghydraddoldeb canlyniadau mewn perthynas â lleoedd buddiant, a allai olygu ystyried natur wledig a chymunedau buddiant, a allai olygu ystyried y cymunedau hynny sy’n rhannu iaith gyntaf. Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn ynghylch yr effeithiau y byddai cychwyn y Ddyletswydd yn eu cael ar y Gymraeg. Teimlai nifer o’r ymatebwyr nad oeddent yn gallu gwneud sylwadau manwl ar hynny, oherwydd diffyg tystiolaeth sy’n cysylltu anfantais economaidd-gymdeithasol a mynediad at wasanaethau Cymraeg.

Wrth ystyried effaith y Ddyletswydd ar fioamrywiaeth, newid yn yr hinsawdd ac adnoddau naturiol, daethpwyd i’r casgliad na fyddai llawer o effaith ar y meysydd hyn. Ystyriwyd nad oedd angen Asesiad Amgylcheddol Strategol nac Asesiad o’r Effaith ar Gyllidebau Carbon. Mae’n bosibl y bydd effaith gadarnhaol net ar yr amgylchedd pan fydd ystyriaethau economaidd-gymdeithasol yn cael sylw wrth wneud penderfyniadau strategol. Er enghraifft, mae mynd i’r afael â phroblemau trafnidiaeth lleol sy’n rhwystr i waith yn gallu helpu’r amgylchedd hefyd, drwy gynnig opsiynau eraill yn lle trafnidiaeth breifat ac allyriadau nwyon tŷ gwydr cysylltiedig.

Mae Asesiad o’r Effaith ar Iechyd wedi gwerthuso effeithiau disgwyliedig y Ddyletswydd, ac wedi dod i’r casgliad bod disgwyliad y bydd rhoi anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol wrth galon penderfyniadau cyrff cyhoeddus perthnasol yn arwain at well canlyniadau iechyd i bobl Cymru, ac y bydd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol yn gyffredinol tuag at leihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Er bod nodweddion anfantais economaidd-gymdeithasol yn gymhleth ac yn aml yn gysylltiedig â’i gilydd, mae canlyniadau iechyd a disgwyliad oes yn mynd yn waeth ac yn waeth ar draws y graddiant economaidd-gymdeithasol, ac mae dim cyfoeth/lefel isel o gyfoeth yn golygu nad oes gan aelwydydd unrhyw fynediad/llawer o fynediad at nwyddau a gwasanaethau sylfaenol fel gofal iechyd.

Daeth Asesiad o’r Effaith ar Gyfiawnder i’r casgliad nad yw’r cynigion yn debygol o gael llawer o effaith/unrhyw effaith o gwbl ar y system gyfiawnder.

7.3 Gan ystyried yr effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig yn:

  • cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant
  • osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Ni fydd cychwyn y Ddyletswydd yn disodli nac yn cystadlu â dyletswyddau eraill fel Deddf Cydraddoldeb 2010, Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a’r Ddyletswydd Llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Ein bwriad yw y bydd cychwyn y Ddyletswydd yn ategu’r dyletswyddau hyn drwy gyfrannu ymhellach at nodau llesiant hirdymor Cymru, yn enwedig “Cymru sy’n fwy cyfartal” a “Cymru o gymunedau cydlynus”. Bydd hyn yn cryfhau trefniadau partneriaethau cymdeithasol ymhellach ac yn hybu uchelgeisiau gwaith teg.  

Y nod felly yw y bydd y Ddyletswydd yn fecanwaith allweddol arall i gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, drwy fynnu bod cyrff cyhoeddus yn gwneud penderfyniadau gwell, lle mae ystyried anghydraddoldeb canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol yn rhan gwbl ganolog o’r penderfyniad.

Mae’r saith nod llesiant a’r pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, wedi cael eu dylunio i gefnogi ac i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus sy’n diwallu anghenion y presennol, heb amharu ar allu cenedlaethau’r dyfodol. Mae’n gwneud i’r 44 corff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf feddwl mwy am yr hirdymor, gan atal problemau rhag digwydd neu waethygu drwy gynnwys pobl a gweithio mewn ffordd sy’n fwy cydgysylltiedig. Mae egwyddorion y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn cefnogi hyn drwy osod gofyniad ar y cyrff hynny sydd wedi’u cynnwys yn y Ddyletswydd i roi ‘sylw dyledus’ wrth wneud penderfyniadau strategol i'r angen i leihau anghydraddoldebau canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol.

Sut bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso?

Bydd y Ddyletswydd yn gwella’r broses o wneud penderfyniadau mewn cyrff cyhoeddus, a fydd yn arwain at ganlyniadau gwell i’r rheini sy’n dioddef anfantais gymdeithasol ac economaidd. Bydd perfformiad mewn perthynas ag i ba raddau mae cyrff yn bodloni gofynion y Ddyletswydd, a pherfformiad mewn perthynas â gwella anghydraddoldebau canlyniadau o ganlyniad i anfantais economaidd-gymdeithasol yn cael ei ymgorffori yng ngwaith cyrff sy’n cyfrannu at ddeall sut mae cyrff cyhoeddus yn darparu Cymru sy’n fwy cyfartal. Bydd hyn yn cael ei adolygu. Nid oes dyletswydd adrodd ynghlwm wrth y Ddyletswydd. Yn ei rôl fel rheoleiddiwr Deddf Cydraddoldeb 2010, mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol bwerau i hyrwyddo ac i ddarparu cyngor a chanllawiau, a chyhoeddi ymchwil ar weithredu’r Ddyletswydd. Nid yw’n defnyddio ei bwerau gorfodi llawn mewn perthynas â’r Ddyletswydd gan nad yw Deddf 2010 yn sefydlu ‘gwahaniaethu economaidd-gymdeithasol’, ac nid yw ychwaith yn nodi anfantais economaidd-gymdeithasol fel nodwedd warchodedig yn Neddf 2010, ac felly ni fydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorfodi’r Ddyletswydd ar sail ‘gweithred anghyfreithlon’.